Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Bowys wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i ddefnyddio potel i ymosod ar ddyn yr oedd wedi'i weld yn siarad â'i gyn-bartner.
Lansiodd Craig Cole, 27 oed, o Ystradgynlais, yr ymosodiad y tu mewn i glwb nos yng nghanol dinas Abertawe, gan adael y dioddefwr â phedwar clwyf ar dop ei ben, y bu'n rhaid gludo un ohonynt yn ôl at ei gilydd. Digwyddodd yr ymosodiad yn ystod oriau mân y bore ar Ddydd Calan 2025.
Plediodd Cole yn euog i Adran 18 clwyfo'n fwriadol ac mae wedi cael ei ddedfrydu i 30 mis yn y carchar.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Matthew McGowan:
"Mae Craig Cole yn ddyn ifanc a oedd yn amlwg yn eithriadol o genfigennus o unrhyw sylw yr oedd ei gyn-bartner yn ei gael.
"Roedd y genfigen honno wedi gwneud iddo ymddwyn yn dreisgar. Roedd ei weithredoedd yn gwbl annerbyniol a gallai fod wedi achosi niwed parhaus i'r dioddefwr.
"Anfon Cole i'r carchar oedd yr unig ganlyniad posibl."