Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig ac ymroddedig sy'n rhannu ein gwerthoedd o fod yn falch, yn broffesiynol ac yn gadarnhaol ac sy'n ymrwymedig i'n gweledigaeth; i fod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau.
Gall gyrfa mewn plismona fod yn werth chweil i chi fel unigolyn ac i'r cymunedau y byddwch yn eu gwasanaethu. Mae'n gofyn am sgiliau, cyfrifoldeb, arweinyddiaeth, mentergarwch ac awydd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i gymdeithas.
Mae Heddlu De Cymru yn chwilio am bobl sy'n onest, yn wydn, yn agored, yn deg ac yn angerddol am wasanaethu eu cymunedau a chefnogi'r rhai sydd fwyaf agored i niwed i #YmunoÂNi a'n teulu plismona.
I wneud cais am rôl cwnstabl yr heddlu, bydd angen eich bod yn 18 oed neu'n hŷn (ar y diwrnod pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais).
Efallai y byddwch dal yn gymwys i ymuno â gwasanaeth yr heddlu os oes gennych fân euogfarnau/rhybuddiadau, ond mae rhai troseddau ac amodau a fydd yn golygu eich bod yn anghymwys. Mae'n RHAID i chi nodi pob euogfarn am droseddau blaenorol, rhybuddiadau ffurfiol (gan gynnwys rhybuddiadau a gafwyd fel person ifanc) ac unrhyw achos o rwymo i gadw'r heddwch a osodwyd gan y llysoedd. Dylech hefyd gynnwys pob euogfarn draffig. Oherwydd natur plismona, mae'n hanfodol ein bod yn fetio ymgeiswyr llwyddiannus yn drylwyr cyn y gallant ymuno â'r rhaglen.
Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, dinesydd y Gymanwlad neu'n wladolyn tramor heb gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y Deyrnas Unedig. Hefyd, rhaid eich bod wedi bod yn byw yn y DU am gyfnod di-dor am dair blynedd yn union cyn gwneud cais. Mae hyn er mwyn bodloni'r gofyniad i fetio pob ymgeisydd mewn modd teg ac nid oes gan wasanaeth Heddlu'r DU ar hyn o bryd unrhyw ffordd o hwyluso profion fetio dramor i'r un graddau sy'n angenrheidiol ar gyfer y rheini sydd wedi bod yn byw yn y DU. Ni allwn benodi ymgeiswyr nad ydynt wedi cael eu fetio.
Bydd statws ariannol pob ymgeisydd yn cael ei archwilio. Cynhelir yr archwiliadau hyn oherwydd bydd gan heddwas fynediad i wybodaeth freintiedig a all eu gwneud yn agored i lygredd. Gwrthodir unrhyw ymgeiswyr y mae ganddynt ddyfarniadau Llys Sirol cyfredol yn eu herbyn, neu sydd wedi'u cofrestru'n fethdalwyr â dyledion heb eu talu. Os bydd gennych ddyledion methdalu sydd wedi'u gollwng, yna bydd angen i chi ddarparu Tystysgrif Boddhad gyda'ch cais. Ni chaiff ymgeiswyr sy'n destun Trefniant Gwirfoddol Unigol (IVA) cyfredol eu hystyried.
Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr fod yn iach yn feddyliol ac yn gorfforol er mwyn delio â phwysau a gofynion gwaith y rôl. Cyn iddynt gael eu penodi, gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus sy'n cael cynnig swydd amodol lenwi holiadur meddygol a chael archwiliad meddygol, a fydd hefyd yn cynnwys prawf golwg a mesur màs y corff (BMI). Yn ôl cylchlythyr 59/2004 presennol y Swyddfa Gartref mae hyn rhwng 18 a 30. Efallai y caiff cais ymgeiswyr nad ydynt yn cyrraedd y safon hon ei ohirio a / neu na chânt eu penodi.
Ni ystyrir bod ymgeiswyr i fod yn Swyddogion yr Heddlu, y mae eu BMI dros 32, yn ffit, oni bai bod canran y braster yn eu corff yn llai na 30% ar gyfer dynion neu 36% ar gyfer menywod.
Os oes gennych anabledd, byddwn yn gwneud addasiadau lle y bo'n rhesymol i ni wneud hynny.
