Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i raddedigion ddilyn ein Rhaglen Mynediad i Dditectif Gwnstabliaid. Ar ôl dilyn hyfforddiant cychwynnol yr Heddlu a chyrraedd cerrig milltir allweddol, byddwch yn gweithio mewn rôl Ymchwilydd dan Hyfforddiant cyn dilyn hyfforddiant ymchwilio uwch a lleoliadau arbenigol er mwyn datblygu'r meddylfryd ymchwilio.
Mae Ditectifs yn gyfrifol am ymchwilio i droseddau difrifol a chymhleth a byddant yn rheoli amrywiaeth o ymchwiliadau o'r dechrau i'r diwedd.
Mae'n wir, gall y rôl fod yn heriol a bydd angen i chi fod yn wydn, ond dyma un o'r swyddi mwyaf gwerth chweil posibl. Drwy gydol y cyfnod hwn, bydd ymgeiswyr yn cael y lefel uchaf o hyfforddiant a chymorth.
Bydd gofyn eich bod yn meddu ar y cymwyseddau a'r gwerthoedd sydd eu hangen er mwyn bod yn dditectif; ond bydd angen i chi hefyd ddangos y rhinweddau canlynol:
Rydym yn chwilio am unigolion llawn cymhelliant sydd â meddylfryd ymchwiliol cadarn, sgiliau cyfathrebu da ac ymrwymiad go iawn i helpu'r rhai sy'n agored i niwed.
Efallai y byddwch dal yn gymwys i ymuno â gwasanaeth yr heddlu os oes gennych fân euogfarnau/rhybuddiadau, ond mae rhai troseddau ac amodau a fydd yn golygu eich bod yn anghymwys.
Mae'n RHAID i chi nodi pob euogfarn am droseddau blaenorol, rhybuddiadau ffurfiol (gan gynnwys rhybuddiadau a gafwyd fel person ifanc) ac unrhyw achos o rwymo i gadw'r heddwch a osodwyd gan y llysoedd.
Dylech hefyd gynnwys pob euogfarn draffig. Oherwydd natur plismona, mae'n hanfodol ein bod yn fetio ymgeiswyr llwyddiannus yn drylwyr cyn y gallant ymuno â'r rhaglen.
Mae'n rhaid eich bod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, yn ddinesydd y Gymanwlad neu'n wladolyn tramor heb gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y Deyrnas Unedig.
Mae'n rhaid eich bod wedi byw'n barhaus yn y DU am gyfnod o dair blynedd yn union cyn gwneud cais.
Y rheswm dros hyn yw fel y gellir bodloni'r gofyniad i fetio pob ymgeisydd mewn modd teg am nad oes gan wasanaeth Heddlu'r DU ar hyn o bryd unrhyw ffordd o hwyluso profion fetio dramor i'r un graddau sy'n angenrheidiol ar gyfer y rheini sydd wedi bod yn byw yn y DU. Ni allwn benodi ymgeiswyr nad ydynt wedi'u fetio.
Bydd gwiriadau yn cael eu cynnal ar statws ariannol pob ymgeisydd. Cynhelir y gwiriadau hyn am fod Cwnstabliaid yr Heddlu yn cael mynediad at wybodaeth freintiedig, a all eu gwneud yn agored i lygredigaeth.
Bydd statws ariannol pob ymgeisydd yn cael ei archwilio. Cynhelir yr archwiliadau hyn oherwydd bydd gan heddwas fynediad i wybodaeth freintiedig a all eu gwneud yn agored i lygredd.
Mae gan Heddlu De Cymru bolisi o wahardd unrhyw un o'n swyddogion rhag bod yn aelodau o Blaid Genedlaethol Prydain, neu sefydliad tebyg y gall ei nodau, ei amcanion neu ei ddatganiadau fod yn groes i'r dyletswyddau i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Os ydych yn aelod o Blaid Genedlaethol Prydain neu wedi bod yn rhan ohoni yn flaenorol, mae'n bosibl y caiff eich cais ei wrthod.
Mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr sydd â thatŵs a thyllau yn y corff sy'n weladwy yn gymwys i gael eu penodi. Caiff pob achos ei ystyried ar sail unigol, gan ystyried nifer, natur, maint, amlygrwydd, ymddangosiad a lleoliad y tatŵs.
