- Wrth i swyddogion gynnal patrolau yn yr ardal ar gyfer Ymgyrch Tellima, gwelwyd dyn yn reidio e-feic mewn man ble mae delio cyffuriau’n broblem. Ar ôl i swyddogion gyflwyno eu hunain iddo, ceisiodd y dyn ddianc rhagddynt cyn cael ei ddal. Wrth chwilio'r dyn, daeth swyddogion o hyd i 14 parsel o ganabis, dros £100 mewn arian parod, a dau ffôn symudol. Daethpwyd o hyd i 184g o ganabis hefyd yn dilyn chwiliad o gyfeiriad. Mae'r dyn wedi cael ei arestio am fod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi. Atafaelwyd yr e-feic hefyd.
- Cyflawnwyd chwiliad gwarant cyffuriau a reolir yn ardal Llanrhymni. Yn ystod y chwiliad canfuwyd 65g o ganabis a geriach delio cyffuriau. Atafaelwyd cyllell fach ddu Rambo hefyd. Cafodd y dyn ei arestio am fod â chyffuriau Dosbarth B ac arf ymosodol yn ei feddiant. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i'r ymchwiliad barhau.
- Tra oeddent ar batrôl yn yr ardal, gwelodd swyddogion ddyn yn reidio beic oddi ar y ffordd. Ceisiodd y dyn ffoi o'r lleoliad, ond methodd â gwneud hynny. Ar ôl cael ei ddal gan swyddogion, canfuwyd bod gan y dyn 18 oed dri ffôn symudol, 31 parsel o grac cocên a 4 bag o ganabis yn ei feddiant. Mae wedi cael ei gyhuddo o fod â chyffuriau Dosbarth A a B yn ei feddiant, a bydd rhaid iddo ymddangos gerbron y llys.
Yn ogystal â'r cyffuriau, atafaelwyd beic oddi ar y ffordd, e-feic anghyfreithlon ac e-sgwter hefyd.
- Mae 2 troseddwr mynych wedi cael eu harestio a'u cadw yn y ddalfa. Rhoddwyd gorchymyn Ymddygiad Troseddol i un ohonynt, ac mae cais am orchymyn Ymddygiad Troseddol wedi cael ei gyflwyno ar gyfer y llall. Defnyddir Gorchmynion Ymddygiad Troseddol yn erbyn troseddwyr parhaus yn aml, gyda’r bwriad o atal unigolion rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol pellach. Mae'r gorchmynion hyn yn cynnwys gofynion ac maent yn atal unigolion rhag mynd i ardaloedd penodol. Mae torri Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn drosedd.