Mae'n rhaid i chi fod yn ffit yn gorfforol er mwyn ymgymryd â dyletswyddau heddwas yn llwyddiannus. Mae'n rhaid i bob ymgeisydd basio prawf ffitrwydd cyn cael ei benodi. Ar gyfer y prawf dygnwch, gofynnir i chi redeg yn ôl ac ymlaen ar drac 15 metr gan gadw amser â chyfres o synau bipian, bydd y synau bipian yn mynd yn gyflymach hyd at lefel 5.4 wrth i'r prawf fynd yn ei flaen.
Bydd gofyn i chi fynychu prawf ffitrwydd cyn penodi hefyd, tua 6 wythnos cyn y dyddiad penodi disgwyliedig, a bydd yn rhaid i chi basio hwn er mwyn i'ch cais symud yn ei flaen.
Mae gan Heddlu De Cymru bolisi o wahardd unrhyw un o'n swyddogion rhag bod yn aelodau o Blaid Genedlaethol Prydain, neu sefydliad tebyg y gall ei nodau, ei amcanion neu ei ddatganiadau fod yn groes i'r dyletswyddau i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Os ydych yn aelod o Blaid Genedlaethol Prydain neu wedi bod yn rhan ohoni yn flaenorol, mae'n bosibl y caiff eich cais ei wrthod.
Bydd ymgeiswyr â thatŵau gweladwy yn gymwys i gael eu penodi o bosibl.
Caiff pob achos ei ystyried yn unigol, gan ystyried nifer, natur, maint, amlygrwydd, ymddangosiad a lleoliad y tatŵau. Ni ddylai'r tatŵau fod yn dramgwyddus i gydweithwyr nac aelodau o'r cyhoedd nac ychwaith danseilio urddas eich rôl yn yr Heddlu. Caiff tatŵau ar y gwddf, yr wyneb neu'r dwylo eu hystyried yn annerbyniol o hyd, ond mae'n bosibl y rhoddir ystyriaeth o dan rai amgylchiadau, o ystyried maint, natur, ac amlygrwydd y tatŵ. Os bydd ymgeiswyr yn dewis cael unrhyw datŵau ychwanegol yn ystod y broses recriwtio, ar ôl cwblhau'r gwiriadau cymhwysedd, yna mae ganddynt gyfrifoldeb i roi gwybod i'r Adran Adnoddau Dynol a rhoi ffotograffau addas y bydd angen eu harchwilio.
Mae gan Heddlu De Cymru bedwar llwybr mynediad ar gyfer Swyddogion yr Heddlu.
Cymwysterau gofynnol: Dim
Rhaglen addysg uwch tair blynedd o hyd sy'n seiliedig ar ymarfer yw'r PCDA, gan arwain at Radd Anrhydedd BSc mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. Bydd yn dwyn ynghyd ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a dysgu ymarferol a hyfforddiant a phrofiad yn y swydd.
Bydd y rheini sy'n llwyddiannus yn rhaglen mynediad PCDA yn gwbl gymwysedig a chânt eu cadarnhau'n Swyddogion yr Heddlu ar ôl tair blynedd.
Nid oes terfyn is o ran cymwysterau gofynnol ar gyfer ymuno drwy'r PCDA. Os oes gennych gymhwyster lefel 3, gellir ei lanlwytho pan fyddwch yn gwneud cais fel eich gofyniad addysgol ar gyfer y llwybr hwn. Gellir lawrlwytho enghreifftiau o gymwysterau lefel 3 o waelod y dudalen hon.
Os nad oes gennych gymhwyster lefel 3, gofynnir i chi gwblhau asesiad cymhwysedd Saesneg a Mathemateg ar-lein. Os byddwch yn cwblhau'r asesiad ar-lein hwn yn llwyddiannus, dyma fydd eich gofyniad addysgol i gymhwyso ar gyfer y llwybr hwn.
Os byddwch yn llwyddiannus, bydd angen i chi ymgymryd â nifer o asesiadau ac aseiniadau yn ystod eich Prentisiaeth. Mae angen i brentisiaid sy'n cael eu penodi feddu ar TGAU Gradd A-C mewn Mathemateg a Saesneg, neu gymhwyster cyfatebol Lefel 2. Fel arall, bydd angen iddynt gwblhau'r cymhwyster Sgiliau Hanfodol yn ystod eu hyfforddiant er mwyn bodloni gofyniad y Cynllun Prentisiaeth.
