Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Gwobrau blynyddol TîmHDC yn dychwelyd heno, wrth i'r Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan achub ar y cyfle i anrhydeddu rhai o swyddogion, aelodau o staff a gwirfoddolwyr gorau'r sefydliad, yn ogystal â rhai o'n partneriaid gorau; unigolion a thimau sydd wedi mynd ymhellach na disgwyliadau eu rׅôl.
Dyma gategorïau'r gwobrau a'r bobl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ynddynt:
Y Rhingyll Holly Price a'r Cwnstabl Jordan Rockey
Ymatebodd y Rhingyll Price a'r Cwnstabl Rockey i adroddiad bod dyn yn arllwys petrol drosto ei hun ac yn bwriadu rhoi ei hun ar dân. Roedd ganddo hanes iechyd meddwl sylweddol ar ein systemau a marcwyr rhybudd am geisio niweidio swyddogion.
Yn y cyfeiriad, ni chafodd y swyddogion ateb yn y drws ffrynt felly gorfodwyd mynediad i'r ardd gefn lle daethant o hyd i'r dyn yn eistedd ar gadair, wedi'i orchuddio mewn petrol, a thaniwr ym mhob llaw. Gwnaeth y Rhingyll Price a'r Cwnstabl Rockey negodi ag ef, ond ymhen munudau, roddodd y dyn ei goesau ar dân. Heb ystyried ei diogelwch ei hun, rhedodd y Rhingyll Price ymlaen, gan fwrw'r dyn oddi ar y gadair, a heb flanced tân ar gael, defnyddiodd ei dwylo i'w rolio er mwyn diffodd y fflamau. Rhedodd y Cwnstabl Rockey yn ôl i'r cerbyd patrôl i nôl diffoddydd tân a rhoi gwybod i'r gwasanaeth tân a oedd yn y lleoliad, cyn dychwelyd i helpu'r Rhingyll Price.
Diolch i'w dewrder a'u meddwl chwim, dim ond 20% o losgiadau oedd gan y dyn ar ei goesau ac aeth ymlaen i gael cymorth iechyd meddwl.
Tîm Cymorth Tiriogaethol 4
Cododd dyn faricad o'i gwmpas mewn eiddo yn Abertawe, gan fygwth cynnau'r nwy i ffrwydro'r tŷ petai swyddogion yn dod yn agos.
Gosododd y Rhingyll Stevens a'i dîm gordonau a gwagio tai'r preswylwyr cyfagos wrth i'w cydweithwyr tân ac achub a gwasanaethau nwy ddod o hyd i'r switsh i dorri'r cyflenwad nwy ar ochr bellaf y tŷ. Ar ôl gwneud asesiad cudd, gwelodd y tîm y gallent gael mynediad i'r eiddo drwy ardd gyfagos heb i'r dyn wybod eu bod yno. Ar yr un pryd, roedd un o negodwyr yr heddlu wedi cael y dyn i sgwrsio ym mlaen y tŷ, lle y gwnaeth barhau i fygwth ac roedd cyllell gegin yn ei feddiant.
Gwaethygodd pethau wrth i'r dyn rwygo'r ffwrn nwy oddi ar y wal, ond yn ffodus, llwyddodd y tîm i ddadactifadu'r cyflenwad nwy yn gyflym. Yna, ceisiodd ddianc allan o'r eiddo drwy ffenestr gefn gyda'r gyllell yn ei feddiant o hyd lle cafodd ei ddal gan y tîm.
Gwnaeth gweithredoedd a dewrder y tîm lwyddo i osgoi dau ddigwyddiad a allai fod wedi achosi niwed sylweddol neu farwolaeth i'r dyn, ei gymdogion a'r gwasanaethau brys a oedd yn y lleoliad.
Ditectif Gwnstabl Tyler Rowland
Nid oedd y Ditectif Gwnstabl Tyler Rowland ar ddyletswydd pan oedd yn padlfyrddio ar draeth lle y daeth yn ymwybodol fod dyn ifanc mewn trafferthion yn y môr. Aeth DC Rowland ato ar unwaith a phlymiodd i mewn i ddod o hyd i'r bachgen 15 oed. Llwyddodd i gael gafael arno a'i dynnu i'r lan, ond nid oedd yn anadlu. Dechreuodd DC Rowland gyflawni adfywio cardiopwlmonaidd (CPR).
Ymunodd cydweithwyr yr heddlu â DC Rowland yn y lleoliad ar ôl ymateb i alwad frys a'i helpu i roi CPR hyd nes i'r ambiwlans gyrraedd.
Roedd hwn yn ddigwyddiad heriol a chyflym, ond aeth DC Rowland ati i helpu'r dyn ifanc heb feddwl ddwywaith am y niwed posibl y gallai gael ei hun. Dim ond newydd ymuno â Heddlu De Cymru yr oedd DC Rowland adeg y digwyddiad.
Ymgyrch Viscaria
Bu sawl achos o drais difrifol yng nghanol dinas Abertawe, ynghyd â chynnydd amlwg mewn dwyn ar y stryd, dwyn o siopau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan arwain at bartneriaid lleol yn disgrifio'r ddinas fel un “anniogel”.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, gwelodd Ymgyrch Viscaria ystod o dactegau'n cael eu defnyddio gan yr heddlu a wnaeth leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, a hynny wythnosau'n unig o ddechrau'r ymgyrch. Cynhaliwyd arolwg a ddatgelodd fod 72.05% o'r rhai a holwyd yn teimlo'n ddiogel yng nghanol y ddinas o gymharu ag 19.1% ym mis Medi 2023.
Dywedodd Russell Greenslade, Prif Weithredwr Swansea BID:
“Mae'r ymgyrch dactegol hon sydd wedi'i thargedu, a gafodd ei rhoi ar waith yn strategol i fynd i'r afael â'r materion a godwyd gan ein 800 a mwy o randdeiliaid yng nghanol y ddinas, yn gam cryf a phendant a groesawyd.
“Mae presenoldeb uwch gan yr heddlu, a gefnogwyd gan ein buddsoddiad, eisoes wedi cael effaith sylweddol, gan feithrin amgylchedd mwy diogel a chroesawgar yng nghanol y ddinas sy'n tyfu. Rwy'n hyderus y bydd y newidiadau cadarnhaol hyn yn parhau i ddatblygu.
“Mae'r canlyniadau'n dangos ymrwymiad diflino'r holl bartneriaid i ddarparu Canol Dinas sy'n ddiogel ac yn ffynnu.”
Ymgyrch Dunlin
Nododd Tîm Plismona yn y Gymdogaeth Penlan gynnydd sylweddol yn lleol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, delio mewn cyffuriau, defnydd o feiciau modur oddi ar y ffordd, difrod troseddol a llosgi, ynghyd â diffyg ymddiriedaeth gan breswylwyr o bob cenhedlaeth yn Heddlu De Cymru.
