Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn cydnabod bod llefydd agored a meysydd parcio yn fannau â phroblem ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond diolch i'r nifer fawr o adroddiadau a wnaed, cyflwynwyd ateb ymarferol, a arweiniodd at ostyngiad yn nifer yr adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gan ddefnyddio data heddlu o adroddiadau, llwyddodd ein swyddogion i adnabod maes parcio Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr fel man â phroblem ymddygiad gwrthgymdeithasol ac roeddent yn gallu datblygu datrysiad wedi’i dargedu.
Fe wnaeth ein Rhingyll, Dan Parry, gysylltu â chlwb rygbi'r Gweilch er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r materion parhaus hyn.
Datblygodd Y Gweilch yn y Gymuned, ar y cyd â Heddlu De Cymru a Chymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, brosiect arloesol newydd, ‘TACKLE After Dark’ – menter sy’n gwahodd pobl ifanc i chwarae rygbi cyffwrdd mewn ardaloedd trefol fel meysydd parcio.
Ers i’r Rhingyll Dan Parry gyflwyno’r fenter, mae adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal wedi gostwng o 66% – ac wedi dangos pwysigrwydd riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol i’r heddlu.
O fewn pum wythnos gyntaf y prosiect gyda TACKLE after Dark, dyma nhw’n ymgysylltu â 107 o unigolion. O fewn chwe mis, gostyngodd adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol o 172 o alwadau a adroddwyd i 57 o alwadau a adroddwyd.
Dyma'r peilot ar gyfer Adrodd i Adfer a fydd yn gweld mentrau cymunedol eraill yn cael eu cyflwyno ledled De Cymru er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.