Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gweithredodd swyddogion o Heddlu De Cymru gyfres o warantau yn dilyn adroddiadau bod pobl yn defnyddio beiciau mewn ffordd anghyfreithlon.
Mae'r gwarantau'n rhan o Ymgyrch Grebe sy'n canolbwyntio ar feiciau sy'n cael eu gyrru'n anghyfreithlon - gan gynnwys beiciau trydan, beiciau modur a beiciau oddi ar y ffyrdd.
Gweithredwyd gwarantau ar draws Caerdydd, Pontypridd, Merthyr Tudful ac Abertawe. Arweiniodd y gweithgarwch hwn at atafaelu beiciau, eu hanfon i'w dinistrio ac arestio unigolion am droseddau cyffuriau cysylltiedig.
Dyma rai o'r canlyniadau:
Yn dilyn pryderon gan y gymuned, mae'r heddlu wedi cynyddu ei ymdrechion i fynd i'r afael â phobl sy'n defnyddio beiciau mewn ffordd anghyfreithlon. Rydym yn gwybod y gellir cysylltu’r ymddygiad hwn yn aml â gweithgareddau troseddol mwy difrifol, gan gynnwys lladrad, achosion o gam-fanteisio a throseddau cyffuriau, ac rydym wedi ymroi i fynd i’r afael â’r problemau hyn.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Tom Williams, sy'n arwain yr ymgyrch: "Rydym wedi gwrando ar bryderon y gymuned, a dyma'r cyntaf ymhlith nifer o warantau fydd yn cael eu gweithredu ledled ardal yr heddlu i fynd i'r afael â'r mater.
“Y mis diwethaf, gwnaethom lansio'r ymgyrch 'Wedi sylwi. Wedi riportio. Wedi’i sortio’ a gofyn i'r cyhoedd roi gwybod i ni am unrhyw bryderon sydd ganddynt, er mwyn ein helpu i ymdrin â’r broblem. O ganlyniad i'r wybodaeth a rannwyd â ni, llwyddwyd i arestio unigolion ac atafaelu beiciau heddiw. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i riportio achosion fel bod modd i ni weithredu.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Emma Fox: "Rydym yn defnyddio adnoddau arbenigol gan gynnwys timau drôn, ein tîm Sur-Ron newydd, a swyddogion mewn dillad plaen i adnabod y troseddwyr hyn a'u dwyn i gyfrif.
“Fy neges i'r sawl sy'n gyrru beiciau’n anghyfreithlon yw: Byddwn yn eich dal chi.”
Gall aelodau o'r cyhoedd roi gwybod am bryderon sy’n ymwneud â’r defnydd anghyfreithlon o feiciau drwy ddilyn y ddolen hon.