Gwnaethant fynegi nad oedd ganddynt lais ac er bod ymdeimlad o gymuned ag unigolion allweddol a oedd yn gweithio'n ddiflino i wneud gwelliannau, roedd eu hymdrechion yn cael eu rhwystro gan nad oedd cydlyniad. Roedd angen clir i bartneriaid a rhanddeiliaid ddod at ei gilydd i fynd i'r afael â'r materion a godwyd.
Gweithiodd y tîm plismona gyda chynghorwyr lleol a'r awdurdod lleol, Pobl Housing, Bysiau First Cymru a Sefydliad Swans i sicrhau cyllid ychwanegol, rhoi cymorth i unigolion allweddol ar yr ystâd, gwella ardaloedd hamdden, gweithio gyda'r gwasanaethau ieuenctid a chynnal digwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned, gan gynnwys sesiynau hyfforddiant pêl-droed am ddim.
Ar ei anterth, rhoddwyd gwybod am 35 o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol y mis a wnaeth ddirywio i ffigurau unigol erbyn diwedd 2023.
Yn ddiweddar, tynnwyd sylw at Ymgyrch Dunlin fel enghraifft o arfer gorau yn ystod cynhadledd datrys problemau fewnol.
Ditectif Gwnstabl Steven Davies
Yn 2016, wrth gerdded y strydoedd, gwnaeth DC Davies achub bywyd aelod o'r cyhoedd gan ddefnyddio diffibriliwr. Ers hynny, mae wedi rhoi o'i amser i wella nifer y diffibrilwyr sydd ar gael yn lleol, gan godi dros £50,000 i brynu a chynnal y cyfarpar achub bywyd hwn, a hyfforddi rhwydwaith o bobl i'w defnyddio.
Yn ogystal â'r prosiect diffibrilwyr, mae DC Davies wedi ymrwymo i gefnogi elusennau fel Ambiwlans Awyr Cymru, gan gwblhau sawl hanner marathon, triathlon a her Iron Man i godi arian.
Dywedodd Mick Antoniw AS:
"Mae angen hyrwyddwr egnïol fel Steve Davies ar bob cymuned, ond prin iawn yw'r cymunedau sy'n ffodus o gael rhywun mor ymrwymedig ac effeithiol.”
Derbyniodd DC Davies wobr ‘Points of Light’ y Prif Weinidog llynedd sy'n cydnabod gwirfoddolwyr unigol eithriadol."
Rhingyll Alison Robinson
Trosglwyddodd y Rhingyll Robinson i Heddlu De Cymru ym mis Rhagfyr 2022 ac ymunodd yn gyflym â'r Rhwydwaith Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau a gofynnodd am sefydlu grŵp cefnogi cymheiriaid ar gyfer colli babanod. Roedd ganddi gysylltiad personol ac roedd hi'n angerddol ynghylch cefnogi pobl a oedd wedi cael profiad ohono.
Erbyn mis Medi 2023, roedd gan y Rhingyll Robinson restr o swyddogion a staff a oedd yn fodlon bod yn rhan ohono, ac aeth ati i drefnu a hyrwyddo gweminar colli babanod cyn Wythnos Ymwybyddiaeth o Golli Babanod. Roedd hyn yn cynnwys nodi siaradwr gwadd o elusen SANDS a sicrhau cyllid.
Yn dilyn llwyddiant y gweminar, drafftiodd y Rhingyll Robinson amodau gorchwyl a'u cyflwyno i'r Rhwydwaith Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau er mwyn lansio'r grŵp cefnogi cymheiriaid ar gyfer colli babanod yn swyddogol a threfnodd fod tudalen mewnrwyd yn cael ei datblygu. Cyflawnodd hyn i gyd mewn llai na chwe mis. Mae'r Rhingyll Robinson bellach yn cadeirio cyfarfodydd bob deufis gyda'r grŵp cefnogi cymheiriaid sy'n cynnig lle i gydweithwyr benywaidd a gwrywaidd, i rannu eu profiadau neu i ofyn am gyngor i gefnogi rhywun arall.
Mae gwaith y Rhingyll Robinson yn cyfrannu'n uniongyrchol at Gynllun Cyflawni'r Prif Gwnstabl i flaenoriaethu iechyd a llesiant, gan ddangos arweinyddiaeth gefnogol, a blaenoriaethu cynwysoldeb.
Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Patrick Dunbar
Mae'r PCSO Dunbar wedi hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn modd cadarnhaol yn ei rôl fel PCSO gyda chymunedau lawer yn Abertawe, gan fynd ymhellach na'r disgwyl i sicrhau bod sawl grŵp lleiafrifol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod ganddynt lais.
Pan agorodd mosg newydd yn Sgeti, gweithiodd PCSO Dunbar gydag arweinwyr cymunedol, gan lunio cynllun i fynd i'r afael ag anghenion aelodau'r mosg a'r gymuned drwy drefnu sesiynau galw heibio wythnosol. Yn dilyn hyn, trefnwyd sesiwn i bobl ifanc, a gynhelir bob dydd Sadwrn, ynghyd â chlwb ieuenctid haf. Yn ddiweddarach, sefydlodd PCSO Dunbar hefyd grŵp 50 oed neu'n hŷn a dechreuodd Flog y Swyddog ar wefan y mosg a oedd yn cynnwys cyngor a gwybodaeth.
Mae PCSO Dunbar hefyd wedi gweithio gyda'r gymuned LHDTC+, gan gyflwyno bore coffi yn y Mwmbwls. Cefnogwyd hyn gan y cynghorydd lleol a hysbysebwyd y sesiynau galw heibio ar raddfa eang a chafwyd ymateb gwych. Mae'r ymgysylltiad wedi gwella cydlyniad ac mae'r gymuned gyfan wedi elwa arno. Dim ond dwy enghraifft o waith PCSO Dunbar yw'r rhain. Caiff ei ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ei arddangos bob dydd.
Becky Llewellyn, Swyddog Esgidiau Fforensig
Mae Becky yn ymdrechu i addysgu ei hun ar bob agwedd ar anghydraddoldeb, er mwyn deall y materion sy'n effeithio ar ein cymunedau amrywiol, a hyrwyddo cynhwysiant.
Aeth Becky ati ei hun i ddefnyddio gofod lle y gall aelodau o'r Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd a'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus ymgysylltu, addysgu eu hunain a hyrwyddo digwyddiadau er mwyn annog cynwysoldeb. Mae'r syniad hwn wedi'i ledaenu ledled yr heddlu fel enghraifft o sut i greu lleoedd cynhwysol.
Mae hefyd yn rhan weithgar o'n Rhwydweithiau Cymorth i Staff, gan gynnig ei chymorth ble bynnag y gall wneud hynny, o olygu deunydd hyrwyddo Rhwydwaith Staff LHDT+ a mynychu digwyddiadau Pride, i helpu gyda chyfieithiadau i'r Gymraeg.
Mae Becky hefyd yn bwynt cyswllt i'n Tîm Gweithredu Cadarnhaol ac mae wedi cysgodi'r Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i sicrhau ei bod hi'n barod ar gyfer y rôl. Nid ar chwarae bach y mae Becky yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb ac mae'n awyddus i ddysgu a gwrando bob amser.
