Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri unigolyn wedi cael eu dedfrydu am lofruddio Gary Jenkins, a fu farw ar ôl dioddef ymosodiad ym Mharc Bute, Caerdydd.
Ymosodwyd ar Dr Gary Jenkins, a oedd yn 54 oed, yn ystod oriau mân y bore ddydd Mawrth 20 Gorffennaf, a bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru ddydd Iau 5 Awst.
Mae Jason Edwards, 25 oed, Lee William Strickland, 36 oed a Dionne Timms-Williams, 17 oed, wedi cael dedfrydau oes yn Llys y Goron Caerdydd.
Rhaid i Edwards a Strickland dreulio o leiaf 33 o flynyddoedd yr un yn y carchar.
Bydd yn rhaid i Timms-Williams fod yn y carchar am o leiaf 18 o flynyddoedd.
Plediodd y tri yn euog i ddynladdiad, lladrad ac ymosodiad adran 47, ond gwnaethant wadu eu bod wedi llofruddio Dr Jenkins.
Ond yn dilyn treial yn Llys y Goron, Merthyr ym mis Chwefror 2022, fe'u cafwyd yn euog o lofruddio Dr Jenkins ac maent bellach wedi cael eu dedfrydu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Wales, yr Uwch-swyddog Ymchwilio:
“Roedd Dr Gary Jenkins yn dad, gŵr, brawd a ffrind annwyl iawn.
“Yn broffesiynol, roedd ganddo yrfa feddygol lwyddiannus fel Seiciatrydd Ymgynghorol ac roedd yn uchel ei barch am y gofal a'r cymorth arbenigol a roddodd i'w gleifion niferus.
“Roedd yr ymosodiad ar Dr Jenkins gan y tri diffynnydd yn llwfr ac yn gwbl ddisynnwyr.
“Roedd graddau a hyd y trais diangen a ddioddefodd, ynghyd â'r difrïo homoffobig – a glywyd ar recordiad sain – yn erchyll a syfrdanol. Ni wnaeth unrhyw beth o gwbl i gyfiawnhau hyn.
“Ni fydd unrhyw beth yn llenwi'r bwlch ym mywydau'r rhai a oedd yn caru Gary ac sydd wedi dioddef ei golli yn yr amgylchiadau mwyaf ofnadwy.
“Rydym yn cydnabod y dedfrydau sylweddol a roddwyd i'r tri diffynnydd heddiw. Mae'r rhain yn adlewyrchu agwedd homoffobig a llofruddio er budd yr ymosodiad ofnadwy ar Dr Jenkins.
“Ni waeth pa mor hir yw'r ddedfryd, ni all gymryd lle'r boen y mae teulu Dr Jenkins yn ei theimlo. Gobeithio y bydd dedfrydau heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur iddynt ac yn eu galluogi i ddechrau ailadeiladu eu bywydau. Rydym yn parhau i feddwl amdanynt.”
![]() |
![]() |
Mae Heddlu De Cymru yn eiriolwr brwd dros gymunedau LHDTC+ ac yn hyrwyddo eu hawliau drwy bopeth a wna.
Mae gan Gaerdydd draddodiad hir a balch o gydnabod, dathlu ac amddiffyn cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Gofynnir i unrhyw un sydd â phryderon am droseddau casineb gysylltu â Heddlu De Cymru yn gyfrinachol.
Anfonwch neges breifat ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101
Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Trosedd casineb yw unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth ar sail hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu hunaniaeth drawsryweddol.