Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ogystal â gwneud cyfraniad go iawn i ddiogelwch ein cymunedau, drwy ymuno â #TîmHDC, byddwch yn dod yn rhan o sefydliad blaengar, arloesol a chynhwysol. Felly, beth gall gyrfa gyda Heddlu De Cymru ei chynnig i chi?
Bydd pob aelod newydd o Staff yr Heddlu yn:
Bydd pob Swyddog newydd yr Heddlu yn:
Rydym hefyd yn falch o gynnig ystod o fuddiannau, gwobrau a mentrau llesiant hyblyg ychwanegol fel a ganlyn:
Mae Heddlu De Cymru yn ymroi i gynnig cydbwysedd bywyd a gwaith iach i gyflogeion – cynigiwn gynllun Gweithio'n Glyfar lle gallwch weithio o'r lleoliad mwyaf effeithlon ac effeithiol ar unrhyw ddiwrnod penodol, gan gynnwys o'r cartref (yn dibynnu ar y rôl), ynghyd â gweithio hyblyg a pholisïau mamolaeth / tadolaeth a pholisïau absenoldeb mabwysiadu gwell.
Care First Er mwyn ychwanegu at ein gwasanaethau cwnsela a thrawma mewnol, mae Heddlu De Cymru yn cynnig llinell gymorth annibynnol, rhad ac am ddim a chyfrinachol dros y ffôn. Mae hon ar gael bob awr o'r dydd a'r nos ac mae ar gael i bob swyddog, aelod o staff ac aelod o'r Gwnstabliaeth Wirfoddol.
Cynllun Gofal Llygaid Fel rhan o ymrwymiad yr heddlu i iechyd a llesiant, gall pob swyddog ac aelod o staff fynd at Gynllun Gofal Llygaid i gael archwiliadau llygaid rheolaidd a chael cyngor ac arweiniad mewn perthynas ag iechyd y llygaid.
Mynediad i Gampfa ar y Safle (lleoliadau niferus) Mae gan lawer o'n safleoedd ar hyd a lled ardal yr heddlu gampfeydd pwrpasol ar y safle y mae modd eu defnyddio yn rhad ac am ddim.
HDC – Fy Meddwl Mae Heddlu De Cymru yn cynnig gwasanaeth cwnsela un-i-un cyfrinachol sydd ar gael i bob aelod o staff a swyddog, p'un a yw'n ofynnol ar gyfer digwyddiadau personol neu ddigwyddiadau cysylltiedig â gwaith.
Pencampwyr Llesiant Mae'r heddlu wedi hyfforddi pencampwyr i roi cyngor a chymorth i gyflogeion mewn cyfoeth o faterion llesiant, sy'n cynnwys iechyd meddwl, beichiogrwydd a'r menopos.
Mae ein hyb unigryw “Fy Ngwobrau a Buddiannau yn HDC” yn rhoi gwybodaeth am y buddiannau a'r cynigion unigryw diweddaraf yn ogystal â gostyngiadau i'r Gampfa / Canolfannau Hamdden, darparwyr Gofal Plant a mwy.
Cerdyn Gostyngiadau Golau Glas Mae'r Cerdyn Golau Glas yn rhoi cynigion arbennig ar-lein ac ar y stryd fawr i aelodau gwasanaeth yr heddlu a'r gwasanaethau brys eraill. Rhagor o wybodaeth.
Clwb Beicio Golau Glas Mae'r Clwb Beicio Golau Glas yn agored i holl staff Gwasanaeth yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, y GIG, Gwylwyr y Glannau, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, y Gwasanaeth Carchardai a'r Lluoedd Arfog. Caiff aelodau fynediad i gannoedd o ostyngiadau gyda rhai o'r brandiau chwaraeon mwyaf a byddant yn gallu mwynhau reidiau diogel a chyfeillgar. Rhagor o wybodaeth.
Beicio i'r Gwaith Cynllun Cycle2Work yw'r ffordd fwyaf cost-effeithiol o gael offer beicio newydd. Caiff y cynllun ei redeg drwy aberthu cyflog sy'n golygu na fyddwch yn talu treth nac yswiriant gwladol – bydd hyn yn arbed rhwng 32% a 42% i chi ar eich beic ac ategolion newydd. Yn syml, caiff y gostyngiad mewn cost ei ddidynnu o'ch slip cyflog dros gyfnod o 12 mis, felly does dim angen i chi boeni am gostau untro mawr!
Cerdyn Diolch Vectis Bydd holl gyflogeion Heddlu De Cymru yn cael mynediad i gerdyn ‘Diolch’ (Vectis) unigryw sy'n rhoi mynediad unigryw i amrywiaeth eang o fanteision a gostyngiadau.
Chwaraeon Heddlu De Cymru Am gyfraniad bach misol oddi ar y gyflogres, gall Chwaraeon Heddlu De Cymru arbed arian i chi a helpu i gefnogi eich llesiant. Mae Chwaraeon Heddlu De Cymru wrthi'n ariannu 28 adran gefnogol yn yr heddlu a hefyd yn cynnig gostyngiadau unigryw am docynnau theatr, cynhyrchion, tripiau dydd a mwy.
Loteri Mae Loteri Chwaraeon yr Heddlu De Cymru yn agored i'r holl swyddogion a staff sy'n gwasanaethu ac am ffi fach fisol, caiff cyflogeion gyfle i ennill dewis o wobrau gwych bob wythnos.