Bike Safe
Menter diogelwch ar y ffyrdd yw Bike Safe lle y gall aelodau o'r gymuned beiciau modur, sy'n ddefnyddwyr agored i niwed ar y ffordd, gael cyfraniadau gan feicwyr modur profiadol ar arferion reidio diogel a chael adborth ar eu reidio er mwyn eu helpu i wella.
Mae tîm Bike Safe yn falch o fod yn y pump gorau yn y wlad o ran nifer y lleoedd mewn gweithdai ac ansawdd y cynnwys. Ni fyddai hyn yn bosibl heb y gwirfoddolwyr cymorth heddlu ymroddedig, y bu llawer ohonynt yn hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd ar ran Heddlu De Cymru ers dros 15 mlynedd.
Rhwng mis Chwefror a mis Hydref y llynedd, rhoddodd y gwirfoddolwyr o'u hamser i gefnogi 20 o weithdai, gan helpu rhyw 200 o feicwyr modur i wella'u sgiliau reidio. Mae hyn yn fwy na 500 o oriau o waith.
Yn ogystal â gwirfoddoli gyda Heddlu De Cymru, mae llawer o aelodau'r tîm hefyd yn gwirfoddoli fel tiwtoriaid gyda sefydliadau eraill er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd ymhellach.
Gwirfoddolwr Ieuenctid yr Heddlu, Ellie Deguara
Ymunodd Ellie â Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu ddwy flynedd yn ôl ac nid yw erioed wedi colli sesiwn. Mae wedi cefnogi dros 50 o weithgareddau ac wedi gwirfoddoli dros 200 o oriau.
Helpodd Ellie gyda'r fforwm Lleisiau Ifanc lle adolygodd ganlyniadau'r sesiynau, nodi'r pedair blaenoriaeth orau ac ystyried sut y gellid mynd i'r afael â nhw. Yna, cyflwynodd y rhain, ynghyd â thri gwirfoddolwr arall, i'r uwch dîm rheoli, a oedd yn cynnwys Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Un o'r pryderon oedd bod pobl ifanc yn teimlo'n anniogel ym Mharc y Mynydd Bychan, Caerdydd, ac yn dilyn rhagor o ymchwil, gwelwyd mai diffyg golau yn y parc oedd y brif broblem. Mae Cyngor Caerdydd bellach yn mynd i'r afael â hyn.
Mae Ellie hefyd yn ymrwymo i gefnogi digwyddiadau codi arian ac ymgysylltu fel Hanner Marathon Caerdydd a phartïon Calan Gaeaf yn ardaloedd Rhiwbeina a Grangetown yng Nghaerdydd. Mae Ellie yn gwneud ymdrech fawr bob tro, drwy wisgo i fyny ac annog pawb i gymryd rhan. Mae'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl.
Mae Ellie wir wedi tyfu i mewn i'r rôl ac mae'n mynd allan o'i ffordd i helpu i groesawu gwirfoddolwyr newydd, a sicrhau y caiff y grŵp cyfan ei gefnogi.
Rhingyll Gwirfoddol Benjamin Johns
Ymunodd y Rhingyll Gwirfoddol Johns â'n Cwnstabliaeth Wirfoddol ym mis Ionawr 2015. Mae ei gyfraniad yn ei amser ei hun yn sylweddol – 1,107 o oriau yn 2023 – ac mae wedi bod yn allweddol mewn sawl ymgyrch lle y bu ei arweinyddiaeth a'i arbenigedd yn amhrisiadwy.
Enghraifft ddiweddar o hyn yw ei gydweithrediad â Chyngor Caerdydd a'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) i wirio gweithredwyr tacsi. Stopiwyd rhyw 150 o gerbydau trwyddedig, a arweiniodd at ganlyniadau gan gynnwys atafaelu cerbyd am nad oedd ganddo yswiriant, cerbydau a dynnwyd oddi ar y ffordd gan y DVSA oherwydd eu cyflwr peryglus, eraill a gafodd eu gwahardd am namau difrifol yn ymwneud â'r llyw, y crogiant neu'r teiars, rhoddwyd hysbysiadau i fwy na 25 o gerbydau o ddiffygion yr oedd angen eu hatgyweirio ymhen 10 diwrnod, a rhoddwyd sawl dirwy.
Dywedodd y Prif Arolygydd Jeff Lewis am yr ymgyrch hon:
“Yn wych fel arfer. Gwaith aruthrol mewn ardal sy'n anodd iawn cael adnoddau ar ei chyfer yn aml iawn.”
Ynghyd â chefnogi ymgyrchoedd wedi'u cynllunio, mae'r Rhingyll Gwirfoddol Johns â'i dîm hefyd yn helpu swyddogion mewn digwyddiadau a gydag ymchwiliadau. Yn ddiweddar, arweiniodd dîm o Swyddogion Gwirfoddol i adnabod rhywun dan amheuaeth a thystion yn gyflym, a sicrhau tystiolaeth, a arweiniodd at gyhuddo'r ymosodwr o niwed corfforol difrifol bwriadol.
Mae ymrwymiad y Rhingyll Gwirfoddol Johns i'w dîm o Gwnstabliaid Gwirfoddol yn ddi-ildio. Mae'n adnabyddus am ei natur agos atoch a'i barodrwydd i fentora cydweithwyr a chefnogi eu datblygiad.
Tîm Ymgyrch Ddim yr Un
Mae #YmgyrchDdimYrUn yn defnyddio dull gweithredu newydd i atal troseddau'n ymwneud â chyllyll, yn seiliedig ar wybodaeth gan bobl ifanc a'r ymchwil academaidd ddiweddaraf.
Mae'r ymgyrch ymyrryd yn gynnar ac atal yn targedu pobl 11 i 16 oed, gyda ffocws ar ennyn diddordeb bechgyn, drwy ddarparu adnoddau i oedolion dibynadwy fel hyfforddwyr, athrawon, gweithwyr ieuenctid a swyddogion yr heddlu i addysgu pobl ifanc ar oblygiadau cario cyllell. Lansiwyd yr ymgyrch ym mis Mawrth 2022.
Roedd cam un yn cynnwys tri chyfweliad fideo gyda dioddefwyr troseddau cyllyll ac aelodau o deuluoedd dioddefwyr, yn ogystal â chwisiau, cynlluniau gwersi a thaflenni ffeithiau, y cyfan ar wefan DdimYrUn, ac a rannwyd gyda gweithwyr proffesiynol drwy e-farchnata ac ar lafar. Mae cam un wedi ymgysylltu â 100,000 o bobl dros Facebook, Instagram a TikTok ac mae 1,000 o becynnau addysg wedi'u lawrlwytho.
Gwnaeth yr ail gam adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd o gam un, ac roedd yn cynnwys ffilm a sgriptiwyd gan awduron ifanc o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, cyfweliad cyfres ‘In Conversation’ gyda gweithiwr ieuenctid i roi cyngor ymarferol, ac adran ‘Cael eich ysbrydoli’ newydd ar y wefan er mwyn i weithwyr proffesiynol allu gweld enghreifftiau o'r ffordd mae pobl eraill wedi defnyddio'r ymgyrch.