Mae'n rhaid nad oes unrhyw datŵau yn dramgwyddus i gydweithwyr nac aelodau o'r cyhoedd ac nad ydynt yn tanseilio urddas eich rôl yn yr heddlu. Tybir o hyd y bydd tatŵs ar y gwddf, y wyneb neu'r dwylo yn annerbyniol ond efallai y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi o dan rai amgylchiadau yn dibynnu ar faint, natur ac amlygrwydd y tatŵ.
Os bydd ymgeiswyr yn dewis cael unrhyw datŵs ychwanegol a thyllau ychwanegol yn y corff yn ystod y broses recriwtio, ar ôl llwyddo yn y gwiriadau cymhwystra, nhw sy'n gyfrifol am hysbysu staff adnoddau dynol a chyflwyno ffotograffau priodol y bydd angen bwrw golwg drostynt.
Gonestrwydd sy'n talu orau ym mhob agwedd ar ein proses recriwtio. Mae'n hanfodol eich bod yn datgan yr holl wybodaeth berthnasol i ni ystod camau ymgeisio a fetio'r broses. Byddwn yn gofyn cwestiynau i chi ond dylech hefyd ddweud wrthym am unrhyw beth arall a all effeithio ar eich addasrwydd i ymgymryd â'r rôl yn eich barn chi. Mae'n rhaid i chi hefyd hysbysu'r tîm recriwtio sy'n goruchwylio'ch rôl am unrhyw newid yn eich amgylchiadau yn ystod eich proses ymgeisio. Cliciwch yma i gael eu gwybodaeth gyswllt.
Mae'n bwysig gwybod bod llawer o amgylchiadau personol nad ydynt o reidrwydd yn eich atal rhag bod yn gymwys i ymuno â'r heddlu. Fodd bynnag, os na fyddwch yn datgelu gwybodaeth berthnasol, mae'n rhaid i ni ystyried hyn fel anwaith bwriadol ac yn ymgais i gelu'r wybodaeth honno oddi wrthym.
Fel sefydliad rydym yn annog staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn fewnol, er mwyn creu mwy o gyfleoedd i weld, clywed a defnyddio'r Gymraeg wrth weithredu ein busnes.
Er y gallwch wneud cais i ymuno â'r heddlu heb unrhyw allu yn y Gymraeg, disgwylir i bob Swyddog yr Heddlu newydd gyrraedd Cymraeg lefel 2 erbyn diwedd ei gyfnod prawf. Caiff ymgeiswyr gymorth i wneud hyn pan fyddant wedi dechrau yn eu swydd, ond mae croeso iddynt ddechrau dysgu Cymraeg cyn gwneud cais.
Gallwn gymeradwyo addasiadau neu ystyriaethau rhesymol yn ein canolfannau asesu a chyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr a all ddarparu tystiolaeth addas.
Mae'n bwysig bod ymgeiswyr yn ystyried a hoffent ofyn am drefniadau a fydd yn eu helpu i gwblhau elfennau o'r broses recriwtio. Gallai hyn fod mewn perthynas ag anabledd, niwroamrywiaeth, beichiogrwydd, menopos, anaf, crefydd neu gred ac ati.
Caiff addasiadau/ystyriaethau eu trafod yn unigol, yn seiliedig ar eich amgylchiadau a'r dystiolaeth a ddarperir gennych. Gellir cynnig addasiadau/ystyriaethau i gefnogi ystod o amgylchiadau unigol.
Gwybodaeth am dâl, buddiannau a gwobrau i dditectifs
Fel ditectif, byddwch yn gweithio ar amrywiaeth eang o droseddau, gan gynnwys achosion cymhleth a difrifol, ac yn cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae gyrfa ditectif yn amrywiol, ac mae heriau'r rôl yn gymesur â'r gwobrau; sef canfod troseddau a chefnogi pobl De Cymru.
Mae'r meysydd gwaith yn cynnwys y canlynol:
Mae ein Hadran Ymchwiliadau Troseddol yn ymdrin â digwyddiadau fel ymosodiadau difrifol, ymosodiadau rhywiol difrifol, lladrad, bwrgleriaeth ac achosion mawr o ddwyn eiddo. Mae'n ymdrin â digwyddiadau difrifol ac yn mynd ar drywydd ymchwiliadau hyd nes iddynt gael eu cwblhau.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i wneud cais am swydd ditectif arbenigol ac mae'n bosibl trosglwyddo i unedau gwahanol yn ystod eich gyrfa.
