Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael dedfryd o ddeng mlynedd yn y carchar ar ôl pledio'n euog i nifer o droseddau rhyw yn erbyn plentyn.
Dechreuodd Jack Barrett, 25 oed, o Waunarlwydd, sgwrsio â'r plentyn ar-lein cyn ei hannog i gyflawni gweithredoedd rhywiol. Nid yw'r ddioddefwraig o ardal Heddlu De Cymru ac felly ni wnaeth ryngweithio â Barrett wyneb yn wyneb.
Plediodd Barrett yn euog i'r achosion canlynol:
Cafodd Barrett ddedfryd estynedig o 10 mlynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gemma McLean:
"Defnyddiodd Jack Barrett wefannau cyfathrebu ar-lein i gymryd mantais o blentyn, gan wybod ei bod dan oed. Gwnaeth hyn gan wybod beth roedd yn ei wneud.
Datgelodd yr ymchwiliad hwn, a gynhaliwyd ar y cyd â heddlu arall, raddfa troseddu Barrett, ac mae'r ddedfryd sylweddol a gafodd heddiw yn dangos pa mor erchyll oedd ei weithredoedd.
"Mae'n llawn haeddu ei gyfnod hir yn y carchar. Dylid ystyried y ddedfryd hon yn ddull atal cryf, ac rydym yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol ar-lein i ddod atom a'n helpu i ddod â throseddwyr i o flaen eu gwell."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.