Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i ddarparu llwybrau mynediad gwahanol yn ein hadrannau Staff yr Heddlu a Swyddogion mewn Lifrai i bobl sy'n awyddus i ddechrau gyrfa ym maes plismona.
Yn ogystal â Phrentisiaethau, Interniaethau a rhaglenni i Raddedigion a gynigir gan adrannau, ceir cyfleoedd hefyd i gael mynediad uniongyrchol i'r heddlu.
Llwybr Mynediad |
Cymwysterau Gofynnol ar gyfer mynediad |
Cymhwyster y byddwch yn gweithio tuag ato |
Hyd y rhaglen |
Rhagor o wybodaeth |
Prentisiaeth | Cymhwyster Lefel 3 mewn unrhyw bwnc* | Gradd mewn Plismona Proffesiynol | 3 blynedd | Cliciwch yma am ragor o wybodaeth |
Graddedigion – Swyddog Heddlu | Cymhwyster Lefel 6 (Gradd) mewn unrhyw bwnc** | Diploma mewn Plismona Proffesiynol | 2 flynedd | Cliciwch yma am ragor o wybodaeth |
Graddedigion - Ditectif | Cymhwyster Lefel 6 (Gradd) mewn unrhyw bwnc** | Diploma mewn Plismona proffesiynol a chymhwyster NIE | 2 flynedd | Cliciwch yma am ragor o wybodaeth |
* Os nad oes gennych gymhwyster lefel 3, gallwch wneud cais o hyd ar gyfer y rôl hon, ond bydd angen i chi gwblhau Prawf Rhesymu Llafar a Chyfrifo fel rhan o'ch cais.
** Ar hyn o bryd, yr unig radd sy'n eich gwahardd rhag dilyn un o'r llwybrau hyn yw Gradd Plismona Proffesiynol. Y rheswm dros hyn yw bod cynnwys y cwrs hyfforddi yn wahanol – gall y rhai sy'n meddu ar y radd hon wneud cais yn uniongyrchol i'r rhaglen Cyn Ymuno (Llwybr Gradd Plismona Proffesiynol) pan fydd ar agor.
Llwybr Mynediad |
Cymwysterau Gofynnol ar gyfer mynediad |
Cymhwyster y byddwch yn gweithio tuag ato |
Hyd y rhaglen |
Rhagor o wybodaeth |
Rhaglen Brentisiaeth | 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg | BTEC Lefel 3 (bydd y pwnc yn ddibynnol ar y rôl) | 12-18 mis | Cliciwch yma am ragor o wybodaeth |
Rhaglen Interniaeth | Mae'n rhaid eich bod yn dilyn cwrs gradd ar hyn o bryd neu'ch bod wedi graddio o fewn tair blynedd* | - | 12 mis | Cliciwch yma am ragor o wybodaeth |
Rhaglen i Raddedigion | Mae'n rhaid eich bod yn dilyn cwrs gradd ar hyn o bryd neu'ch bod wedi graddio o fewn tair blynedd** | Cyrsiau hyfforddiant proffesiynol sy'n benodol i'r adran | 18-24 mis | Cliciwch yma am ragor o wybodaeth |
* Gallwch wneud cais ar gyfer rhaglen Interniaeth Heddlu De Cymru yn ystod eich ail flwyddyn i'w chwblhau rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn astudio.
** Gallwch wneud cais ar gyfer rhaglen i Raddedigion Heddlu De Cymru yn ystod eich trydedd flwyddyn i'w chwblhau ar ôl graddio.
Nid oes rhaid i chi ymuno ag un o'n cynlluniau uchod i ymuno â Gwasanaeth yr Heddlu. Gallwch ddefnyddio'r llwybr ‘Mynediad Uniongyrchol’ drwy wneud cais ar gyfer swyddi gwag presennol. Mae gennym amrywiaeth eang o swyddi gwag sy'n addas ar gyfer pob lefel mynediad. Gallwch weld ein bwrdd swyddi presennol yma.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd a fydd ar gael gyda Heddlu De Cymru yn y dyfodol, rhowch eich manylion ar ein banc talent a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd gennym swyddi gwag sy'n gweddu eich sgiliau a'ch dewisiadau. COFRESTRWCH EICH DIDDORDEB