Mae Ymchwilwyr Diogelu'r Cyhoedd yn ymchwilio i achosion o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant, cam-drin plant ac oedolion agored i niwed sydd mewn perygl.
Mae ein Huned Troseddau Cyfundrefnol yn mynd ati'n rhagweithiol i ymchwilio i Grwpiau Troseddu Cyfundrefnol sy'n byw yn ardal Heddlu De Cymru a'r tu allan, sy'n effeithio ar gymunedau De Cymru.
Mae Tîm Ymchwilio Ar-lein yr Heddlu yn dîm canolog sy'n ymchwilio i unigolion yn Ne Cymru sy'n defnyddio'r rhyngrwyd gyda'r bwriad o edrych ar ddelweddau anweddus o blant, meddu arnynt a'u dosbarthu.
Mae'r Tîm Ymchwiliadau Troseddau Mawr yn gyfrifol am reoli ac ymchwilio i'r troseddau mwyaf difrifol a chymhleth, gan gynnwys Marwolaethau Amheus, Llofruddiaeth, Herwgipio a Chribddeilio.
Mae'r Uned Seiberdroseddu yn gyfrifol am ymchwilio i bob trosedd sy'n ddibynnol ar dechnoleg gwybodaeth yn ardal Heddlu De Cymru.
Mae'r Uned Troseddau Economaidd yn ymchwilio i achosion proffil uchel sylweddol a chymhleth o dwyll yn Ne Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â heddluoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, asiantaethau atal twyll a chyrff sector cyhoeddus a phreifat.
Mae ditectifs yn gyfrifol am ymchwilio i droseddau difrifol a chymhleth, mynd ar ôl troseddwyr, blaenoriaethu dioddefwyr, amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed ac arwain y gwaith o reoli achosion o droseddau o'r fath o'r dechrau i'r diwedd. Gall y rôl fod yn heriol, a bydd angen i chi fod yn wydn, dyfeisgar, dadansoddol a thosturiol. Fodd bynnag, mae'n rôl heb ei hail ac yn un sy'n cynnig gwobrau personol a phroffesiynol lu.
Yma yn HDC, rydym yn cynnig cyfle newydd a chyffrous i bobl alluog a brwdfrydig ymuno â'n tîm drwy ein Rhaglen Fynediad ar Garlam i Rôl Ditectif. Ar ôl cwblhau'r hyfforddiant cychwynnol a chyrraedd sawl carreg filltir, byddwch yn gweithio gyda thimau heddlu mewn lifrau lle byddwch yn datblygu eich sgiliau Plismona craidd. Yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn cwblhau atodiadau ymchwiliadol arbenigol gan gynnwys timau ymchwilio i'r drwgdybiedig er mwyn datblygu'r meddylfryd ymchwiliol.
Ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf dwy flynedd, byddwch yn ymgymryd â rôl Ditectif Ymchwilydd dan Hyfforddiant ac yn dechrau ar hyfforddiant a datblygiad cychwynnol fel Ditectif ymchwiliadol estynedig er mwyn cyflawni eich achrediad Ditectif. Bydd gofyn i chi basio'r Arholiad Ymchwilydd Cenedlaethol (NIE) - byddwn yn eich cefnogi drwy'r broses hon gyda phecyn astudio a dyddiau astudio.
Caiff y rhaglen ddwy flynedd hon ei chefnogi gan ddysgu mewn swydd a dysgu y tu allan i'r swydd, a byddwch yn gallu cael gafael ar y lefel uchaf o hyfforddiant a chymorth proffesiynol. Bydd eich hyfforddiant yn cael ei gyflwyno o fewn yr heddlu a ni fydd disgwyl i chi gwblhau unrhyw gymhwyster academaidd.
Rydym yn cydnabod y gall y broses gwneud cais fod yn hir a bydd yn cymryd sawl mis. Fodd bynnag, y dull gweithredu trylwyr hwn sy'n sicrhau ein bod yn dewis pobl a fydd yn dditectifs gwych.
Gallwch gwblhau'r ymarferion ar unrhyw declyn sydd â'r rhyngrwyd gyda chamera (gliniadur, llechen neu ffôn), ond er mwyn sicrhau cydnawsedd llawn gyda'r llwyfan ar-lein, dylai'r canlynol gael ei osod:
Byddai’n ddoeth cwblhau’r broses ymgeisio gyfan ar yr un ddyfais gan y bydd y cyfeiriadau IP yn gwrthdaro os ydych chi’n penderfynu newid dyfeisiau ar ôl i chi ddechrau a gallai hyn eich atal rhag parhau â’ch cais. Felly, fe’ch cynghorir i beidio â chwblhau eich cais yn y gwaith.
