Carcharu bwrgler o Abertawe ar ôl iddo dargedu cartref menyw yn ei nawdegau sawl gwaith
Aeth Brandon Williams, 22 oed o Dreforys, i mewn i nifer o gyfeiriadau yn ardal Treforys yn ystod mis Tachwedd 2024 a mis Gorffennaf 2025, gan ddwyn arian ac allweddi, a dianc mewn cerbydau a oedd wedi'u parcio'r tu allan weithiau hefyd.