Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diolch i bobl a wnaeth riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Aberafan, fe wnaethom ddefnyddio'r data hwn i nodi glan môr Aberafan fel man problemus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol ac roedd modd i ni wneud newidiadau cadarnhaol yn eich cymuned.
Fe wnaethom weithredu.

Gwnaeth swyddogion o'n Tîm Plismona yn y Gymdogaeth yn Aberafan ddatblygu Ymgyrch Adriatic sy'n mynd i'r afael â materion ymddygiad gwrthgymdeithasol ar lan y môr ochr yn ochr â phartneriaid fel Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel, yr RNLI ac eraill, sydd wedi helpu i wella ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gostyngodd achosion o riportio ASB o 00% yn 2024 i 00% yn 2025.
Ar adegau drwy gydol yr haf, bydd gorchymyn gwasgaru Adran 35 yn cael ei awdurdodi ar y traeth, sy'n golygu y bydd pobl sy'n rhan o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gorfod gadael yr ardal.
Mae ein gwaith yn parhau i sicrhau ein bod yn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn gwneud glan môr Aberafan yn lle diogel a phleserus i bawb.
Dywedodd yr Arolygydd Andrew Price:
“Nod Ymgyrch Adriatic yw atal problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol cyn iddynt ddigwydd. Yn rhan o'r gwaith amlasiantaethol hwn, byddwn yn ymgysylltu â'r cyhoedd ochr yn ochr â'n partneriaid a hyrwyddo cyfrifoldeb ar y cyd er mwyn cadw'r traeth yn ddiogel a sicrhau nad oes unrhyw weithgarwch anghyfreithlon.
"Trwy gyfuno ein hadnoddau a chydweithio gyda phartneriaid, gallwn atal problemau rhag gwaethygu a chynnig cymorth i drigolion yr effeithir arnynt."