Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gan Heddlu De Cymru bedwar llwybr mynediad ar gyfer Swyddogion yr Heddlu.
Hyd y rhaglen | Tair blynedd |
Cyfnod prawf | Tair blynedd |
Gofyniad sylfaenol o ran cymwysterau | Dim |
Cymhwyster y byddwch yn ei ennill | BSc (Anrhyd) mewn Plismona Proffesiynol |
Hyfforddiant | Rhaglen dysgu cychwynnol 6 mis o hyd yng ngwasanaethau Dysgu a Datblygu Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr |
Gwneud cais i dîm arbenigol | Ar ôl tair blynedd |
Rhaglen addysg uwch ar sail ymarfer 3 blynedd o hyd yw Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu, sy'n arwain at Radd Anrhydedd BSc mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. Bydd yn cyfuno dysgu yn yr ystafell ddosbarth a dysgu ymarferol a hyfforddiant a phrofiad yn y swydd.
Nid oes gofyniad sylfaenol o ran cymwysterau – naill ai lanlwythwch gymhwyster lefel 3 ar adeg gwneud cais (Gellir lawrlwytho enghreifftiau o gymwysterau lefel 3 a dderbynnir o waelod y dudalen hon) neu gwblhau asesiad seiliedig ar gymhwysedd mewn Saesneg a Mathemateg ar-lein os nad oes gennych gymhwyster Lefel 3.
Hyd y rhaglen | Dwy flynedd |
Cyfnod prawf | Dwy flynedd |
Gofyniad sylfaenol o ran cymwysterau | Trydydd dosbarth neu uwch mewn Gradd i Israddedigion mewn unrhyw bwnc (heb gynnwys Gradd Plismona Proffesiynol) |
Cymhwyster y byddwch yn ei ennill | Diploma mewn Plismona Proffesiynol i Raddedigion |
Hyfforddiant | Rhaglen dysgu cychwynnol 6 mis o hyd yng ngwasanaethau Dysgu a Datblygu Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr |
Gwneud cais i dîm arbenigol | Ar ôl dwy flynedd |
Mae'r rhaglen yn para am ddwy flynedd, gan gyfuno cyfleoedd dysgu ymarferol a chymhwysedd gweithredol mewn swydd â dysgu academaidd.
Ar ôl ei chwblhau, bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn ennill Diploma mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol.
Bydd yr heddlu yn talu holl ffioedd y cwrs sy'n ymwneud â'r llwybr mynediad hwn.
Hyd y rhaglen | Dwy flynedd |
Cyfnod prawf | Dwy flynedd |
Gwneud cais i dîm arbenigol | Ar ôl dwy flynedd |
Gradd tair blynedd broffesiynol, academaidd sy'n seiliedig ar wybodaeth yw'r Radd Plismona Proffesiynol ac mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio i ymdrin â phob agwedd ar rôl cwnstabl yr heddlu.
Mae'r radd yn cael ei hariannu gan y myfyriwr ei hun, yn debyg i unrhyw radd, a chaiff ei chynnig gan sefydliadau sydd wedi'u trwyddedu gan y Coleg Plismona.
Cliciwch yma i weld rhestr lawn o'r sefydliadau sydd wedi'u trwyddedu ar hyn o bryd.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr cymwys fod wedi cwblhau eu gradd neu ddangos tystiolaeth o gofrestru ar gyfer blwyddyn olaf y Radd Plismona Proffesiynol ar adeg gwneud cais a dangos tystiolaeth eu bod wedi'i chwblhau'n llwyddiannus cyn cael eu penodi.
Mae'n rhaid i chi wneud cais o fewn 5 mlynedd i raddio.
Mae'n rhaid bodloni gofynion cymhwystra cenedlaethol a lleol o hyd ac nid yw gradd yn gwarantu cais llwyddiannus. Cynghorir darpar ymgeiswyr i gadarnhau'r gofynion cymhwystra cyn cychwyn ar eu gradd.
