Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn y llun yn glocwedd: Dalton Raffell, Chiko Moyo, Daniel Groves, Jonathan Beasley
Mae aelodau o rwydwaith troseddau cyfundrefnol a oedd yn gyfrifol am gyflenwi cyffuriau dosbarth A yn y Barri wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 29 mlynedd a hanner.
Bu'r gang, a arweiniwyd gan Dalton Raffell, yn gweithredu llinellau cyffuriau a gyflenwodd crac cocên a heroin ac a gamfanteisiodd ar blant a oedd mor ifanc â 15 oed.
Cafodd llinellau cyffuriau a oedd yn gysylltiedig â Raffell eu datgelu gan dditectifs wrth archwilio ffôn symudol yn fforensig fel rhan o ymchwiliad ar wahân.
Gwnaethant lwyddo i nodi mai Raffell oedd prif ddeiliad y llinell ac olrhain ei gyd-droseddwyr hefyd.
Ymddangosodd Dalton Raffell a phedwar unigolyn arall gerbron Llys y Goron Caerdydd i'w dedfrydu ar 23 Rhagfyr, 2025.
Carcharwyd Dalton Raffell, 24 oed o Clare Road, Caerdydd, am naw mlynedd am gynllwynio i gyflenwi heroin a chynllwynio i drefnu neu hwyluso taith unigolyn arall gyda'r bwriad o gamfanteisio.
Carcharwyd Chiko Moyo, 21 oed, am naw mlynedd a hanner am gynllwynio i gyflenwi heroin, dau achos o gynllwynio i drefnu neu hwyluso taith unigolyn arall gyda'r bwriad o gamfanteisio, a dau achos o gynllwynio i'w gwneud yn ofynnol i berson gyflawni llafur gorfodol neu dan orfod.
Carcharwyd Jonathan Beasley, 54 oed, o Caernarvon Gardens, y Barri, am saith mlynedd a hanner am gynllwynio i gyflenwi heroin.
Carcharwyd Daniel Groves, 24 oed, am dair blynedd a hanner am gynllwynio i gyflenwi heroin a bod â heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Cafodd Kelly-Ann Hocking, 33 oed o Shelley Crescent, y Barri, ei heuogfarnu am gynllwynio i gyflenwi heroin a chynllwynio i drefnu neu hwyluso taith unigolyn arall gyda'r bwriad o gamfanteisio hefyd, a bydd yn cael ei dedfrydu ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Bydd Ashton Watkins, 18 oed, o Crossways Road, Trelái, a gafodd ei ddyfarnu'n euog o gynllwynio i gyflenwi heroin, yn cael ei ddedfrydu ym mis Ionawr.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Dros Dro Tim Jones:
“Roedd Raffell a'i gyd-droseddwyr yn gyfrifol am gyflenwi symiau sylweddol o gyffuriau Dosbarth A. Yr hyn sy'n gwneud eu troseddau hyd yn oed yn waeth yw'r ffaith iddynt gamfanteisio ar blant – ni wnaethant feddwl ddwywaith am eu rhoi mewn perygl a pheri risg ddifrifol iddynt, a hynny oherwydd eu barusrwydd a'u helw eu hunain.
“Y realiti trist yw bod achosion lle mae gangiau cyffuriau yn camfanteisio ar blant ifanc yn gyffredin – bydd delwyr yn canfod y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ac yn eu rhoi mewn perygl wrth iddyn nhw redeg pethau yn y cefndir. Mae hyn yn digwydd heddiw, mewn cymunedau ledled De Cymru, ac mae cyfrifoldeb a rhwymedigaeth foesol ar bob un ohonom i chwilio am arwyddion o gamfanteisio a gweithredu yn eu cylch. Drwy wneud hynny, rydym yn carcharu'r delwyr a hefyd yn achub ac yn diogelu plant sydd, am ba reswm bynnag, wedi cael eu dal mewn bywyd truenus a pheryglus yn nwylo troseddwyr.”
Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth am ddelio cyffuriau i roi gwybod amdano i 101 neu gellir cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Byddwn yn gweithredu ar sail y wybodaeth a gawn.