Mae'r ymgyrch wedi arwain at ostyngiad o 12% mewn troseddau'n ymwneud â chyllyll ledled De Cymru – sy'n groes i'r duedd genedlaethol – ac mae'r Swyddfa Gartref yn rhannu'r ymgyrch fel enghraifft o arfer gorau sydd wedi arwain at sawl heddlu yn y DU yn ei mabwysiadu.
Cwnstabl Jonathan Abel
Daeth grŵp o bobl ifanc 12 i 17 oed i amlygrwydd ym Merthyr Tudful yn 2022. Gwnaethant gymryd rhan mewn sawl digwyddiad gan gynnwys ymosodiadau, difrod troseddol ac achosion o ladrata yn cynnwys arfau. Cafodd hyn effaith negyddol ar y gymuned leol a chreodd alw sylweddol am y tîm plismona lleol.
Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, ac am fod ganddo hefyd bryderon am aelodau'r grŵp eu hunain, sicrhaodd Cwnstabl Abel chwe Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBOs). Roedd hyn yn garreg filltir sylweddol oherwydd pan dorrodd sawl aelod ei orchymyn yn dilyn hynny, gallai'r swyddogion a oedd yn ymateb gymryd camau uniongyrchol.
Daeth Cwnstabl Abel yn ‘arbenigwr’ ar y grŵp ac aeth ymhellach na'r disgwyl yn ei rôl – gan gyfrannu at y proffil datrys problemau a thuag at ymchwiliadau. Yn ogystal, rhannodd ei wybodaeth â phartneriaid allanol a'u cefnogi. Yn dilyn hyn cymerwyd camau pellach yn erbyn y grŵp mewn perthynas â thai, ac yn benodol, eiddo a oedd wedi dod yn fan cyfarfod, gan gynnwys cyn i aelodau'r grŵp gyflawni ysbeiliad arfog mewn siop leol.
Mae'r Cwnstabl Abel wedi bod yn arloesol wrth ddefnyddio'r tactegau sydd ar gael fel CBOs a cheisiadau am orchymyn cau i darfu ar grwpiau fel yr un hwn, ac mae wedi rhannu'r gwersi y mae wedi'u dysgu â chydlynwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol eraill at ddibenion arfer gorau. Mae'n angerddol dros blismona ac mae'n un sy'n datrys problemau a fydd yn mynd i'r afael â'r materion byrdymor a dod o hyd i atebion hirdymor.
Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd (JSIU) y Tîm Ansawdd ac Achredu
Mae achredu yn faes hollbwysig o fusnes i sicrhau y caiff tystiolaeth fforensig ei hatafaelu, ei hastudio a'i chyflwyno yn unol â chodau ymarfer llym a osodwyd gan Reoleiddiwr y Gwasanaeth Fforensig a Thimau Arolygu UKAS. Caiff yr uned ei hasesu yn erbyn Sefydliad Safonau Rhyngwladol (ISP) 17020 ac 17025 a Chodau Ymarfer Rheoleiddiwr y Gwasanaeth Fforensig.
Ym mis Hydref 2023, daeth Cod y Rheoleiddiwr Fforensig yn gyfraith, sy'n cael effaith enfawr ar y ffordd yr oedd canlyniadau fforensig yn cael eu cyflawni mewn adroddiadau fforensig. Gan nad oedd yr achrediadau'n cael eu dyfarnu, ni fyddai'r Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd yn gallu helpu ymchwiliadau a darparu tystiolaeth fforensig i helpu i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.
Roedd cyflawni hyn yn dasg enfawr i'w chwblhau mewn amserlen gyflym, ond gwnaeth sgiliau a chymhelliant y tîm sicrhau y cafodd ei chwblhau ar amser ac yn unol â'r ddeddf newydd. Mae cydymffurfiaeth â'r ddeddf newydd hon yn sicrhau cydymffurfiaeth mewn sawl maes ac nid oes unrhyw achosion yn y llys wedi'u herio hyd yma.
Tîm Ymchwilio i Achos o Dreisio Caerdydd
Sicrhaodd y tîm hwn euogfarn Liam Stimpson, rheibiwr rhywiol difrifol a wnaeth fanteisio ar fenyw ddigartref. Roedd Stimpson wedi mynd at y ddioddefwraig yng nghanol dinas Caerdydd a chynigiodd brynu bwyd iddi. Yr hyn a ddilynodd oedd ymosodiad gwyllt a chreulon.
Rhoddodd y swyddogion ymateb ofal trugarog i'r ddioddefwraig yn gyflym a gwnaethant weithio gyda'r gweithredwr camera teledu cylch cyfyng i adnabod y dyn dan amheuaeth a'i ddal.
Yna gweithiodd tîm yr ymchwiliad yn fethodolegol i nodi lleoliad y drosedd a chanfod dillad y ddioddefwraig a oedd wedi cael eu cuddio gan y dyn dan amheuaeth. Yn ogystal, llwyddodd y ditectifs i fynd i mewn i ffôn y dyn dan amheuaeth lle y gwnaethant ddarganfod recordiad erchyll o'r ymosodiad. Cyhuddwyd Stimpson o bedair trosedd, gan gynnwys trais a niwed corfforol difrifol.
Roedd angen i'r rheithgor weld y fideo ond roedd risg y byddai ei wylio'n peri trawma iddynt. Felly, gweithiodd swyddogion delweddu fforensig arbenigol yn ofalus i gynhyrchu cynnyrch ar gyfer y treial. Yn ogystal, gweithiodd y swyddog yn yr achos gyda'r ddioddefwraig a'i chefnogi er mwyn iddi allu rhoi tystiolaeth. Roedd y rheithfarn euog yn unfrydol. Dedfrydwyd Stimpson i 15 mlynedd o garchar ac mae'n droseddwr rhyw cofrestredig am oes.
Uned Ymchwiliadau i Wrthdrawiadau Difrifol
Methodd gyrrwr â stopio wrth leoliad gwrthdrawiad â beiciwr, gan adael heb geisio helpu'r dioddefwr, y bu rhaid iddo yntau golli ei goes. Nid oedd unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad a'r unig dystiolaeth oedd casyn drych ystlys a adawyd yn y lleoliad. Roedd teledu cylch cyfyng ar gael o leoliad wedi'i osod yn ôl o'r ffordd, gan olygu ei bod yn amhosibl adnabod y gyrrwr.
Ymwelwyd â 31 o safleoedd, edrychwyd ar 113 darn o ddeunydd teledu cylch cyfyng a gwnaed gwaith cudd i ganfod y cerbyd gyda difrod i'w ddrych ystlys ar ôl y gwrthdrawiad. Cadarnhawyd iddo gael ei werthu'r diwrnod ar ôl y digwyddiad i ddyn yn Lloegr.