Cynllun Gofal Plant Di-dreth Mae pob cyflogai yn gymwys i wneud cais am Ofal Plant Di-dreth, lle gallwch gael hyd at £2000 y flwyddyn ar gyfer pob un o'ch plant i helpu gyda chostau gofal plant neu hyd at £4000 y flwyddyn i helpu gyda chost gofal plant os bydd eich plentyn yn anabl.
Mae ein hyb “Fy Llesiant Ariannol yn HDC” dynodedig yn rhoi cymorth, gwybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol er mwyn gwella eich llesiant ariannol. O gyllidebu i arbedion, ymwybyddiaeth dyled a mwy, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ac adeiladu gwydnwch ariannol ein Swyddogion a'n Staff.
Undebau Credyd Rydym yn ymroi i gefnogi ein holl gyflogeion gyda'u Llesiant Ariannol ac rydym yn falch o greu partneriaeth â dau undeb credyd gwych, sef No1 Copperpot a Police Mutual, y mae'r ddau ohonynt yn cefnogi'r teulu plismona gyda phopeth o fenthyciadau i gynilion. Cewch wybod rhagor o wybodaeth am y mathau o gynhyrchion sydd ar gael yn arbennig pan fyddwch yn ymuno â Thîm HDC.
Gwasanaeth Caplan Mae ein Gwasanaeth Caplan yn galluogi swyddogion a staff i gael rhywun i siarad ag ef ac i ymddwyn fel cyfaill beirniadol. Ei rôl yw bod yno i ddarparu cymorth sylfaenol a ‘chlust i wrando’.
Employers for Carers Rydym yn cefnogi ein gofalwyr sy'n gweithio ac rydym yn aelod gweithgar o fforwm busnes Carers UK, Employers for Carers. Mae ein haelodaeth yn rhoi mynediad i wefan Employers for Carers i bob cyflogai, gan gynnig ystod o adnoddau a all ein helpu ni i gefnogi staff sy'n jyglo ymrwymiadau gwaith a gofalu. Mae hefyd yn cynnig cyngor i reolwyr gofalwyr.
Aelodaeth o Gymdeithasau Staff Fel aelod o Dîm HDC, mae gennych gyfle i ymuno ag amrywiaeth o Gymdeithasau Staff. Gallwch ddysgu mwy am hyn yn ein rhwydweithiau staff yma.
Mae Heddlu De Cymru yn cynnig sawl ffordd o gyflawni Datblygiad Proffesiynol Parhaus er mwyn buddsoddi mewn swyddogion a staff a'u meithrin er mwyn iddynt allu cyflawni eu potensial i'r eithaf. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglenni datblygu personol wedi'u teilwra, cyfleoedd prentisiaeth ar gyfer staff presennol, Dyfodol Plismona, sesiynau hyfforddi a mentora a mynediad i Hwb Datblygu'r lluoedd.
O gyfarfod Diolch gyda'r Prif Gwnstabl i Wobr fawreddog Tîm HDC yr Heddlu – mae llawer o gyfleoedd ar gael i gydnabod gwaith gwych a'r effaith fawr yn y sefydliad.
Caiff ein swyddogion a staff hefyd eu cydnabod yn rheolaidd ar lefel genedlaethol drwy raglenni gwobrwyo arbenigol cenedlaethol, yn ogystal â Medal Heddlu'r Frenhines, MBEs a mwy!
Graddfa gyflog | O fis Medi 2023 | O fis Medi 2024 |
1 (Cyflog Cychwynnol) | £28,551 | £29,907 |
2 | £29,751 | £31,164 |
3 | £30,957 | £32,427 |
4 | £32,163 | £33,690 |
5 | £34,575 | £36,216 |
6 | £39,432 | £41,304 |
7 | £46,044 | £48,231 |
Eich cyflog cychwynnol fydd £24,921 - £27,351. Yn ogystal â’ch cyflog, bydd gennych hawl i lwfans sifft penodol a byddwch yn gymwys i hawlio lwfans ychwanegol ar y penwythnosau fel y bo’n berthnasol.
Eich cyflog cychwynnol fydd £23,154 - £27,351. Yn ogystal â’ch cyflog, bydd gennych hawl i lwfans sifft penodol (20%) a byddwch yn gymwys i hawlio lwfans ychwanegol ar y penwythnosau fel y bo’n berthnasol.
Caiff ystod cyflog, oriau contract a lwfansau sifft ar gyfer rôl staff yr heddlu eu nodi'n glir ar y dudalen gwneud cais am swydd wag.
Ar hyn o bryd, mae'r ystodau cyflog ar gyfer graddfeydd cyflog staff yr heddlu fel a ganlyn:
Graddfa 2/4 | £22,230.00 - £27,351.00 |
Graddfa 4/S.O.1 | £24,921.00 - £35,982.00 |
Graddfa P.O.1 | £38,007.00 - £40,950.00 |
Graddfa P.O.3 | £43,098.00 - £46,674.00 |
Graddfa P.O.7 | £57,006.00 - £60,708.00 |
Mae'r graddfeydd hyn yn gyfwerth â lefel mynediad y math o rolau canlynol:
Byddwch yn cael eich penodi i'ch rôl ar waelod y raddfa oni chytunir fel arall.
Mae telerau ac amodau yn berthnasol mewn rhai o'n buddiannau a pholisïau.