Ar ôl i chi gael eich penodi, byddwch yn cychwyn ar raglen ddysgu gychwynnol 6 mis yng ngwasanaethau Dysgu a Datblygu Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Byddwch yn cael cyfnod tiwtora 12 wythnos yn y gymuned hefyd, lle y disgwylir i chi sicrhau statws patrôl annibynnol.
Ar gyfer gweddill y cyfnod prawf, byddwch yn cyflawni dyletswyddau gweithredol yn y gweithle, gan gasglu tystiolaeth o gymhwysedd galwedigaethol.
Yn ogystal, bydd gofyn i chi gyflawni ein helfennau academaidd a osodir ar eich cyfer gan brifysgol bartner. Ar ôl cwblhau'r elfennau ymarferol ac academaidd, cadarnheir eich rheng.
Caiff amser astudio gwarchodedig ei neilltuo i gefnogi eich datblygiad proffesiynol, fodd bynnag, mae'n debygol y bydd angen rhywfaint o astudio preifat y tu allan i oriau gwaith hefyd.
Cymwysterau gofynnol: Lefel Gradd. Gofynnir am raddau lefel Trydydd Dosbarth ac uwch a gallant fod mewn unrhyw bwnc.
Mae'r DHEP yn rhaglen sy'n para am ddwy flynedd, gan gyfuno cyfleoedd dysgu ymarferol a chymhwysedd gweithredol mewn swydd â dysgu academaidd. Ar ôl cwblhau'r rhaglen, bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn ennill Diploma mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. Bydd yr heddlu'n talu'r holl ffioedd cwrs sy'n gysylltiedig â'r llwybr mynediad hwn.
Bydd y rheini sy'n llwyddiannus yn rhaglen mynediad DHEP yn gwbl gymwysedig a chânt eu cadarnhau'n Swyddogion yr Heddlu ar ôl dwy flynedd.
Ar ôl cael eich penodi, byddwch yn dilyn rhaglen ddysgu gychwynnol 6 mis o hyd yng Ngwasanaethau Dysgu a Datblygu Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Byddwch yn cwblhau cyfnod tiwtora o 12 wythnos yn y gymuned, lle disgwylir i chi gyflawni statws patrolio annibynnol. Am weddill y cyfnod prawf, byddwch yn cyflawni dyletswyddau gweithredol yn y gweithle yn casglu tystiolaeth o gymhwysedd galwedigaethol. Hefyd, bydd yn ofynnol i chi gyflawni ein helfennau academaidd a gaiff eu rhoi i chi gan brifysgol bartner.
Bydd Heddlu De Cymru yn dechrau llwybr newydd cyffrous er mwyn i bobl ddod yn swyddogion yr heddlu yn 2021 Mae gyrfa plismona yn gofyn am sgiliau, cyfrifoldeb, arweinyddiaeth, mentergarwch ac awydd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i gymdeithas. Mae'r radd cyn ymuno yn radd broffesiynol, academaidd sy'n seiliedig ar wybodaeth, gyda chwricwlwm sydd wedi'i ddylunio i ymdrin â phob agwedd ar rôl cwnstabl yr heddlu a'ch helpu i fodloni'r her honno.
Os ydych yn eich blwyddyn olaf ar hyn o bryd neu os ydych wedi cwblhau'r radd Cyn Ymuno mewn Plismona Proffesiynol – Heddlu De Cymru yw'r heddlu delfrydol i chi ddechrau eich gyrfa fel Swyddog yr Heddlu.
Mae'r radd cyn ymuno yn gwrs amser llawn tair blynedd a ariennir gan y myfyriwr ei hun fel unrhyw radd arall, a dim ond sefydliadau sydd wedi'u trwyddedu gan y Coleg Plismona a all ei chynnig. Nod y radd yw meithrin gwybodaeth a sgiliau proffesiynol ar lefel uwch mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd cymhleth a heriol, fel sy'n ofynnol ar gyfer plismona rheng flaen.
I weld rhestr lawn o'r sefydliadau sydd wedi'u trwyddedu ar hyn o bryd, rydym wedi darparu dolen i wefan y Coleg Plismona am fod y rhestr yn cael ei diweddaru’n barhaus.
Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais drwy'r llwybr hwn, mae'n rhaid i ymgeiswyr ennill eu gradd cyn gwneud cas i ymuno â gwasanaeth yr heddlu. Neu, rhaid iddynt fod ym mlwyddyn olaf eu gradd ar adeg y cais ac ennill eu gradd cyn cael eu penodi. Bydd ymgeiwyr llwyddiannus yn cael budd o raglen hyfforddiant mewn swydd fyrrach. D.S. Os hoffech ddilyn y llwybr hwn i mewn i Heddlu De Cymru, rhaid i chi wneud cais i ymuno o fewn pum mlynedd i raddio.
Rhaid bodloni'r gofynion cymhwysedd lleol a chenedlaethol o hyd; nid yw ennill y radd yn gwarantu y bydd eich cais yn llwyddiannus. Cynghorir darpar ymgeiswyr i gadarnhau'r gofynion cymhwysedd cyn cychwyn ar eu gradd.
Ar ôl i chi ymuno â Heddlu De Cymru, byddwch yn dechrau ar gyfnod prawf dwy flynedd ac, yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn ymgymryd â dysgu sy'n seiliedig ar ymarfer ac asesiadau pellach er mwyn dangos eich bod yn gymwys ar gyfer y rôl.
Beth mae'r hyfforddiant yn ei gynnwys?
Byddwch yn dilyn rhaglen hyfforddiant dwy flynedd, ac yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn cwblhau hyfforddiant gorfodol fel diogelwch personol a hyfforddiant cymorth cyntaf. Byddwch yn treulio hyd at 10-15 wythnos yn ymgymryd â dysgu cychwynnol yr Heddlu cyn cael lleoliad plismona ymateb lle bydd yn ofynnol i chi gyflawni statws patrolio annibynnol ac ennill cymhwysedd galwedigaethol.
A allaf ddefnyddio graddau a ragwelir yn fy nghais?
Ni chaiff graddau a ragwelir eu derbyn. Bydd angen atodi'r ardystiad angenrheidiol cyn y gallwch gyflwyno cais.
Beth os na allaf ddod o hyd i'm tystysgrifau addysgol?
Dylech gysylltu â'ch darparwyr addysg i weld a allant roi copi o'ch tystysgrifau i chi. Os na allwch gael gafael ar y rhain, bydd angen i chi wneud cais ar y lefel y mae gennych ddogfennaeth ar ei chyfer. Er enghraifft, os oes gennych radd ond nad oes gennych unrhyw fodd o brofi hyn, ond bod gennych eich tystysgrifau Lefel 3, bydd angen i chi wneud cais drwy'r llwybr hwn.
Beth os wyf am wneud cais ond nad oes gennyf unrhyw gymwysterau?
Gallwch wneud cais drwy'r llwybr mynediad PCDA.
Beth os cefais fy Ngradd y tu allan i'r DU?
Os cawsoch eich gradd y tu allan i'r DU, rhaid i chi gael cadarnhad gan Sefydliad Addysg Uwch yn y DU i brofi bod eich cymhwyster yn cael ei gydnabod ar lefel Gradd.
Os wyf wrthi'n astudio ar gwrs gradd, a allaf wneud cais ar gyfer y DHEP?
Os nad ydych wedi cwblhau eich gradd eto, ond yr hoffech wneud cais o hyd, dylech wneud hynny drwy lwybr mynediad PCDA. Fodd bynnag, os byddwch yn llwyddiannus, ni fyddwch yn gallu cwblhau eich cymhwyster gradd presennol ac ni fyddwch yn gallu gohirio eich cais i ddyddiad diweddarach.
Gwybodaeth am gyflog, buddiannau a gwobrau i Swyddogion yr Heddlu
Our Recruitment Process | Ein proses Recriwtio
Gallwch gwblhau'r ymarferion ar unrhyw declyn sydd â'r rhyngrwyd gyda chamera (gliniadur, llechen neu ffôn), ond er mwyn sicrhau cydnawsedd llawn gyda'r llwyfan ar-lein, dylai'r canlynol gael ei osod:
Byddai’n ddoeth cwblhau’r broses ymgeisio gyfan ar yr un ddyfais gan y bydd y cyfeiriadau IP yn gwrthdaro os ydych chi’n penderfynu newid dyfeisiau ar ôl i chi ddechrau a gallai hyn eich atal rhag parhau â’ch cais. Felly, fe’ch cynghorir i beidio â chwblhau eich cais yn y gwaith.