Roedd y difrod i'r cerbyd yn cyfateb i'r difrod ar y beic y bu'r dioddefwr yn seiclo arno a dangosodd i'r cerbyd fod yn teithio ar gyflymder o ddim llai na 52mya ar gyfartaledd.
Anfonwyd y drychau ystlys er mwyn cymharu'r paent a oedd yn cefnogi'r awgrym yn gryf fod y drych ystlys wrth y lleoliad a'r drych ystlys ar y cerbyd a gafodd ei adfer wedi dod o'r un cerbyd.
Cafwyd gafael ar ddau ffôn symudol y gyrrwr dan amheuaeth ac roedd yr hyn a lawrlwythwyd ohonynt yn cadarnhau y gellid priodoli'r ffôn i'r gyrrwr dan amheuaeth a gwrthbrofi'r adroddiad ei fod i ffwrdd y Ninbych-y-pysgod adeg y gwrthdrawiad. Roedd y tîm hefyd yn gallu gweld bod y sawl dan amheuaeth wedi cysylltu â 15 deliwr sgrap cerbydau yn dilyn y gwrthdrawiad.
Awdurdododd Gwasanaeth Erlyn y Goron gyhuddiad am achosi anaf difrifol drwy yrru heb ofal dyledus, a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Ditectif Gwnstabl Eleanor Dallas
Mae DC Dallas yn rhan o dîm sy'n ymchwilio i achosion difrifol a chymhleth sy'n cynnwys plant, sydd yn aml yn cael effaith ddofn ar y dioddefwr, ei anwyliaid a'r ymchwilydd.
Daeth dioddefwraig 12 oed atom i ddweud wrthym beth oedd wedi digwydd iddi gan droseddwr, a helpodd hyn i ddau ddioddefwr mewn oed arall i ddatgelu beth oedd wedi digwydd iddynt hwy. Roedd y troseddwr wedi bod ym cam-drin ers bron i hanner canrif.
Cwblhaodd DC Dallas ymchwiliad trwyadl a hirfaith, gan reoli materion cymhleth o ran datgelu, a chan weithio'n agos gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron. Roedd y gwaith casglu tystiolaeth yn cynnwys astudio cannoedd o ddogfennau a data digidol, a arweiniodd at gyhuddiadau niferus gan gynnwys trais, ymosodiad rhywiol, creulondeb i blant a voyeuriaeth. Gwnaeth DC Dallas hefyd gefnogi'r teuluoedd a oedd yn aros am y treial.
Cafwyd y troseddwr yn euog o 27 o droseddau a chafodd ei ddedfrydu i 30 o flynyddoedd o garchar. Cafodd ei ddisgrifio fel ‘pedoffilydd hirsefydlog’ ac yn berygl i blant.
Yn ystod yr un cyfnod, roedd gan DC Dallas bedwar treial yn mynd rhagddo yn llys y goron a arweiniodd at ddedfrydau o dros 50 mlynedd.
Ditectif Brif Arolygydd Andrew Bartholomew
Mae DCI Bartholomew yn gweithio yn ein Huned Rheoli Diogelu ac Amddiffyn y Cyhoedd ac mae'n rheoli POLIT (Tîm Ymchwilio Ar-lein yr Heddlu) lle y mae wedi rhoi newidiadau lawer ar waith i wella perfformiad. Llwyddodd DCI Bartholomew hefyd i wella'r ffordd rydym yn rheoli troseddwyr.
Yn ogystal â hyn, camodd DCI Bartholomew i rôl yr Uwch Swyddog Ymchwilio ar gyfer Ymgyrch Tisbury, yr ymchwiliad i gyn gwnstabl yr heddlu Lewis Edwards, a wnaeth gam-drin cannoedd o blant ar-lein. Arweiniodd dîm amlddisgyblaethol, gan sicrhau eu bod yn gweithio ar bob llwybr ymchwiliol, a bod ganddo gefnogaeth ein timau arbenigol, yn ogystal â sawl un o heddluoedd y DU a'r NCA gan fod y troseddau wedi digwydd ar raddfa fyd-eang.
Cafodd DCI Bartholomew ambell i sgwrs heriol gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron, ac eto llwyddodd i ohirio treial er mwyn sicrhau bod y nifer uchaf posibl o ddioddefwyr yn cael eu cydnabod yn y cyhuddiad. Cafodd Edwards ddedfryd oes. Heriodd y ddedfryd hon yn y llys apêl yn ddiweddarach a bu'n aflwyddiannus. Mae'r achos hwn bellach wedi gosod cynsail gyfreithiol.
Er mwyn helpu i atal achos fel hyn eto, mae DCI Bartholomew a'i gydweithwyr wedi cysylltu â'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwyd gan Edwards i gam-drin ei ddioddefwyr er mwyn eu herio i blismona eu cynnwys yn well. Mae hefyd yn arwain tîm yr heddlu i ddarparu cyfres o fewnbynnau addysgol i rieni er mwyn eu helpu i gadw eu plant yn ddiogel.
Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Amy Hughes
Mae PCSO Hughes yn Swyddog Cymorth Cymunedol ymrwymedig gyda'r Heddlu, yn Swyddog Gwledig a Bywyd Gwyllt ac yn arweinydd Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu. Mae'n rhoi 100% i mewn i bopeth y mae hi'n ei wneud, gan fynd y hwnt i ofynion ei swydd bob dydd.
Mae PCSO Hughes yn gwneud cynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu yn hwyl ac yn ddeniadol ac mae'n canolbwyntio ar adeiladu sylfaen ar gyfer dyfodol pobl ifanc. Adlewyrchir hyn yn eu balchder wrth wisgo'r lifrai a chynrychioli Heddlu De Cymru.
Yn aml, mae Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu yn gofyn am fewnbwn adrannau'r heddlu ac asiantaethau allanol a bydd PCSO Hughes yn gwneud ei gorau bob amser i drefnu'r ymweliadau hyn i'r grŵp er mwyn eu helpu i gyflawni eu nodau.
Dywedodd un o Wirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu:
“Mae Amy wir wedi fy helpu i setlo fel Gwirfoddolwr Ieuenctid yr Heddlu. Mae wedi bod yn arweinydd gwych, hwyliog a llawn anogaeth. Galluogodd fi i gwblhau fy ngwaith cymunedol ym Magloriaeth Cymru ac mae wedi fy nghefnogi a'm cymell drwyddi draw.”
Cwnstabl Philip John
Ymunodd PC Philip John â'n Tîm Cymorth Tiriogaethol yn 2021 yn dilyn ei wasanaeth blaenorol yn yr Heddlu Metropolitanaidd a'r Môr-filwyr Brenhinol.
Mae PC John hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau swyddogion ar draws yr heddlu fel hyfforddwr gynnau Taser, hyfforddwr trefn gyhoeddus, a Chynghorydd Diogelwch Cyhoeddus a Threfn Gyhoeddus (POPSA).
Mae gan PC John agwedd gallu gwneud, ac mae wir yn poeni am lesiant ei gydweithwyr, felly mae am ddarparu'r sgiliau cywir iddynt gyflawni eu swydd yn effeithiol ac yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys cynllunio'r canolfannau asesu recriwtio i fod yn broses gadarn, gyda sawl cam er mwyn profi a mesur sgiliau'r swyddogion sy'n gwneud cais am y rôl cymorth tiriogaethol.
