Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn o Abertawe wedi cael eu carcharu am gynllwynio i ymosod ar gar dyn drwy ei losgi.
Gwnaeth Gareth Charles, 44 oed, o Dreforys, Matthew Membury, 32 oed, o Bentrechwyth, a Gareth Rowe, 47 oed, o Glydach, dargedu'r dioddefwr i ddial am ddadl busnes.
Ar 13 Mai 2025, pwniodd Charles y dioddefwr yn ei wyneb ar ôl ei weld yn y stryd. Ym mis Medi, rhoddwyd cerbyd y dioddefwr ar dân yn Swansea Vale. Cafodd Charles ei arestio a daethpwyd o hyd i dystiolaeth o'r cynllwyn â Membury a Rowe ar ei ffôn symudol.
Plediodd Charles yn euog i ymosod drwy daro a chynllwynio i gynnau tân yn fwriadol / heb boeni a fyddai bywyd yn cael ei beryglu. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 36 mis yn y carchar.
Plediodd Membury yn euog i gynllwynio i gynnau tân yn fwriadol / heb boeni a fyddai bywyd yn cael ei beryglu. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 32 mis yn y carchar.
Plediodd Rowe hefyd yn euog i gynllwynio i gynnau tân yn fwriadol / heb boeni a fyddai bywyd yn cael ei beryglu. Cafodd ei ddedfrydu i 30 mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Jonathan Holding:
"Roedd hwn yn gynllwyn gwirion a byrbwyll i ddial ar gyn gyflogai dros ddadl ariannol.
"Gallai gweithredoedd disynnwyr Charles, Membury a Rowe fod wedi achosi anaf difrifol i rywun, a byddent yn ymwybodol o hyn wrth gyflawni'r drosedd.
"Dylent feddwl o ddifri am eu gweithredoedd yn ystod eu hamser yn y carchar."