Fe’ch cynghorir i beidio â defnyddio dyfeisiau symudol, megis llechi neu ffonau symudol, gan nad ydynt yn gydnaws â’r profion ar-lein y mae’n rhaid eu cwblhau. Gallwn ond ailosod profion unwaith i bob ymgeisydd.
Cynghorir ymgeiswyr hefyd i gadw llygad ar eu blwch post “sothach” am negeseuon e-bost yn rhoi’r newyddion diweddaraf gan y system.
Y cam cyntaf fydd proses ymgeisio ar-lein sy’n cynnwys rhywfaint o gwestiynau sylfaenol. Os byddwch chi'n pasio'r cam hwn bydd gofyn i chi gwblhau sawl prawf ar-lein a ffurflen gais. Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau dau brawf (ni waeth beth fo’i gymwysterau), sef Prawf Barnu Sefyllfa a Holiadur Ymddygiad. Mae’n rhaid llwyddo yn y ddau ohonynt er mwyn parhau â’r broses ymgeisio.
Mae Holiadur Arddulliau Ymddygiad yr Heddlu yn mesur eich ymddygiad a'ch dewisiadau arferol yn y gwaith. Diben yr holiadur yw asesu a oes gennych yr ymddygiadau a'r agweddau cywir i fod yn effeithiol yn eich swydd. Mae'r holiadur yn eich gwahodd i adolygu nifer o ddatganiadau a nodi pa ddatganiadau rydych yn cytuno'n llwyr/anghytuno'n llwyr â nhw ar raddfa symudol.
Yn yr holiadur, cyflwynir y datganiadau hyn am eich ymddygiad arferol yn y gwaith mewn blociau o bedwar. Bydd angen i chi ddarllen pob datganiad yn ofalus ac yna benderfynu i ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r datganiad gan ddefnyddio'r raddfa isod.
Yn dibynnu ar eich ymatebion, mae'n bosibl hefyd y gofynnir i chi raddio datganiadau penodol o ran pa mor dda y maent yn disgrifio eich ymddygiad arferol yn y gwaith. Nid oes cyfyngiad amser, ond dylai gymryd tua 15-20 munud i gwblhau'r holiadur. Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol arnoch i gwblhau'r prawf.
Mae Prawf Barn Sefyllfaol yr Heddlu yn asesu eich sgiliau i lunio barn a gwneud penderfyniadau mewn perthynas â sefyllfaoedd sy'n ymwneud â'r swydd. Yn y prawf, cyflwynir cyfres o senarios i chi a fydd yn adlewyrchu sefyllfaoedd heriol y gallech eu hwynebu wrth weithio fel Heddwas. Cyflwynir pedwar cam posibl ar gyfer pob senario i chi. Gofynnir i chi raddio pob un o'r pedwar cam o ran ei heffeithiolrwydd i fynd i'r afael â'r senario. Dangosir y raddfa y dylid ei
defnyddio i raddio'r camau isod.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol arnoch i gwblhau'r prawf. Dylai eich ymatebion fod yn gwbl seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynir ym mhob senario.
Bydd gofyn i chi lanlwytho ac atodi eich Tystysgrif Gradd neu Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol cyn i chi gyflwyno'ch cais. Os nad oes gennych chi gopi o hwn, bydd angen i chi gael gafael ar un gan y sefydliad addysgol priodol.
Os cyflawnwyd eich Gradd (neu'ch cymhwyster Lefel 3) y tu allan i'r DU, rhaid i chi sicrhau cadarnhad gan Sefydliad Addysg Uwch yn y DU fel tystiolaeth y caiff eich cymhwyster ei gydnabod fel un o safon Gradd (neu safon lefel 3).
Os nad oes gennych gymhwyster Lefel 3 neu uwch, mae’n rhaid i chi hefyd lwyddo mewn prawf rhesymu a chyfrifo mathemateg llafar. Bydd hyn yn profi eich gallu academaidd hyd at Lefel 3. Os byddwch yn llwyddo yn y profion uchod, ond yn methu mewn rhan arall o’r broses recriwtio, ni fydd yn ofynnol i chi ailsefyll y profion hyn eto os byddwch am wneud cais eto ymhen chwe mis.
Asesiad SEARCH ar gyfer Swyddogion Heddlu – gohiriwyd y rhain i gyd ac mae'r Coleg Plismona wedi dylunio dewis ar-lein amgen ac yn ei beilota ar hyn o bryd. Dylai hwn fod ar gael i'w gyflwyno i Heddluoedd cyn bo hir.
