Mae swyddogion wedi atafaelu 55 o e-feiciau a sgwteri anghyfreithlon ychwanegol yn ystod proses atafaelu ddiweddar yng Nghaerdydd.
Lleolwyd swyddogion ar draws canol dinas Caerdydd, Trelái, Y Tyllgoed, Cathays a'r Rhath ddydd Sul 25 a dydd Gwener 30 Ionawr fel rhan o fenter leol yn targedu e-feiciau a cherbydau oddi ar y ffordd anghyfreithlon ac a oedd yn cael eu reidio a'u gyrru'n beryglus yn ein trefi.
Cafodd y broses hon ei chyflwyno gan y Tîm Plismona yn y Gymdogaeth ar ôl sesiwn friffio yng Nghaerdydd Canolog, a hynny gyda chymorth cydweithwyr o Gyngor Caerdydd a'r adran Gorfodi Mewnfudo Gwladol i batrolio gwahanol ardaloedd o'r ddinas i archwilio'r cerbydau, addysgu gyrwyr ac atafaelu'r cerbyd os byddai angen.
Atafaelwyd 55 o e-feiciau ac e-sgwteri yn ystod y broses. Cafodd rhai ohonynt eu profi a dangoswyd eu bod yn gallu gwneud cyflymderau o dros 80mya.
Mae'r ymgyrch hon yn mynd ymhellach na dim ond reidio'r cerbydau hyn yn anghyfreithlon. Gwnaeth y swyddogion hefyd arestio tri unigolyn am fod â Chyffur Dosbarth B (Canabis) yn eu Meddiant gyda'r Bwriad o'i Gyflenwi a chafodd adran Gorfodi Mewnfudo'r Swyddfa Gartref ymgyrch lwyddiannus gan arestio tri unigolyn, pob un wedi'u rhoi ar fechnïaeth a'u harestio am dorri amodau eu mechnïaeth a gweithio yn y DU yn anghyfreithlon.
Dywedodd yr Arolygydd Tim Ursell:
"Mae'r rhain yn ganlyniadau gwych a fydd yn siŵr o gael effaith gadarnhaol ar aelodau'r cymunedau lleol lle mae reidio cerbydau anghyfreithlon ac oddi ar y ffordd yn beryglus ac yn wrthgymdeithasol yn tarfu ar eu bywydau yn barhaus.
"Mae brwydro yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn un o bileri allweddol Gwarant Plismona yn y Gymdogaeth ac mae'r ymgyrch hon yn dangos ein hymrwymiad parhaus yng Nghaerdydd i fynd i'r afael â'r broblem."