Gall weithio ar lefelau strategol, tactegol a gweithredol, ac uwchlaw ei reng parhaol. Yn 2023, cafodd ei leoli i ddigwyddiadau proffil uchel niferus fel yr anhrefn yn Nhrelái.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Comander Arian Esyr Jones:
“Mae Phil wedi meithrin enw da ymhlith y cnewyllyn gorchymyn fel cynghorydd tactegol hynod gymwys a dibynadwy; mae uwch-arweinwyr ledled yr heddlu yn ymddiried yn Phil ac yn rhoi eu hyder ynddo yn ystod y sefyllfaoedd pwysau uchaf.”
Y Cyn Gwnstabl Paul Union
Ymddeolodd Paul ym mis Mehefin ar ôl 28 o flynyddoedd ar y rheng flaen yn gweithio gyda chymunedau Grangetown.
Disgrifiwyd Paul fel ‘heddwas stryd o'r iawn ryw’ gyda dealltwriaeth aruthrol o ddynameg y gymuned leol, ac roedd yn wyneb dibynadwy a oedd yn gallu tawelu meddyliau a thensiynau ar sawl achlysur oherwydd ei ddull gweithredu cyson.
Mae'n adnabyddus am ei natur ragweithiol a'i ymrwymiad i fynd ar drywydd troseddwyr, gyda chydnabyddiaeth yn 1998 am sicrhau arestiadau am fod ym meddiant cerbydau modur gwerth uchel gyda'r bwriad o'u cyflenwi, a chydnabyddiaeth bellach yn 2003 am ei ddycnwch wrth nodi ac arestio dyn lleol ar ôl iddo anafu cyd-swyddog yr heddlu tra'r oedd ar ddyletswydd.
Mae Paul hefyd wedi'i gydnabod am atal niwed a diogelu pobl agored i niwed, heb fawr o feddwl am ei ddiogelwch ei hun. Ymhlith yr enghreifftiau amlwg mae:
Ditectif Ringyll Gareth Thornton
Dechreuodd DS Thornton ei yrfa yn yr heddlu yn 2000 a daeth yn dditectif yn 2005. Mae wedi dangos arweinyddiaeth yn gyson wrth reoli rhai o'r ymchwiliadau mwyaf cymhleth ac uchel eu proffil yn ein hardal, gan gynnwys llofruddiaeth Dr Gary Jenkins, dynladdiad drwy esgeulustod difrifol Jeffrey Plevey, ymgais i lofruddio, a dymchwel ac erlyn Grŵp Troseddau Cyfundrefnol arwyddocaol o Ogledd Llundain.
Mae DS Thornton wedi dangos gwir ymrwymiad i gydweithwyr drwy gymell timau i lwyddo nid yn unig ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd mewn profedigaeth a thystion, ond hefyd i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial.
Mae ei gydweithwyr wedi dweud:
“Mae ei gymorth di-ildio, agosatrwydd a gwybodaeth ddofn wedi gwella fy mhrofiad yn sylweddol.
Y goruchwyliwr gorau hyd yma. Mae wastad yn hawdd mynd ato mae'n rhoi pobl eraill yn gyntaf hyd yn oed os yw hynny'n golygu gwneud cam ag ef ei hun.”
Yn y cyfamser, disgrifiodd ei reolwr llinell DS Thornton fel “heb amheuaeth, fe yw un o'r unigolion uchaf ei barch, diwyd, brwdfrydig, proffesiynol a chydwybodol rydw i wedi gweithio gyda nhw yn ystod fy 23 o flynyddoedd gyda Heddlu De Cymru”.
Alison Davies, Swyddog Ymholiadau Gorsaf
Ymunodd Alison â Heddlu De Cymru ym mis Ionawr 1984 a threuliodd y rhan fwyaf o'i 40 mlynedd o wasanaeth fel swyddog ymholiadau gorsaf.
Mae natur gynnes ac agwedd gallu gwneud Alison yn golygu ei bod hi'n uchel ei pharch ymhlith ei chydweithwyr a'r aelodau lawer o'r cyhoedd y mae hi wedi cyfarfod â nhw a'u cynorthwyo.
Yng ngorsaf yr heddlu Porthcawl ym mis Mehefin 2009, datgelodd dyn o'r enw Phillip Packer iddo ladd ei gyn gariad Jenna Thomas, a bod ei chorff yn ei gerbyd y tu allan i'r orsaf. Aeth Alison ati mewn ffordd ddynamig i ddyrannu swyddogion i'r lleoliad er mwyn dal Packer, gwarchod tystiolaeth a sicrhau urddas y dioddefwr.
Yn ogystal â rôl Alison fel swyddog ymholiadau gorsaf, mae hi hefyd yn ddirprwy arweinydd tîm, sy'n ei galluogi i rannu ei phrofiad, gwybodaeth a pharodrwydd i weithio amhrisiadwy gyda chydweithwyr newydd.
Colin Probert, Arbenigwr Rhwydweithiau TGCh
Mae Colin wedi bod yn allweddol wrth gyflawni sawl prosiect cymhleth sydd wedi gwella galluoedd cyfathrebu yn ein sefydliad ac i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae hyn yn cynnwys trawsnewid ein system deleffoni o lwyfan analog i system ddigidol o'r radd flaenaf. O dan ei arweinyddiaeth, ni oedd un o'r heddluoedd cyntaf i gwblhau'r prosiect trawsnewid hwn, gan arddangos ffordd o feddwl flaengar ac ymrwymiad Colin i ddatblygiadau technolegol.
Mae ei waith yn goruchwylio Prosiect Rhesymoli'r Ystafell Reoli, a wnaeth leihau tair ystafell reoli weithredol i un ystafell reoli amlasiantaethol o'r radd flaenaf gyda safle wrth gefn, yn dangos ei weledigaeth strategol a'i ragoriaeth weithredol, ynghyd â'i ysbryd cydweithredol. Mae ei bartneriaethau gyda BT i ddiffinio a phrofi technoleg wrth gefn 999 wedi gosod meincnod mewn protocolau ymateb i argyfwng.
Yn ogystal, cyflwynodd Colin Openscape Voice ac Openscape Contact Centre (High-Path) yn fewnol a chwaraeodd rôl allweddol wrth helpu Heddlu Gwent a'r gwasanaeth tân yn ystod eu prosesau trawsnewid hwythau hefyd. Yn ogystal, mae wedi cefnogi sawl prosiect mawr fel Uwchgynhadledd NATO ac ymweliad y Brenin.
Mike Parry, Pennaeth Dadansoddi
Mae Mike wedi bod yn arloeswr ar ochr ddadansoddol plismona ar raddfa leol, genedlaethol a rhyngwladol.