Gallwch wneud cais i drosglwyddo eich sgôr gan y Ganolfan Asesu, ond dim ond pan fyddwn yn hysbysebu ymgyrch recriwtio.
Fel rhan o’r broses recriwtio genedlaethol, mae Heddlu De Cymru yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy’n cael marc llwyddo cyffredinol o 50% ym mhob maes cymhwysedd yn y broses asesu genedlaethol (SEARCH). Noder pan fyddwch yn gwneud cais i drosglwyddo eich sgôr, y bydd yn ofynnol i chi gwblhau a chyflwyno ffurflen gais o hyd, a chwblhau unrhyw adrannau eraill o’r broses recriwtio y cewch eich cyfeirio atynt. (Ni fyddwch yn cael cadarnhad o ran p’un a yw eich sgôr o’r Ganolfan Asesu wedi cael ei derbyn ai peidio nes bod yr ymgyrch wedi cau).
Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar y cymwyseddau a'r gwerthoedd sydd wedi'u cynnwys yn y proffil rôl a oedd yn gysylltiedig â'r hysbyseb, ac sydd hefyd yn bwysig i Heddlu De Cymru.
Defnyddiwch enghreifftiau o'ch bywyd gwaith, cymdeithasol, cartref neu addysgol i ateb y cwestiynau cyfweliad. Yn yr enghreifftiau hyn rydym yn chwilio am dystiolaeth benodol o ymddygiadau cymhwysedd sy'n gweddu i werthoedd ein sefydliad.
Byddwch yn benodol: rydym am wybod yr hyn y gwnaethoch CHI ei ddweud neu ei wneud ar adeg benodol i ymdrin â'r sefyllfa. Felly, mae'n bwysig bod yr enghreifftiau rydych yn eu rhoi yn sôn am eich profiadau chi ac mor fanwl â phosibl.
Weithiau, bydd plismona yn rôl sy'n gofyn llawer yn gorfforol, felly bydd angen i chi fod mewn cyflwr corfforol da i basio'r prawf ffitrwydd. Bydd y prawf yn mesur a yw lefel eich ffitrwydd yn ddigon da.
Ar gyfer y prawf gwydnwch, gofynnir i chi redeg yn ôl ac ymlaen ar hyd trac 15 metr yn unol â chyfres o synau blipio. Wrth i'r prawf fynd yn ei flaen, bydd y blipiau yn cyflymu i lefel 5.4.
Bydd gofyn i chi fynychu prawf ffitrwydd cyn penodi hefyd, cyn y dyddiad penodi disgwyliedig, a bydd yn rhaid i chi basio hwn er mwyn i'ch cais symud yn ei flaen.
O ganlyniad i natur gwaith plismona, mae ffitrwydd ac iechyd da yn hollbwysig. Fodd bynnag, croesawir ceisiadau gan bobl sydd ag anableddau a gwneir pob ymdrech i wneud addasiadau rhesymol yn ôl y gofyn.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam cyfweld, byddwch yn cael archwiliad meddygol.
Ceir anhwylderau a chyflyrau meddygol penodol y gallent gael effaith niweidiol ar eich gallu i gyflawni'r rôl mewn ffordd effeithiol; ystyrir pob achos yn ofalus fel rhan o'r broses feddygol.
Asesir ystod eich pwysau yn ystod eich asesiad meddygol. Mae'r ystod pwysau iach yn seiliedig ar fesur a elwir eich mynegai màs y corff (BMI). Gellir darganfod hwn os ydych yn gwybod eich pwysau a'ch taldra. Y cyfrifiad yw eich pwysau (mewn cilogramau) wedi'i rannu gyda'ch taldra (mewn metrau sgwâr). Gellir gweld canllawiau a siartiau hawdd i'w defnyddio ynghylch sut i gyfrifo'ch BMI ar wefan GIG.
Mae GIG yn cynghori bod BMI o 18.5 i 24.9 yn awgrymu pwysau iach normal. Mae hyn yn golygu nad yw eich corf mewn perygl o ddioddef clefyd sy'n gysylltiedig â'ch pwysau.
