Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael dedfryd i oes yn y carchar, gyda leiafrif o 12 blynedd, ar ôl cael ei ddyfarnu'n euog o 160 o droseddau rhywiol yn ymwneud â phlant yn dilyn ymchwiliad gan Dîm Ymchwiliadau Ar-lein Heddlu De Cymru.
Dechreuodd yr ymholiadau ym mis Rhagfyr 2022 wedi i'r heddlu dderbyn cudd-wybodaeth am drafodion ariannol a gweithgarwch ar-lein amheus, yn gysylltiedig â lawrlwytho delweddau anweddus o blant oddi ar y we dywyll.
Cysylltwyd cyfeiriad IP â chyfeiriad yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac yn sgil gwiriadau pellach, nodwyd mai Lewis Edwards, 23 oed oedd y troseddwr – swyddog yr heddlu a oedd yn gwasanaethu.
Dros y diwrnodau canlynol, cynhaliwyd chwiliad dan warant yn ei gyfeiriad ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac ym mis Chwefror 2023, cafodd ei arestio a'i gadw yn y ddalfa.
Cafodd Edwards ei wahardd o'i ddyletswydd ar unwaith ac ymddiswyddodd. Cynhaliwyd gwrandawiad camymddwyn carlam a gyflwynodd y gosb o ddiswyddo. Cafodd ei ychwanegu at y rhestr gwahardd, gan ei rwystro rhag dychwelyd i blismona.
Cafodd Edwards ei gyhuddo o 160 o droseddau i gyd sy'n cynnwys annog plant i greu delweddau anweddus ar-lein ac i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol. Plediodd yn euog i'r holl gyhuddiadau a chafodd ddedfryd i oes yn y carchar pan ymddangosodd yn Llys y Goron Caerdydd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Tracey Rankine, pennaeth Tîm Ymchwiliadau Ar-lein yr Heddlu:
“Ein blaenoriaeth oedd nodi dioddefwyr o enwau defnyddwyr Snapchat a gweithio gyda heddluoedd ledled y DU i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a'u cefnogi. Mae graddfa a difrifoldeb y troseddau a nodwyd yn ein hymchwiliad yn eithafol.
“Roedd ei ymddygiad ffiaidd yn cynnwys bygwth a blacmelio'r dioddefwyr ifanc a oedd yn byw mewn ofn. Mae ein hymchwiliad wedi cynnwys cynnal archwiliadau fforensig o gyfarpar cyfrifiadurol a dyfeisiau symudol wedi'u hamgryptio a arweiniodd at ddod o hyd i ddeunydd erchyll. Oherwydd cryfder y dystiolaeth hon, penderfynodd Edwards gyfaddef i bob cyhuddiad.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Danny Richards:
"Mae'r troseddau a gyflawnwyd gan Lewis Edwards yn warthus a bydd y cyhoedd wedi eu dychryn a'u ffieiddio bod troseddau ofnadwy wedi'u cyflawni gan swyddog heddlu a oedd yn gwasanaethu.
"Cyn gynted ag y gwyddom fod y troseddwr yn swyddog heddlu a oedd yn gwasanaethu, cafodd Edwards ei atal rhag gweithio a'i ddiswyddo mewn gwrandawiad camymddwyn a gynhaliwyd ar y cyfle cynharaf i'w wahardd rhag plismona.
"Bydd ei ymddygiad yn niweidio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn plismona ac yn tanseilio gwaith swyddogion yr heddlu sy'n gyfrifol ac yn gweithio'n galed i wasanaethu cymunedau De Cymru â dewrder a balchder.
"Nid oes lle yn Heddlu De Cymru i unrhyw un sy'n camddefnyddio'r cyfrifoldeb personol sydd ganddynt fel swyddog heddlu.
"Rwy'n deall y bydd pobl yn gofyn sut y gallai Edwards fod wedi ymuno â'r heddlu pan oedd wrthi'n cyflawni'r troseddau difrifol hyn.
"Pan ymunodd â Heddlu De Cymru, roedd ei brawf fetio yn glir ac nid oedd unrhyw beth i awgrymu ei fod yn cyflawni'r fath droseddau ffiaidd yn erbyn plant.
"Ein prif flaenoriaeth yw amddiffyn y cyhoedd felly os oes gan unrhyw un wybodaeth am ddiogelwch pobl ifanc neu bobl sy'n agored i niwed neu rai sy'n peri risg i'n cymdeithas, rwy'n eu hannog i gysylltu a rhoi gwybod i ni.
"Rwy'n ddiolchgar am waith ein tîm ymchwiliadau a lwyddodd i ddwyn Edwards o flaen ei well a sicrhau bod ei ddioddefwyr yn cael eu hamddiffyn rhag rhagor o niwed."