Mae wedi bod wrthi'n ddiflino yn hyrwyddo gwerth dadansoddi cudd-wybodaeth, paratoi adroddiadau cymhellol a defnyddio dulliau arloesol o gyfuno setiau data gwahanol i roi cipolygon newydd i fygythiadau, risg a niwed a darparu data hollbwysig i swyddogion ac aelodau o staff rheng flaen mewn ffordd gyflym ac effeithlon. Mae Mike hefyd wedi cyflwyno systemau cudd-wybodaeth a mapio eraill, sydd wedi gwella'r allbwn dadansoddol yn lleol i raddau helaeth.
Tra'r oedd ar secondiad gyda Chyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, helpodd Mike i ddatblygu'r Rhaglen Proffesiynoli Cudd-wybodaeth ar gyfer dadansoddwyr ac ymchwilwyr, a sefydlodd Fwrdd Galluedd y Dadansoddwyr Cenedlaethol. Bu hefyd yn allweddol wrth ddatblygu galluoedd Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu.
Ymgyrch Arbroath
Cyflawnwyd Ymgyrch Arbroath mewn dau gam. I ddechrau, cyflwynwyd cynllun newydd o'r enw LEAD - Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol ar Gŵn - er mwyn annog perchnogaeth gyfrifol o gŵn. Mae hwn wedi bod yn llwyddiannus yn Llundain yn dilyn ymosodiad angheuol gan gi yn 2010.
Dechreuodd cam dau yr ymgyrch pan gyhoeddodd y Llywodraeth waharddiad ar gŵn XL Bully yng Nghymru a Lloegr. Cymerodd yr adran cŵn a'r tîm cudd-wybodaeth ddull rhagweithiol o fynd i'r afael â'r gwaharddiad hwn: nodi cŵn, perchnogion a safleoedd a oedd yn cael eu graddio bryd hynny cyn unrhyw orfodaeth yn seiliedig ar fygythiad posibl, niwed a risg.
Cafodd dros 250 o gŵn XL Bully posibl eu nodi, a siaradodd y swyddogion â'u perchnogion, gan roi hysbysiad o'r newid yn y gyfraith oedd i ddod a'r canllawiau yn ymwneud â gwneud cais am eithriad. Roedd hyn yn golygu bod modd casglu gwybodaeth ychwanegol, oherwydd gallai'r swyddogion cŵn naill ai gadarnhau neu wadu mai XL Bully yw'r ci.
Aeth yr adran gŵn a'r swyddogion lleol ati i gwblhau sawl warant a gweithgaredd gorfodi. Rydym yn cael ein hystyried fel un o'r heddluoedd mwyaf rhagweithiol yng Nghymru a Lloegr mewn perthynas â'n hymateb i'r gwaharddiad ar gŵn XL Bully. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ac mae gennym sawl achos llys ac erlyniad yn yr arfaeth.
Ymgyrch Grey Atlantic
Canolbwyntiodd yr ymgyrch hon ar bobl dan amheuaeth yn ardal Caerdydd a'r Fro a'i bwriad oedd gwella ymateb yr isadran i ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned drwy fynd ar drywydd troseddwyr.
Mae'r ymgyrch wedi'i chyflawni mewn tri cham dros gyfnod o dri mis bob tro. Y canlyniadau cyfunol ar gyfer y tri cham oedd arestio 616 o bobl dan amheuaeth, yr oedd 287 ohonynt am faterion trais domestig – gwaith gwych ar gyfer tîm o chwe swyddog yn unig bob tro.
Gwnaeth yr ymgyrch hefyd nodi meysydd eraill i'w datblygu fel cyswllt gyda dioddefwyr a gwella ffeiliau achos. Gwnaeth hefyd roi swyddogion yn y lle iawn ar yr amser iawn ar sawl achlysur, gan gynnwys pan oedd babi yn cael ataliad ar y galon mewn cyfeiriad cyfagos ac aeth y swyddogion i ddechrau adfywio cardiopwlmonaidd yn syth tan i'r gwasanaeth ambiwlans gyrraedd.
Oherwydd gwaith y swyddogion hyn, mae niferoedd y bobl dan amheuaeth o gyflawni trais a cham-drin domestig yn gyson isel yng Nghaerdydd a'r Fro er gwaetha'r ffaith iddynt gofnodi'r nifer uchaf o achosion o drais a cham-drin domestig yn ardal yr heddlu.
Ymgyrch Wormit
Ymgyrch Wormit yw'r ymchwiliad i Grŵp Troseddau Cyfundrefnol a oedd yn gyfrifol am gludo eitemau gwaharddedig i mewn i garchardai drwy'r DU gan ddefnyddio dronau. Dechreuodd pan gafodd dau becyn eu hadfer o Garchar Parc.
Cynhaliodd swyddogion wiriadau cudd-wybodaeth ac adnabod rhifau ceir yn awtomatig (ANPR) a dynodwyd cerbyd o ddiddordeb a oedd wedi teithio o Lundain. Daethpwyd o hyd i'r cerbyd a'i chwilio, a phan ddaethpwyd o hyd i ddrôn, arestiwyd y gyrrwr.
Astudiwyd y drôn gan yr uned fforensig ddigidol ac o'r deunydd a lawrlwythwyd, cadarnhawyd ei fod wedi hedfan 23 gwaith i mewn i chwe charchar gwahanol. Helpodd y wybodaeth hon, ynghyd â data o ffôn symudol yr unigolyn a arestiwyd, a data APNR, i dîm yr ymchwiliad roi llinell amser o ddigwyddiadau at ei gilydd ac adnabod tri unigolyn pellach dan amheuaeth.
Cafwyd gwarantau a theithiodd y swyddogion i Essex lle y gwnaethant gysylltu â'r heddlu lleol ac arestio dau unigolyn. Cafodd y swyddogion afael ar ddau ffôn symudol a roddodd y diffynyddion yn lleoliad rhai o'r hediadau dronau ac roeddent yn cynnwys negeseuon am ollwng o ddronau. Yna, teithiodd y tîm i Lundain i arestio unigolyn arall dan amheuaeth, lle y gwnaethant adnabod unigolyn pellach a oedd dan amheuaeth yn y cyfeiriad.
Amcangyfrifodd arbenigwr cyffuriau'r heddlu fod gwerth hyd at £1.4 miliwn o eitemau gwaharddedig wedi'u cludo i chwe charchar gwahanol mewn llai na mis. Plediodd y pum diffynnydd yn euog i'r cyhuddiadau.
Y Rhingyll Jacob Rollnick a Mandy Flood, Safonau Masnach
Arweiniodd y Rhingyll Rollnick a Mandy eu timau priodol i ymchwilio i grŵp a oedd yn defnyddio sawl siop yng Nghaerdydd, Y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr i werthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon a/neu sylweddau seicoweithredol a chwalu'r grŵp hwnnw. Gwnaeth hyn eu galluogi i wyngalchu £1.8 miliwn – credir mai dyma un o'r achosion mwyaf o smyglo tybaco anghyfreithlon yng Nghymru.
