Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hoffem sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, rydym am i'r ymgeiswyr gorau o ystod eang o gefndiroedd wneud cais i ddod yn rhan o'n teulu plismona.
Mae gennym ymrwymiad cryf i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sefydliad ac yn y gwasanaeth a ddarperir gennym. Ein nod yw denu, recriwtio, cefnogi a hyrwyddo unigolion talentog sy'n cynrychioli'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu ledled De Cymru.
Er mwyn gwerthfawrogi gwahaniaethau, mae'n rhaid i ni fod yn gynhwysol: rydym yn cydnabod bod pobl sydd ag amrywiaeth o sgiliau, agweddau a phrofiadau o gefndiroedd a diwylliannau amrywiol yn gallu cynnig syniadau a safbwyntiau newydd. Bydd annog a harneisio'r gwahaniaethau hyn yn gwella Heddlu De Cymru ac rydym yn ymrwymedig i gyflawni gweithlu sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Wrth ddarparu ein gwasanaeth plismona, mae'n hanfodol ein bod yn meithrin ymddiriedaeth a hyder ein holl gymunedau ac yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant i bawb.
Rydym yn annog unigolion o grwpiau a chymunedau sydd wedi'u tangynrychioli i fanteisio ar ein cyfleoedd recriwtio a datblygu. Fel y caniateir yn neddfwriaeth cydraddoldeb cyflogaeth y DU, rydym yn falch o ddilyn polisi Gweithredu Cadarnhaol i'n helpu i gyflawni hyn.
Os hoffech siarad â rhywun am ymgyrchoedd recriwtio sydd i ddod, cyfleoedd a'r cymorth sydd ar gael i chi, cysylltwch â'n tîm Gweithredu Cadarnhaol yn [email protected].
Mae gweithredu cadarnhaol yn cyfeirio at ystod o fesurau a mentrau y gall cyflogwyr eu dilyn yn gyfreithlon er mwyn annog unigolion o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli i wneud ceisiadau am swyddi.
Mae sicrhau gwahaniaethau gwirioneddol yn nheulu'r heddlu yn arwain at safbwyntiau gwahanol sy'n ein helpu i ddeall ein cymunedau yn well. Drwy wneud hyn, gallwn fod yn arloesol ac ymateb i anghenion ein cymunedau sy'n newid o hyd.
Mae ein tîm Gweithredu Cadarnhaol, sy'n cynnwys swyddogion yr heddlu sy'n gwasanaethu a staff yr heddlu, wrth law i gynnig cymorth i ddarpar ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig. Gallant gynnig cymorth wedi'i deilwra, un i un weithiau, i'ch arwain dwy'r broses gwneud cais. Gallant eich helpu i oresgyn unrhyw rwystrau rydych yn teimlo eich bod yn eu hwynebu, ni waeth pa adran o deulu'r heddlu rydych yn ystyried ymuno â hi.
Ar hyn o bryd, nid oes digon o ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i gynrychioli rolau mewn lifrai yn Heddlu De Cymru. O ganlyniad, gallwn gynnig cymorth Gweithredu Cadarnhaol ym mhob agwedd ar ein proses recriwtio i ymgeiswyr sy'n ystyried eu bod yn perthyn i gymuned ethnig leiafrifol yn cynnwys mynychu digwyddiadau uwchsgilio.
Ar gyfer unrhyw unigolion eraill sy'n teimlo y byddent yn elwa ar gymorth ychwanegol - yn cynnwys ymgeiswyr benywaidd - cysylltwch â'r tîm Gweithredu Cadarnhaol ar [email protected] i drafod eich anghenion a'r cymorth y gallwn ei gynnig i chi.
Mae ein tîm Gweithredu Cadarnhaol yn ymuno â nifer o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ar draws ardal yr heddlu. Mae croeso i chi ddod i siarad â ni a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch cymorth Gweithredu Cadarnhaol a gyrfa gyda Heddlu De Cymru. Gallwch weld ym mha ddigwyddiadau y byddwn yn bresennol yma.
Fel rhan o'n gweithgarwch gweithredu cadarnhaol, rydym yn cynnal nifer o sesiynau uwchsgilio sydd wedi eu cynllunio i gefnogi ymgeiswyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig sy'n awyddus i ymuno â Heddlu De Cymru. Mae'r sesiynau uwchsgilio hyn wedi'u teilwra i'r broses ymgeisio ar gyfer pob rôl.
I wneud cais i gymryd rhan yn y sesiwn uwchsgilio, e-bostiwch [email protected]. Rhaid i chi gynnwys y canlynol yn yr e-bost:
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i gwblhau gwiriad cychwynnol o gymhwysedd ar gyfer y rôl rydych yn gwneud cais amdani ac i gadarnhau eich bod yn gymwys i gael cymorth gweithredu cadarnhaol.
Ar gyfer unrhyw unigolion eraill sy'n teimlo y byddent yn elwa ar gymorth ychwanegol edrychwch hefyd ar ein tudalen canllawiau ar ymgeisio ar gyfer rôl Swyddog yr Heddlu a'n tudalen canllawiau ar ymgeisio ar gyfer rôl Staff yr Heddlu i gael rhagor o wybodaeth.