Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'n bleser mawr gan Heddlu De Cymru ymrwymo i Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog fel rhan o fenter y llywodraeth i hyrwyddo dealltwriaeth well rhwng y lluoedd arfog a'r cyhoedd.
Addewid gwirfoddol yw'r Cyfamod Cymunedol, sy'n annog elusennau, awdurdodau lleol, busnesau, cymunedau ac unigolion i gydweithio â'r lluoedd arfog er mwyn cynnig cymorth i aelodau o'r lluoedd arfog a'u teuluoedd, yn ogystal â milwyr wrth gefn a chyn-filwyr.
Datganiad gwirfoddol o gyd-gymorth rhwng cymuned sifilaidd a'i chymuned Lluoedd Arfog yn lleol yw Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Heddlu De Cymru. Cafodd ei lofnodi gan y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael ar ran pawb yn Heddlu De Cymru ym mis Mai 2022.
Caiff Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog ei wneud rhwng aelodau presennol a chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd, sy'n gweithio ac yn byw yn ardal ddaearyddol Heddlu De Cymru: mae hyn yn cynnwys cynghorau sir Abertawe, Bro Morgannwg, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Pwrpas y Cyfamod Cymunedol hwn yw annog cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog sy'n gweithio ac yn byw yn ardaloedd daearyddol Heddlu De Cymru er mwyn cydnabod a chofio'r aberth a wnaed gan aelodau'r gymuned hon. Mae hyn yn cynnwys aelodau presennol a chyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog, eu teuluoedd a'u gwŷr/gwragedd gweddw.
Cafodd y cyfamod cymunedol ei ddatblygu a'i ehangu i gynnig cymorth i staff a swyddogion presennol Heddlu De Cymru, ynghyd â chymorth recriwtio a dethol ar gyfer swyddi sydd ar gael yn Heddlu De Cymru i aelodau presennol neu gyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog.
Ein nod ar gyfer y sawl a gyflogir fel cyflogeion a swyddogion gan Heddlu De Cymru ar hyn o bryd, yw rhoi hyblygrwydd lle y bo modd wrth roi caniatâd i wŷr a gwragedd a phartneriaid aelodau o'r Lluoedd Arfog fod yn absennol cyn, yn ystod ac ar ôl adleoliad partner. Mae gan Heddlu De Cymru bolisi absenoldeb arbennig sy'n cefnogi hyn.
I'r sawl sydd am ymuno â Heddlu De Cymru, byddwn yn helpu gwŷr a gwragedd a phartneriaid aelodau o'r Lluoedd Arfog i gael cyflogaeth. Byddwn yn gwneud hyn fel a ganlyn:
O ran y rhai sy'n aelodau presennol neu'n gyn-aelodau o Luoedd Arfog y Goron, rydym wedi ymgysylltu â'r Bartneriaeth Newid Gyrfa (CTP) i recriwtio unigolion sy'n gadael y Lluoedd Arfog lle caiff yr holl swyddi gwag eu hysbysebu i gefnogi'r rhai sy'n gadael y Lluoedd Arfog a chyn-aelodau.
Byddwn yn gwarantu cyfweliad neu gyfle i fod yn rhan o'r Ganolfan Asesu, gan gefnogi pob aelod presennol neu gyn-aelod o Luoedd Arfog y Goron os yw'n bodloni'r meini prawf hanfodol gofynnol ar gyfer y rôl – mae hyn yn cynnwys cwblhau Holiadur Arddull Ymddygiadol a Phrawf Barnu Sefyllfa yn llwyddiannus, lle y bo'n berthnasol.
Mae'r warant hon yn amodol ar y canlynol:
Lawrlwythwch Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yma.