Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i ymosodiad yn ardal Cathays fis diwethaf yn apelio ar unigolion a oedd yn teithio mewn car penodol i gysylltu â ni. Credir eu bod wedi stopio i gynnig help ac y gallent feddu ar wybodaeth bwysig.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Stryd Pentyrch nos Lun, 22 Rhagfyr.
Bu farw'r dioddefwr, Colm Marcus Boston, 37 oed o'r Mynydd Bychan bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Yn ôl tystion, gwnaeth car bach, a oedd yn cynnwys o leiaf ddau berson, stopio wrth ymyl y dioddefwr a chlywyd y gyrrwr yn cynnig help.
Yna gadawodd y car, Ford Fiesta o bosibl, yr ardal.
Anogir deiliaid y car hwn, y credir eu bod yn ddyn a menyw, i gysylltu â'r heddlu.
Mae dyn 29 oed o'r Sblot a gafodd ei arestio yn gynharach yr wythnos hon (dydd Mercher 7 Ionawr) ar amheuaeth o ymosod a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach gael eu cynnal.
Mae tri dyn arall a gafodd eu harestio'n flaenorol fel rhan o'r ymchwiliad hefyd yn parhau ar fechnïaeth.
Mae teulu Mr Boston yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt â theuluoedd.
Gellir cyflwyno deunydd fideo a gwybodaeth ar-lein https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C25-PO1
Fel arall, cysylltwch â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2500404113.
💻 Cysylltwch â ni ar-lein drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.