Pennir safonau BMI ar gyfer swyddogion yr heddlu gan y Swyddfa Gartref. Mae cylchlythyr 59/2004 cyfredol y Swyddfa Gartref yn amlinellu bod hwn rhwng 18 a 30. Efallai y caiff cais ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r safon hwn ei oedi a / neu ni fyddant yn cael eu penodi.
Ni ystyrir bod ymgeiswyr i fod yn Swyddogion yr Heddlu, y mae eu BMI dros 32, yn ffit, oni bai bod canran y braster yn eu corff yn llai na 30% ar gyfer dynion neu 36% ar gyfer menywod.
Nodir pwysigrwydd gonestrwydd ac uniondeb yn glir trwy gydol ein proses ymgeisio. Mae swyddogion yn destun y Safonau Ymddygiad Proffesiynol, sy'n nodi mewn ffordd glir yr hyn y gall cymunedau ei ddisgwyl gan eu swyddogion.
Mae angen geirdaon i gwmpasu o leiaf 3 blynedd o hanes cyflogaeth barhaus. Os nad ydych wedi bod mewn cyflogaeth ers 3 blynedd byddwn yn ceisio cael geirdaon o fyd addysg a gan bobl sy’n eich adnabod yn bersonol.
Gofynnir i chi gael prawf cyffuriau a darparu gwybodaeth am unrhyw feddyginiaeth yr ydych yn ei chymryd hefyd. Cyflwynwyd deddfwriaeth sy'n mynnu bod ymgeiswyr yn dilyn proses fetio biometrig.
Os byddwch yn methu'r prawf cyffuriau, ni chynigir swydd i chi gyda Heddlu De Cymru. Tynnir yn ôl y cynnig a roddwyd i ymgeiswyr mewnol sy'n methu prawf cyffuriau a gellir defnyddio'r canlyniadau o'r prawf cyffuriau yn unol â Pholisi Disgyblu Staff Heddlu De Cymru a Chod Ymddygiad Staff yr Heddlu.
Ar y dydd, byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen caniatâd er mwyn casglu eich olion bysedd a sampl o'ch DNA at ddibenion archwiliad tybiannol a bod eich olion bysedd a'ch proffil DNA yn cael eu cadw yng Nghronfa Ddata Diddymu yr Heddlu (PEDb).
Diben sicrhau olion bysedd a samplau DNA yw er mwyn gallu cynnal archwiliad tybiannol yn erbyn y cronfeydd lleol a chenedlaethol cyn i chi gael eich penodi i'r heddlu. Diben hyn yw sicrhau nad ydych wedi bod yn destun sylw niweidiol yr heddlu yn flaenorol, nad ydych wedi ein hysbysu ohono, a hefyd, nad oes unrhyw gyswllt rhyngoch chi ac unrhyw safleoedd trosedd heb eu datrys.
Bydd chwe mis cyntaf hyfforddiant yr heddlu mewn ystafell ddosbarth. Bydd hyfforddwyr swyddogion yr heddlu a staff yr heddlu yn darparu'r cwrs mewn sefydliad hyfforddi'r heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cwrs di-breswyl yw hwn a gynlluniwyd i helpu i fanteisio i'r eithaf ar botensial dysgu yn academaidd ac yn ymarferol, gan ddechrau datblygu sgiliau plismona gweithredol. Mae'r maes llafur yn y dosbarth yn seiliedig ar y cwricwlwm a ddatblygwyd gan y Coleg Plismona, sy'n cynnwys yr holl feysydd sy'n ofynnol ar gyfer rôl Cwnstabl yr Heddlu. Cynhelir pecynnau E-ddysgu amrywiol hefyd, law yn llaw â hyfforddiant ffitrwydd, cymorth cyntaf a diogelwch personol.
Ar adegau amrywiol yn ystod y cwrs, bydd angen i gwnstabliaid fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth trwy gyfrwng prosesau asesu anffurfiol a ffurfiol. Bydd hyn yn cynnwys arholiadau aml-ddewis, aseiniadau ac asesiadau ymarferol. Disgwylir i gwnstabliaid ddangos yr ymddygiad a'r agwedd briodol bob amser yn ystod eu hyfforddiant, yn unol â Chod Moeseg y gwasanaeth heddlu.
Ar ôl cwblhau blwyddyn un yn llwyddiannus, bydd swyddogion yn cychwyn ar gyfnod tiwtora mewn gorsaf heddlu weithredol gyda thiwtor cymwys. Bydd cwblhau cam y tiwtor yn llwyddiannus yn caniatáu i'r cwnstabliaid fyfyrwyr gael eu gosod ar batrôl annibynnol.