Er bod y grŵp yn credu eu bod yn gweithredu heb yn wybod i neb, gan fod y siopau yn gwerthu cynnyrch cyfreithlon i bob golwg, yr hyn nad oeddent yn ei wybod oedd eu bod yn cael eu monitro ac roedd tystiolaeth helaeth i'w cael yn euog o'r troseddau hyn. Cafwyd pob aelod yn euog o gynnal busnes at ddibenion twyllodrus a chawsant eu dedfrydu i gyfanswm o 25 mlynedd o garchar, ac roedd naw mlynedd o'r rheini yn ddedfrydau gohiriedig.
Dywedodd y barnwr fod cynhyrchion ansafonol wedi'u gwerthu i'r cyhoedd a bod yna ddioddefwyr agored i niwed, gan fod sigaréts unigol wedi'u gwerthu i blant dan oed, a gallai gwerthu ocsid nitrus fod yn beryglus oherwydd gallai gael ei gamddefnyddio.
Dyma esiampl wych o'r ffordd y daeth dwy asiantaeth at ei gilydd i fynd i'r afael â phroblem a oedd yn cael effaith negyddol ar gymunedau lleol.
Ymgyrch Hypagon
Ymosodwyd yn ddifrifol ar unigolyn 19 oed yn ardal Llanedeyrn, a bu tri digwyddiad pellach yn fuan wedyn, pob un yn cynnwys machetes, y credwyd iddynt ddigwydd er mwyn dial am yr achos cyntaf o drywanu.
Roedd angen dull gweithredu cadarn a chyson er mwyn atal hyn rhag gwaethygu ymhellach, a arweiniodd at Ymgyrch Hypagon, sef ymgyrch dan arweiniad plismona yn y gymdogaeth er mwyn gorfodi, atal a diogelu.
Arweiniodd strategaeth arestio gychwynnol at wyth arestiad o bedwar digwyddiad a oedd yn gysylltiedig â bygythiadau i ladd, bod ym meddiant cyffuriau gyda'r bwriad o'u cyflenwi, a bod ym meddiant arfau. Cadarnhaodd y tîm fod gan bawb dan sylw gysylltiadau ag un o'r ddau gang lleol ac roedd y digwyddiadau hyn o ganlyniad i elyniaeth gyffuriau barhaus. Nodwyd 30 o bobl – oedolion a phlant – fel ffocws yr ymgyrch.
Gwnaeth cyfarfod mapio gweithwyr proffesiynol gyda sawl asiantaeth, gan gynnwys gwasanaethau ieuenctid, gwasanaethau plant, y bwrdd iechyd lleol, a Gweithredu dros Blant, alluogi rhannu cudd-wybodaeth ac i'r grŵp nodi'r asiantaeth fwyaf priodol er mwyn mynd i'r afael â phob mater.
Arweiniodd yr ymgyrch hon at ddiogelu sawl teulu ac ni chafwyd unrhyw faterion pellach yn cynnwys y ddau grŵp. Yn dilyn yr ymgyrch hon, mae cyfarfodydd mapio pellach yn cael eu cynnal yn rheolaidd ar hyd ardal Caerdydd a'r Fro.
Ymgyrch Murray
Roedd ystâd tai cymdeithasol Cae Fardre yn cael problemau gyda chyffuriau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd, ac roedd ar fin dod yn barth osgoi i'r heddlu ac asiantaethau eraill yn dilyn diffyg gweithio mewn partneriaeth cyson a rheolaidd a roddodd gyfle i droseddwyr fynnu rheolaeth.
Defnyddiodd yr ymateb, Ymgyrch Murray, fframwaith Clirio, Dal, Adeiladu gyda ffocws ar atebion cynaliadwy tymor hir. Roedd yn cynnwys tri cham gweithgarwch i darfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol, meithrin gwydnwch yn lleol a gwella diogelwch a hyder y gymuned. I Gae Fardre, roedd y gweithgareddau'n cynnwys gwella cynllun yr ystâd, mwy o guddwylio, a chynnydd yn amlygrwydd ac ymgysylltiad yr heddlu â phartneriaid fel tai.
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi lleihau 63% o 2022 i 2023, ac mae troseddau fel bwrgleriaeth, lladrata a difrod wedi gystwng 20%. Yn ogystal, mae'r cynghorydd lleol wedi dweud bod y preswylwyr wedi dod ato ac wedi dweud ei fod “yn teimlo fel lle gwahanol”.
Mae rhoi Fframwaith Clirio, Dal, Adeiladu ar ystâd tai cymdeithasol Cae Fardre wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol.
Rhaid diolch yn fawr iawn i'n noddwyr hael, oherwydd ni fyddai ein gwobrau blynyddol yn bosibl hebddynt.
Mae llawer o'r noddwyr wedi ein cefnogi ers nifer o flynyddoedd, ac rydym yn ddiolchgar dros ben am hynny.
Dyma ychydig mwy o wybodaeth amdanynt:
Mae Cyfreithwyr Dolmans yn cynnal eu gwaith arbenigol ag awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus ac yswirwyr blaenllaw o’u lleoliad yng Nghaerdydd ac mae ganddynt enw da yn y byd busnes am eu gweledigaeth fasnachol a’u dull pragmataidd o ddarparu gwasanaethau cyfreithiol.
Cyflwynwyd rôl Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn 2012 i fod yn llais etholedig y bobl ac i sicrhau y darperir plismona effeithlon ac effeithiol.
Etholwyd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools yn Mai 2024.
Cwmni yn y DU yw Serco. Rydym yn bartner y mae llywodraethau yn ei werthfawrogi ac yn ymddiried ynddo, sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus ardderchog sy’n trawsnewid canlyniadau ac yn creu effaith gadarnhaol i’n cymunedau.
Rydym yn gweithredu dros 500 o gontractau, mewn dros 20 o wledydd ac rydym yn cyflogi dros 50,000 o bobl.
Mae swydd yr Uwch Siryf yn benodiad Brenhinol annibynnol anwleidyddol, am gyfnod o flwyddyn. Mae Uwch Siryf ym mhob sir yng Nghymru a Lloegr ac mae eu dyletswyddau yn cynnwys cefnogi’r Goron, Barnwyr Uchel Lys Ei Mawrhydi ac asiantaethau atal troseddu megis yr heddlu.
Grŵp contractio a gwaith gosod mewnol preifat yw Willmott Dixon.
Wedi ei sefydlu yn 1852, mae’n gwmni teuluol sy’n ymroi i godi adeiladau gwych, trawsnewid bywydau, cryfhau cymunedau a gwella’r amgylchedd er mwyn i’n byd fod yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae meddalwedd NicheRMS yn galluogi asiantaethau byd-eang sy’n gorfodi’r gyfraith i nodi, atal a datrys troseddau. Mae gan eu staff 400+ mlynedd o brofiad plismona.
Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr yw’r gymdeithas staff sy’n cynrychioli dros 130,000 o swyddogion rheng a llinell.
Mae pob cangen yn gweithredu fel y corff trafod ac ymgynghori gan ddarparu cyswllt effeithiol rhwng swyddogion ac uwch reolwyr.