Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu am dreisio merch yng nghanol dinas Caerdydd.
Dangosodd deunydd teledu cylch cyfyng a ffôn symudol Liam Stimpson yn treisio ac yn ymosod yn dreisgar ar y dioddefwr yn ystod oriau mân y bore ddydd Mercher, 27 Rhagfyr, 2023.
Gwadodd Stimpson, o Lanrhymni, Caerdydd, y pedwar achos, gan gynnwys treisio a niwed corfforol difrifol, ond fe'i cafwyd yn euog gan y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 30 Mai.
Roedd Stimpson wedi bod allan yn dathlu ei ben-blwydd yn 24 oed pan ymosododd ar ferch o dan y bont reilffordd sy'n ffinio Sgwâr Callaghan a Heol Eglwys Fair.
Parhaodd yr ymosodiad hyd yn oed ar ôl iddi lwyddo i redeg i ffwrdd yn gweiddi am help.
Ymyrrodd dau dyst allweddol, glanhawr o far a gyrrwr cerbyd dosbarthu, a ffonio'r heddlu.
O fewn hanner awr o'u galw, cafodd Stimpson ei arestio ar Stryd Caroline ac mae wedi bod yn y ddalfa ers hynny,
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Katherine Barry, o Heddlu De Cymru:
“Mae ymosodiad gan ddieithryn o'r fath yn anarferol iawn yng Nghaerdydd, ond roedd Liam Stimpson yn unigolyn peryglus.
“Roedd lefel y trais a ddefnyddiwyd, a'r ffordd y diraddiodd y dioddefwr yn ofnadwy. Roedd yn berygl llwyr i fenywod.
“Hoffem ddiolch i'r tystion a gyflwynodd eu hunain o ganlyniad apêl yn y wasg am wybodaeth, ac i'r rhai a fu'n ddewr yn rhoi tystiolaeth.
“Hoffem hefyd dalu teyrnged i swyddog cymorth y dioddefwr sydd wedi bod yn gymorth amhrisiadwy i'r dioddefwr ac i'r ymchwiliad.”
Cafodd Stimpson ei ddedfrydu i pymtheng mlynedd mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (03/06/24).
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am ymosodiad rhywiol o ddifrif ac yn annog dioddefwyr i gysylltu i adrodd amdano, ni waeth pryd y digwyddodd, gan wybod y byddant yn cael eu trin â pharch ac urddas ac yr ymchwilir yn llawn i’w honiad.
I gael rhagor o gyngor ar dreisio, ymosodiad rhywiol a throseddau rhywiol eraill ewch i:
https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/