Yn ystod blynyddoedd dau a thri, wrth weithio mewn amgylchedd gweithredol, bydd cwnstabliaid fyfyrwyr ar y brentisiaeth yn gweithio tuag at sicrhau gradd mewn Arfer Plismona Proffesiynol a bydd cwnstabliaid fyfyrwyr sy'n dal Gradd yn gweithio tuag at gyflawni Tystysgrif Graddedig mewn Plismona Proffesiynol.
Bydd gofyn i'r rhai a gaiff eu recriwtio o'r ddwy raglen gwblhau portffolio cymhwysedd galwedigaethol yn ystod eu cyfnod prawf, a bydd gofyn iddynt gwblhau lefel o astudio preifat, y tu allan i oriau gwaith.
Byddwch yn ymwybodol ar eich penodiad ac yn ystod eich gwasanaeth y gallech gael eich anfon i unrhyw leoliad yn Ne Cymru yn seiliedig ar angen gweithredol. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol hefyd er y byddant yn gymwys i gael rhywfaint o amser astudio wedi’i neilltuo yn y gweithle i gefnogi eu datblygiad proffesiynol, mae hefyd yn debygol y bydd angen i rai myfyrwyr astudio’n breifat y tu allan i oriau gwaith.Amcangyfrifir y bydd unrhyw ddysgwr ar raglen gradd neu raglen diploma i raddedigion yn cwblhau 5 awr o astudio preifat yr wythnos ar gyfartaledd, er y bydd hyn yn dibynnu’n fawr iawn ar y myfyriwr. Mae’n ofynnol i bob dysgwr gwblhau’r cymhwyster gofynnol yn llwyddiannus. Noder y bydd “amser astudio wedi’i neilltuo” yn amodol ar anghenion y sefydliad.
Ble fyddaf yn astudio?
Cyflawnir yr holl ddarpariaeth wyneb yn wyneb ar safle yr heddlu yn ardal Heddlu De Cymru. Cyflawnir gwaith hunan-astudio a dysgu ar-lein o bell.
A fyddaf yn cael costau teithio neu gynhaliaeth yn ystod yr hyfforddiant?
Na fyddwch – chi fydd yn gyfrifol am dalu unrhyw gostau teithio a fydd yn codi.
A fydd yn rhaid i mi dalu am unrhyw ddeunyddiau cwrs y bydd engen i mi eu prynu?
Llyfrau ac ati. Bydd Heddlu De Cymru a'r Brifysgol bartner yn rhoi deunyddiau dysgu i fyfyrwyr heb yr angen i dalu unrhyw gost.
A ganiateir gwyliau blynyddol yn ystod y cyfnod hyfforddi?
Mae ein cyrsiau PCDA a DHEP newydd cyffrous, a'r gyfundrefn academaidd y tu ôl iddynt, yn golygu y caiff gwyliau blynyddol ei gyfyngu yn ystod 6 mis cyntaf eich cyfnod prawf.
Os ydych chi wedi trefnu gwyliau neu os na fyddwch yn gallu mynychu hyfforddiant am unrhyw reswm ar ddiwrnodau y tu allan i gyfnodau gwyliau a bennwyd ymlaen llaw, dylech fod yn ymwybodol o'r ffaith ei bod yn debygol iawn na fyddwch yn gallu ymuno. Ni ellir caniatáu cyfnodau estynedig o wyliau blynyddol yn ystod y cyfnod hwn.
Ar ôl i chi gael eich penodi, byddwch yn cael 3 wythnos ddynodedig i ffwrdd yn ystod eich 6 mis o hyfforddiant cychwynnol. Yn anffodus, oherwydd gofynion y llu sy'n newid yn gyson, ni allwn ddarparu dyddiadau gwyliau/derbyn ymlaen llaw.
A fyddaf yn cael amser i gwblhau elfennau academaidd y cymhwyster?
Byddwch. Mae'r Llu a HEI wedi cyfrifo'r amser y bydd ei angen arnoch er mwyn cwblhau holl elfennau'r cymhwyster, a chaiff hyn ei ystyried wrth lunio amserlen eich patrwm sifftiau.
Anfonwch unrhyw ymholiadau pellach drwy e-bost i: [email protected]