Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymgyrch sy'n mynd i'r afael â throseddau cyllyll yw 'Ddim yr Un', gyda'r nod o leihau nifer y troseddau cyllyll a nifer y bobl sy'n eu cyflawni ne Cymru.
Nod yr ymgyrch a arweinir gan bartneriaeth yw addysgu pobl ifanc 11-16 oed am beryglon a chanlyniadau cario cyllell, gan dargedu athrawon, rhieni, ffrindiau a theuluoedd gyda phecyn gwybodaeth addysgol. Mae'n cynnwys adnoddau fel cwisiau, cwestiynau gwir neu anwir, cynlluniau gwersi ar gyfer addysgwyr, a fideos gyda dau ddioddefwr troseddau cyllyll, rhiant dioddefwr, a gweithiwr ieuenctid.
Mae'r ymgyrch a ariennir ar y cyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Uned Atal Trais Cymru a Heddlu De Cymru, wedi bod yn llwyddiannus iawn ers iddi gael ei lansio yn 2022:
Lansiwyd ail gam yr ymgyrch ym mis Ebrill 2024, gydag adnoddau ychwanegol i gefnogi sgyrsiau â phlant a phobl ifanc am droseddau cyllyll.
Mae'r adnoddau hyn wedi'u datblygu yn dilyn gweithdai ac arolygon gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sydd wedi defnyddio'r ymgyrch.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Esyr Jones:
"Mae'r ymgyrch hon wedi'i datblygu ar y cyd â phobl ifanc ac ar eu cyfer, a'i nod yw grymuso cymunedau i weithredu yn erbyn troseddau cyllyll. Mae'n rhoi gwybodaeth, arweiniad ac opsiynau atgyfeirio i unigolion sydd â dylanwad ym mywydau pobl ifanc os ydynt yn credu bod plentyn y maent yn gofalu amdano yn wynebu risg o gael ei ddenu i droseddu â chyllyll.
“P'un a ydych yn rhiant, yn athro, yn weithiwr ieuenctid, yn hyfforddwr chwaraeon neu'n berson ifanc eich hun, mae'r pecyn hwn yn rhoi gwybodaeth addysgol i'ch galluogi i wneud gwahaniaeth ac achub bywydau."
Dywedodd Dan Jones, Pennaeth Uned Atal Trais Cymru:
“Mae plant a phobl ifanc wedi dweud wrthym mai'r prif reswm pam mae rhywun yn cario cyllell yw am ei fod yn meddwl y bydd yn ei gadw'n ddiogel. Mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy'n wir. Rydych yn llawer mwy tebygol o gael niwed gan gyllell – naill ai eich un chi neu un rhywun arall – os byddwch yn cario cyllell eich hun.
“Fel rhan o'r ymgyrch hon, rydym wedi gwrando ar blant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol, ac wedi datblygu adnoddau sy'n canolbwyntio ar yr atebion i droseddau cyllyll a awgrymwyd gan blant a phobl ifanc. Diolch i'r drefn, mae troseddau cyllyll yn brin yn ne Cymru, ond mae un achos yn un yn ormod, a thrwy weithio gyda gweithwyr proffesiynol, plant a phobl ifanc, rwy'n ffyddiog y gallwn leihau nifer y troseddau cyllyll ymhellach.”