Stamp amser presennol: 22/11/2026 02:47:06
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Riportio camdriniaeth drwy ddefnyddio delweddau personol heb gydsyniad (pornograffi dial)
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Beth yw llwyth annormal?
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

'Ni allaf bwysleisio ddigon pa mor ddiolchgar ydw i i'r rheini sydd wedi fy helpu ac wedi gwrando arna i'

Cynnwys y prif erthygl

Caerdydd/Bro Morgannwg
Cyhoeddwyd: 14:42 18/11/2026
Timothy Weaving.jpg
Timothy Weaving

 

Mae dyn 67 oed o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am 20 mlynedd am gyflawni cyfres o droseddau rhywiol yn erbyn plant yn y gorffennol.

Cafodd Timothy Weaving ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher 18 Tachwedd 2026 ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o nifer o droseddau, gan gynnwys treisio plentyn dan 13 oed.

Bu ei droseddau’n rhychwantu cyfnod o bron degawd, gan ddechrau 17 mlynedd yn ôl.

Clywodd y llys fod Weaving wedi rhoi pwysau ar y dioddefwr i dynnu ei chwyn wreiddiol.

Yn y llys, disgrifiwyd y cam-drin a'r niwed seicolegol a achosodd yn ‘rhywbeth dwfn a pharhaol a newidiodd fywyd y dioddefwr'.

Cafwyd Weaving yn euog o saith cyhuddiad, gan gynnwys treisio plentyn, treisio, dau achos o ymosodiad rhywiol, dau gyhuddiad o achosi i blentyn dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol ac achosi plentyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol.

Gwadodd y troseddau, ond fe'i cafwyd yn euog yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd yn gynharach y mis hwn.

Cafodd Weaving ddedfryd o 20 mlynedd o garchar gyda chyfnod estynedig o flwyddyn ar drwydded. Bydd yn destun gofynion hysbysiad troseddwr rhyw a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am weddill ei oes.

Dywedodd y Ditectif Ringyll Annalisa Bartley:

"Gwnaeth Timothy Weaving ei orau glas i geisio osgoi cael ei ddwyn i gyfrif drwy roi pwysau ar y dioddefwr i roi’r gorau i gefnogi’r erlyniad, a phan fethodd â’i darbwyllo i wneud hynny, plediodd yn ddieuog yn y llys.

"Fodd bynnag, diolch i ddewrder a chryfder eithriadol y dioddefwr ac ymchwiliad trylwyr gan yr heddlu, mae ef bellach yn wynebu canlyniadau ei weithredoedd ac mae’n bosibl iawn y bydd yn treulio gweddill ei oes dan glo.

"Gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i'r dioddefwr fod cyfiawnder wedi'i weinyddu o'r diwedd, a hoffem anfon ein dymuniadau gorau iddi wrth iddi barhau i symud ymlaen ac ailadeiladu ei bywyd.

"Mae'r achos hwn yn dangos unwaith eto nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddioddefwyr troseddau rhywiol gysylltu â ni.

"Ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio, bydd Heddlu De Cymru yn mynd ar drywydd y rheini sy'n gyfrifol am gyflawni troseddau rhywiol."

Wrth ddarllen datganiad yn y llys, diolchodd y dioddefwr dewr i bawb a'i chefnogodd, gan gynnwys y Ditectif Ringyll Bartley, bargyfreithwyr y tîm erlyn, a'i gweithwyr cymorth. 

"Ni allaf bwysleisio ddigon pa mor ddiolchgar ydw i i'r rheini sydd wedi fy helpu ac wedi gwrando arna i. Teimlaf, oni bai am y cymorth gan bobl o'm cwmpas, na allwn i fod wedi mynd at yr heddlu na wynebu achos llys.

“Roedd y sawl sydd wedi fy helpu bob amser yn dweud fy mod i wedi gwneud hyn ar fy mhen fy hun, a oedd yn fy ngrymuso i raddau helaeth ac yn fy helpu i ddod drwy'r peth anoddaf rydw i erioed wedi gorfod ei wynebu."

Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am drais rhywiol o ddifrif, ac nid yw hi byth yn rhy hwyr i roi gwybod am drosedd.

Mae cymorth a chefnogaeth ar gael i unrhyw un sydd wedi dioddef trais rhywiol, a byddem yn annog pob dioddefwr, ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd, i roi gwybod amdani.

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/sut-i-riportio-treisio-ymosodiad-rhywiol-troseddau-rhywiol-eraill/

Fel arall, cysylltwch â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol:

  • Riportiwch ar-lein drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
  • E-bostiwch [email protected]
  • 101

Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.