Fe’ch cynghorir i beidio â defnyddio dyfeisiau symudol, megis llechi neu ffonau symudol, gan nad ydynt yn gydnaws â’r profion ar-lein y mae’n rhaid eu cwblhau. Gallwn ond ailosod profion unwaith i bob ymgeisydd.
Cynghorir ymgeiswyr hefyd i gadw llygad ar eu blwch post “sothach” am negeseuon e-bost yn rhoi’r newyddion diweddaraf gan y system.
Y cam cyntaf fydd proses ymgeisio ar-lein sy'n cynnwys rhai cwestiynau ‘pennu tynged’ i gadarnhau cymhwystra. Os byddwch yn pasio'r cam hwn, bydd gofyn i chi gwblhau cyfres o brofion ar-lein yn ogystal â ffurflen gais.
Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd gwblhau sifft genedlaethol a fydd yn cynnwys dau brawf y bydd yn rhaid i bob ymgeisydd ei gwblhau (p'un a oes gennych gymwysterau ai peidio). Y ddau brawf yw'r Prawf Barn Sefyllfaol a'r Holiadur Arddulliau Ymddygiadol. Bydd yn rhaid pasio'r ddau er mwyn mynd ymlaen gyda'r broses ymgeisio.
Noder y gallwch ond cwblhau'r prawf hwn unwaith bob tri mis neu ddwywaith mewn cyfnod o 12 mis.
Prawf o'ch Cymwysterau
Rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd ym mlwyddyn olaf eu rhaglen gradd ar gyfer yr ymgyrch hon. Os byddwch yn gwneud cais yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwn yn gofyn i chi lanlwytho tystiolaeth gan eich Darparwr Addysg Uwch yn lle'r dystysgrif gradd lawn.
Os byddwch eisoes wedi ennill Gradd BSc/BA mewn Plismona Proffesiynol, neu yn eich blwyddyn olaf, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y llwybr mynediad hwn.
Beth fydd yn digwydd yng nghyfweliad mewnol yr heddlu?
Cewch eich cyfweld gan banel o staff yr heddlu (dau aelod o'r staff fel arfer) a fydd yn gofyn cwestiynau i chi yn seiliedig ar fframwaith cymhwysedd a gwerthoedd plismona'r Coleg Plismona.
Bydd y cyfwelwyr yn gofyn cyfres o gwestiynau i chi.
Defnyddiwch enghreifftiau o'ch gwaith, neu'ch bywyd cymdeithasol, teuluol neu addysgol i ateb cwestiynau'r cyfweliad. Yn yr enghreifftiau hyn rydym yn chwilio am dystiolaeth benodol o ymddygiadau cymhwysedd sy'n cyd-fynd â gwerthoedd ein sefydliad.
Byddwch yn benodol: rydym am wybod beth gwnaethoch CHI ei ddweud neu ei wneud ar achlysur penodol i ddelio â'r sefyllfa. Felly, mae'n bwysig bod yr enghreifftiau y byddwch yn eu rhoi yn sôn am eich profiadau chi, a'u bod mor fanwl â phosibl.
Bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn senario fel ditectif.
Weithiau, bydd plismona yn rôl sy'n gofyn llawer yn gorfforol, felly bydd angen i chi fod mewn cyflwr corfforol da i basio'r prawf ffitrwydd. Bydd y prawf yn mesur a yw lefel eich ffitrwydd yn ddigon da.
Ar gyfer y prawf gwydnwch, gofynnir i chi redeg yn ôl ac ymlaen ar hyd trac 15 metr yn unol â chyfres o synau blipio. Wrth i'r prawf fynd yn ei flaen, bydd y blipiau yn cyflymu i lefel 5.4.
Bydd gofyn i chi fynychu prawf ffitrwydd cyn penodi hefyd, cyn y dyddiad penodi disgwyliedig, a bydd yn rhaid i chi basio hwn er mwyn i'ch cais symud yn ei flaen.
