Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd ac wedi gweithio â Phrifysgol Met Caerdydd i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cafodd delweddau o gamerâu CCTV eu rhannu ag ysgolion lleol, a oedd yn allweddol wrth adnabod nifer o bobl ifanc, gyda rhai ohonynt yn achosi problemau ar y safle dro ar ôl tro. I'r rheini a gafodd eu hadnabod, mae atgyfeiriadau ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael eu cyflwyno a llythyrau rhybudd wedi cael eu dosbarthu.
Mae'r Brifysgol hefyd wedi cwblhau rhaglen i wella mesurau diogelwch.
Yn ystod gwyliau haf ysgolion cynhaliodd y Brifysgol raglen Cynhwysiant mewn Chwaraeon i Bobl Ifanc; aeth y Brifysgol at ysgolion yn y gymuned leol i gynnig y rhaglen hon i'w myfyrwyr, ar yr amod bod y myfyrwyr yn parchu'r safle a'r staff; mae hyn wedi helpu i feithrin a gwella cydberthnasau â phobl ifanc.
Ar y cyfan, mae'r dull cydweithredol hwn wedi bod yn llwyddiannus, gyda gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y safle.