Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o 28 o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Mae Brian Doye, 77 oed o Ystalyfera, wedi cael dedfryd o 28 mlynedd yn y carchar, gyda chyfnod trwydded estynedig o ddwy flynedd, am y troseddau yn erbyn tri dioddefwr gwahanol. Gwnaeth Doye gam-drin ei ddioddefwyr dros gyfnod o bedwar degawd. Yn 2021, bu un o'i ddioddefwyr yn ddigon dewr i roi gwybod i'r heddlu am y mater.
Yn ystod yr ymchwiliad dilynol, nododd y Cwnstabl Eleanor Dallas ddau ddioddefwr arall.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sharon Gill-Lewis:
“Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd y mae Brian Doye wedi ei chael yn rhoi rhywfaint o gysur i'w ddioddefwyr ar ôl yr holl flynyddoedd.
“Mae ei ymddygiad tuag at ei ddioddefwyr dros sawl blwyddyn wedi bod yn gywilyddus; roedd yn amlwg yn meddwl y gallai osgoi cael ei ddal am ei weithredoedd.
“Hoffwn dalu teyrnged i bob un o'r dioddefwyr yn yr achos hwn, sydd wedi dangos cryfder a dewrder eithriadol drwy gydol yr ymchwiliad a'r treial. Rydym yn sefyll yn gadarn yn erbyn troseddau rhywiol, ac mae rheithfarn heddiw yn cyfleu neges glir y byddwn yn dod â'r rhai sy'n cam-drin plant yn rhywiol ac yn camfanteisio arnynt o flaen eu gwell.
“Mae Heddlu De Cymru yn parhau'n ymrwymedig i fynd i'r afael â phob math o gam-drin rhywiol ac mae gennym swyddogion arbenigol sy'n cael eu neilltuo i bob achos. Rydym yn cydweithio â'n hasiantaethau partner i gefnogi'r rhai y mae'r math hwn o gam-drin wedi effeithio arnynt, a byddwn yn annog unrhyw un i roi gwybod am unrhyw fath o gam-drin i'r heddlu. Ymchwilir i bob adroddiad yn drylwyr.”
Gellir dod o hyd i'n canllawiau ar roi gwybod am droseddau rhywiol yma: Rhoi gwybod am droseddau rhywiol: Rhoi gwybod am droseddau rhywiol: Gwybodaeth a chanllaw ategol | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Mae ein gwybodaeth mewn perthynas â chymorth i ddioddefwyr trais ac ymosodiad rhywiol ar gael yma: Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)