Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:21 02/03/2022
Heddiw, mae pedwar dyn wedi derbyn dedfrydau o garchar gohiriedig yn dilyn cwymp hen Eglwys Citadel yn Sblot, Caerdydd.
Ac mae pedwar cwmni wedi derbyn dirwyon cyfunol o dros £340,000.
Bu farw Jeffrey Joseph Plevey, 55 oed, o Radur, pan gwympodd yr adeilad segur yr oedd yn gweithio arno ym mis Gorffennaf 2017.
Galwyd y gwasanaethau brys i safle hen Eglwys Citadel am 2.50pm ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf, 2017.
Yn dilyn ymgyrch adfer gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a thîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru Gyfan, tynnwyd corff Mr Plevey allan o'r rwbel a bu farw yn y lleoliad.
Cynhaliwyd ymchwiliad ar y cyd, dan arweiniad Tîm Troseddau Mawr Heddlu De Cymru, ochr yn ochr â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a arweiniodd at dreial 11 wythnos o hyd mewn llys yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe.
Ar 15 Rhagfyr, 2021, cafwyd Keith Young a Stewart Swain yn euog o droseddau iechyd a diogelwch.
Canfu rheithgor fod Young yn euog o fethu â chymryd camau angenrheidiol i sicrhau nad yw adeilad yn cwympo wrth gyflawni gwaith adeiladu, yn groes i'r Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) a'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Yn ogystal, cafwyd Swain a'i gwmni, Swain Scaffolding Ltd, yn euog o dorri'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Cafwyd Young a Swain yn ddieuog o gyhuddiadau o ddynladdiad yn sgil esgeulustod dybryd.
Plediodd dau ddyn arall, Phil Thomas, o South Wales Safety Consultancy Ltd a Richard Dean, o NJP Consultant Engineers Ltd a phedwerydd cwmni, Strongs Partnership, yn euog i droseddau iechyd a diogelwch cyn y treial.
Dychwelodd y pedwar dyn i Lys y Goron Caerdydd heddiw ac fe'u dedfrydwyd fel a ganlyn:
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Wales o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru:
“Roedd Jeff Plevey yn sgaffaldiwr profiadol ac yn ddyn diwyd a phoblogaidd y dylid bod wedi dangos dyletswydd gofal iddo pan aeth i'r gwaith y diwrnod hwnnw.
“Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Jeff sydd wedi aros pedair blynedd a hanner i weld cyfiawnder yn cael ei gyflawni yn dilyn ei farwolaeth gynamserol, y gellid bod wedi'i hosgoi ar 18 Gorffennaf 2017.
“Mae ei deulu wedi dangos amynedd, cefnogaeth ac urddas aruthrol drwy ymchwiliad hir, heriol a chymhleth.
“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl dystion sydd wedi cefnogi'r ymchwiliad hwn yn amyneddgar, yn enwedig y cydweithwyr a oedd yn gweithio ochr yn ochr â Jeff ar y diwrnod y bu farw.
“Maen nhw hefyd wedi aros amser hir i weld cyfiawnder yn cael ei gyflawni ac mae'r digwyddiadau y gellid bod wedi'u hosgoi yn Sblot wedi effeithio arnyn nhw eu hunain.”
Cyhoeddodd plant Jeff Plevey, Lauren a Joshua, y datganiad canlynol ar ôl i'r treial ddod i ben:
“Mae hon wedi bod yn adeg anodd a heriol i bob un ohonom. Nid yn unig gorfod delio â marwolaeth sydyn ein tad i ddechrau, ond hefyd ceisio dod â'r achos i ben yn ystod y pandemig, sydd wedi bod yn broses hir.
“Hoffem ddiolch i'n teulu am ein cefnogi o'r dechrau'n deg, i'r heddlu am eu gwaith caled ar yr ymchwiliad, ac i weddill y tîm a weithiodd yn ddiflino i gael atebion i'n teulu.
“Rydym mor falch o ddod i ddiwedd proses mor hir o'r diwedd. Rydym wedi cael clo i'r achos o'r diwedd, gall dad orffwys nawr.”
Dywedodd arolygydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Liam Osborne, ar ôl y gwrandawiad:
“Bu farw Jeff Plevey am fod pobl wedi cael eu rhoi i weithio ar sgaffaldiau yn erbyn wal garreg uchel yr oedd y rheolwyr, y gweithwyr diogelwch proffesiynol a'r chontractwyr yn gwybod, neu'n gallu gweld, ei bod yn ansefydlog cyn i'r gwaith ddechrau.
“Cynlluniwyd y gwaith dymchwel a'r dasg o osod sgaffaldiau yn wael a chafodd ei gyflawni mewn modd peryglus o'r dechrau'n deg, a thrwy gydol y gwaith. Yn hytrach na gwneud yr adeilad yn fwy diogel wrth i'r gwaith dymchwel fynd rhagddo, aeth yn fwy ansefydlog fyth. Mae'r bobl hynny a wnaeth benderfyniadau gwael, a roddodd gyngor gwael neu a fethodd â gweithredu yn wyneb risg eithafol ac amlwg, bellach wedi cael eu gwneud yn atebol.”
Ychwanegodd:
“Hoffwn dalu teyrnged i deulu, ffrindiau a chydweithwyr Mr Plevey am eu cymorth a'u dealltwriaeth yn ystod yr ymchwiliad hir ac eithriadol o fanwl hwn.
“Gobeithio'n fawr y bydd y diwydiannau sgaffaldiau, dymchwel ac ymgynghoriaeth yng Nghymru a thu hwnt yn cymryd amser i ddysgu o'r trychineb ofnadwy hwn. Byddai cynllunio gwaith ymlaen llaw, dewis dulliau dymchwel o bell, rhannu gwybodaeth hollbwysig rhwng partïon a rhoi system o archwiliadau wedi'u rheoli ar waith wedi atal y digwyddiad hwn.”