O ganlyniad i natur gwaith plismona, mae ffitrwydd ac iechyd da yn hollbwysig. Fodd bynnag, croesawir ceisiadau gan bobl sydd ag anableddau a gwneir pob ymdrech i wneud addasiadau rhesymol yn ôl y gofyn.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam cyfweld, byddwch yn cael archwiliad meddygol.
Ceir anhwylderau a chyflyrau meddygol penodol y gallent gael effaith niweidiol ar eich gallu i gyflawni'r rôl mewn ffordd effeithiol; ystyrir pob achos yn ofalus fel rhan o'r broses feddygol.
Asesir ystod eich pwysau yn ystod eich asesiad meddygol. Mae'r ystod pwysau iach yn seiliedig ar fesur a elwir eich mynegai màs y corff (BMI). Gellir darganfod hwn os ydych yn gwybod eich pwysau a'ch taldra. Y cyfrifiad yw eich pwysau (mewn cilogramau) wedi'i rannu gyda'ch taldra (mewn metrau sgwâr). Gellir gweld canllawiau a siartiau hawdd i'w defnyddio ynghylch sut i gyfrifo'ch BMI ar wefan GIG.
Mae GIG yn cynghori bod BMI o 18.5 i 24.9 yn awgrymu pwysau iach normal. Mae hyn yn golygu nad yw eich corf mewn perygl o ddioddef clefyd sy'n gysylltiedig â'ch pwysau.
Pennir safonau BMI ar gyfer swyddogion yr heddlu gan y Swyddfa Gartref. Mae cylchlythyr 59/2004 cyfredol y Swyddfa Gartref yn amlinellu bod hwn rhwng 18 a 30. Efallai y caiff cais ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r safon hwn ei oedi a / neu ni fyddant yn cael eu penodi.
Ni ystyrir bod ymgeiswyr i fod yn Swyddogion yr Heddlu, y mae eu BMI dros 32, yn ffit, oni bai bod canran y braster yn eu corff yn llai na 30% ar gyfer dynion neu 36% ar gyfer menywod.
Nodir pwysigrwydd gonestrwydd ac uniondeb yn glir trwy gydol ein proses ymgeisio. Mae swyddogion yn destun y Safonau Ymddygiad Proffesiynol, sy'n nodi mewn ffordd glir yr hyn y gall cymunedau ei ddisgwyl gan eu swyddogion.
Mae angen geirdaon i gwmpasu o leiaf 5 blynedd o hanes cyflogaeth barhaus. Os nad ydych wedi bod mewn cyflogaeth ers 5 blynedd byddwn yn ceisio cael geirdaon o fyd addysg a gan bobl sy’n eich adnabod yn bersonol.
Gofynnir i chi gael prawf cyffuriau a darparu gwybodaeth am unrhyw feddyginiaeth yr ydych yn ei chymryd hefyd. Cyflwynwyd deddfwriaeth sy'n mynnu bod ymgeiswyr yn dilyn proses fetio biometrig.
Os byddwch yn methu'r prawf cyffuriau, ni chynigir swydd i chi gyda Heddlu De Cymru. Tynnir yn ôl y cynnig a roddwyd i ymgeiswyr mewnol sy'n methu prawf cyffuriau a gellir defnyddio'r canlyniadau o'r prawf cyffuriau yn unol â Pholisi Disgyblu Staff Heddlu De Cymru a Chod Ymddygiad Staff yr Heddlu.
Ar y dydd, byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen caniatâd er mwyn casglu eich olion bysedd a sampl o'ch DNA at ddibenion archwiliad tybiannol a bod eich olion bysedd a'ch proffil DNA yn cael eu cadw yng Nghronfa Ddata Diddymu yr Heddlu (PEDb).
Diben sicrhau olion bysedd a samplau DNA yw er mwyn gallu cynnal archwiliad tybiannol yn erbyn y cronfeydd lleol a chenedlaethol cyn i chi gael eich penodi i'r heddlu. Diben hyn yw sicrhau nad ydych wedi bod yn destun sylw niweidiol yr heddlu yn flaenorol, nad ydych wedi ein hysbysu ohono, a hefyd, nad oes unrhyw gyswllt rhyngoch chi ac unrhyw safleoedd trosedd heb eu datrys.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y lefel uchaf o hyfforddiant a chymorth a gallwch ddisgwyl rhagolygon gyrfa a buddiannau ardderchog.
You will spend your first 6 months within training where you will learn the relevant legislation and processes alongside technical skills such as Personal Safety Training, First Aid and force computer systems. This will be based from SWP HQ in Bridgend.