Hyd y rhaglen | Dwy flynedd |
Cyfnod prawf | Dwy flynedd |
Gofyniad sylfaenol o ran cymwysterau | 3 blynedd o brofiad cysylltiol o ddyddiad cyflwyno cais, o fewn y 5 mlynedd diwethaf |
Cymhwyster y byddwch yn ei ennill | Dim |
Hyfforddiant | Rhaglen dysgu gychwynnol 6 mis o hyd yng ngwasanaethau Dysgu a Datblygu Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr |
Gwneud cais i dîm arbenigol | Ar ôl dwy flynedd |
Mae'r Rhaglen Mynediad i Gwnstabliaid yr Heddlu yn rhaglen dwy flynedd heb ei hachredu.
Nod y llwybr Rhaglen Mynediad i Gwnstabliaid yr Heddlu yw darparu sgiliau a gwybodaeth sydd ei angen i roi i'r rheiny sydd ar y llwybr y 'cyfle gorau posibl i ddechrau eich gyrfa mewn plismona'. Mae'r rhaglen yn defnyddio plismona gweithredol, synnwyr cyffredin sy'n rhoi i'r swyddogion yr adnoddau bydd eu hangen arnynt.
Mae angen cymwysterau TGAU A-C mewn Mathemateg a Saesneg (neu gymhwyster Lefel 2 cyfwerth) ar adeg dechrau cyflogaeth. Os nad oes gennych y cymhwyster hwn, bydd angen i chi gwblhau asesiad seiliedig ar gymhwysedd Saesneg a Mathemateg ar-lein.
Bydd angen arnoch 3 mlynedd o brofiad cynghreiriol o fewn y 5 mlynedd diwethaf yn un o'r sectorau perthnasol:
Byddwch yn ymwybodol y bydd angen 3 blynedd o brofiad perthnasol arnoch ar y dyddiad gwneud cais i fod yn gymwys i ymgeisio (rhaid i'r profiad fod o fewn y 5 mlynedd diwethaf).
Caiff ymgeiswyr y cynnig i barhau am drydedd blwyddyn i gwblhau gradd mewn Plismona Proffesiynol.
A allaf ddefnyddio graddau a ragwelir yn fy nghais?
Ni chaiff graddau a ragwelir eu derbyn. Bydd angen atodi'r ardystiad angenrheidiol cyn y gallwch gyflwyno cais.
Beth os na allaf ddod o hyd i'm tystysgrifau addysgol?
Dylech gysylltu â'ch darparwyr addysg i weld a allant roi copi o'ch tystysgrifau i chi. Os na allwch gael gafael ar y rhain, bydd angen i chi wneud cais ar y lefel y mae gennych ddogfennaeth ar ei chyfer. Er enghraifft, os oes gennych radd ond nad oes gennych unrhyw fodd o brofi hyn, ond bod gennych eich tystysgrifau Lefel 3, bydd angen i chi wneud cais drwy'r llwybr hwn.
Beth os wyf am wneud cais ond nad oes gennyf unrhyw gymwysterau?
Gallwch wneud cais drwy'r llwybr mynediad PCDA.
Rydym yn annog unigolion o grwpiau a chymunedau sydd wedi'u tangynrychioli i fanteisio ar ein cyfleoedd recriwtio a datblygu. Fel y caniateir yn neddfwriaeth cydraddoldeb cyflogaeth y DU, rydym yn falch o ddilyn polisi Gweithredu Cadarnhaol i'n helpu i gyflawni hyn.
Os hoffech siarad â rhywun am ymgyrchoedd recriwtio sydd i ddod, cyfleoedd a'r cymorth sydd ar gael i chi, cysylltwch â'n tîm Gweithredu Cadarnhaol yn [email protected].
Anfonwch unrhyw ymholiadau pellach drwy e-bost i: [email protected]
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd a fydd ar gael gyda Heddlu De Cymru yn y dyfodol, rhowch eich manylion ar ein banc talent a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd gennym swyddi gwag sy'n gweddu eich sgiliau a'ch dewisiadau. COFRESTRWCH EICH DIDDORDEB