Wedyn byddwch yn cael eich lleoli gyda thiwtor cwnstabl profiadol gyda thîm ymateb mewn lifrai am gyfnod o fis gan weithio patrwm o sifftiau sy'n cylchdroi yn ystod y dydd (0700-1700), wedyn yn y prynhawn (1500-2300 neu tan 0300 ar ddydd Gwener / dydd Sadwrn) ac wedyn gyda'r nos (2200-0700) saith diwrnod yr wythnos wedi'u dilyn gan bedwar diwrnod gorffwys. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys Gwyliau Cyhoeddus. Bydd hyn yn rhoi cipolwg i chi ar rôl swyddog heddlu gweithredol ac ymchwilydd.
Ar ddiwedd y cam hwn, cyn belled â'ch bod wedi dangos a phrofi'r sgiliau angenrheidiol, byddwch yn cyrraedd Statws Patrolio Annibynnol ac yn aros gyda'r adran Blismona mewn lifrau er mwyn datblygu eich sgiliau Plismona craidd.
Yn ystod eich cyfnod prawf o ddwy flynedd, bydd gofyn i chi ddangos eich cymhwysedd gweithredol drwy ddelio ag amrywiaeth o wahanol ddigwyddiadau'r Heddlu.
Bydd disgwyl i chi gyfrannu at wneud ein cymunedau yn lleoedd mwy diogel i fyw ynddynt o'r cychwyn cyntaf a rhoi eich profiadau a'ch syniadau ar waith mewn heddlu modern, sy'n datblygu. Yn gyfnewid am hyn, ac yn ogystal â rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr, gallwch ddisgwyl rhagolygon gyrfa a buddiannau rhagorol.
A fyddaf yn gwisgo lifrai?
Byddwch, yn ystod yr hyfforddiant cychwynnol. Mae'r rhaglen yn gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus feithrin gwybodaeth a sgiliau plismona craidd mewn rôl blismona ymateb mewn lifrai.
Yn dilyn y cyfnod hwn, bydd angen i chi wisgo dillad busnes trwsiadus (a ddarperir ar eich traul eich hun). Nodwch, fel swyddog yr heddlu, efallai y byddwch yn cael eich rhoi ar leoliad neu efallai y gofynnir i chi weithio mewn lifrai os bydd angen hynny ar y sefydliad.
Does gen u ddim gradd, a allaf wneud cais o hyd?
Yn anffodus, dim ond os gallwch ddangos eich bod wedi cwblhau gradd yn y DU neu'r tu allan i'r DU y gallwch ymuno drwy'r Llwybr Ditectif hwn. Os nad oes gennych radd, beth am ystyried ein Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu (PCDA)?
Mae'r meini prawf cymhwysedd ychwanegol yr un peth ar gyfer holl swyddi swyddogion yr heddlu.
Os oes gen i anabledd, a allaf wneud cais o hyd?
Gallwch. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl ag anableddau. Gwneir addasiadau i'r prosesau dethol a/neu'r amgylchedd gwaith, cyn belled â'i bod yn rhesymol gwneud hynny ar bob achlysur.
Os ydych yn ystyried bod gennych anabledd, rhowch wybod i ni am y math o addasiadau rhesymol a allai eich helpu i gymryd rhan yn y broses recriwtio a dethol.
Gall ymgeiswyr â chyflwr sy'n ymwneud â niwroamrywiaeth, e.e. dyslecsia, wneud cais am addasiadau rhesymol yn ystod y broses asesu.
Rwyf eisoes wedi cyflwyno cais i ddod yn swyddog yr heddlu. A gaf i wneud dau gais?
Yn anffodus, na chewch. Bydd angen i chi ddewis pa lwybr sy'n apelio fwyaf atoch a gwneud cais am y llwybr hwnnw'n unig. Bydd ein system yn amlygu unrhyw geisiadau dyblyg a bydd yn arwain at ddileu eich ceisiadau o'r broses.
Anfonwch unrhyw ymholiadau pellach drwy e-bost i: [email protected]
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd a fydd ar gael gyda Heddlu De Cymru yn y dyfodol, rhowch eich manylion ar ein banc talent a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd gennym swyddi gwag sy'n gweddu eich sgiliau a'ch dewisiadau. COFRESTRWCH EICH DIDDORDEB