Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'n rhaid eich bod ennill cymhwyster Lefel 3 i fod yn gymwys i fod yn Swyddog yr Heddlu drwy ein Llwybr PCDA. Os nad oes gennych gymhwyster Lefel 3 yn barod, gallwn eich helpu drwy ein hasesiadau o gymhwysedd yn Saesneg a Mathemateg ar-lein a fydd yn darparu'r hyn sydd ei angen arnoch ac yn rhoi mynediad i'r ffurflen gais.
Os oes gennych gymhwyster Lefel 3 yn barod, gallwch ei lanlwytho wrth gyflwyno'ch cais. Gellir lawrlwytho enghreifftiau o gymwysterau lefel 3 o waelod y dudalen hon.
Bydd y rhai sy'n llwyddiannus yn rhaglen mynediad PCDA yn gwbl gymwysedig a chânt eu cadarnhau'n Swyddogion yr Heddlu ar ôl tair blynedd.
Bydd angen i chi ystyried meini prawf cymhwystra llawn Heddlu De Cymru ar gyfer Swyddogion yr Heddlu wrth wneud cais drwy'r llwybr hwn. Maent ar gael yn y gwymplen isod.
I wneud cais am rôl cwnstabl yr heddlu, bydd angen eich bod yn 18 oed neu'n hŷn (ar y diwrnod pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais).
Efallai y byddwch dal yn gymwys i ymuno â gwasanaeth yr heddlu os oes gennych fân euogfarnau/rhybuddiadau, ond mae rhai troseddau ac amodau a fydd yn golygu eich bod yn anghymwys. Mae'n RHAID i chi nodi pob euogfarn am droseddau blaenorol, rhybuddiadau ffurfiol (gan gynnwys rhybuddiadau a gafwyd fel person ifanc) ac unrhyw achos o rwymo i gadw'r heddwch a osodwyd gan y llysoedd. Dylech hefyd gynnwys pob euogfarn draffig. Oherwydd natur plismona, mae'n hanfodol ein bod yn fetio ymgeiswyr llwyddiannus yn drylwyr cyn y gallant ymuno â'r rhaglen.
Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, dinesydd y Gymanwlad neu'n wladolyn tramor heb gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y Deyrnas Unedig. Hefyd, rhaid eich bod wedi bod yn byw yn y DU am gyfnod di-dor am dair blynedd yn union cyn gwneud cais. Mae hyn er mwyn bodloni'r gofyniad i fetio pob ymgeisydd mewn modd teg ac nid oes gan wasanaeth Heddlu'r DU ar hyn o bryd unrhyw ffordd o hwyluso profion fetio dramor i'r un graddau sy'n angenrheidiol ar gyfer y rheini sydd wedi bod yn byw yn y DU. Ni allwn benodi ymgeiswyr nad ydynt wedi cael eu fetio.
Bydd statws ariannol pob ymgeisydd yn cael ei archwilio. Cynhelir yr archwiliadau hyn oherwydd bydd gan heddwas fynediad i wybodaeth freintiedig a all eu gwneud yn agored i lygredd. Gwrthodir unrhyw ymgeiswyr y mae ganddynt ddyfarniadau Llys Sirol cyfredol yn eu herbyn, neu sydd wedi'u cofrestru'n fethdalwyr â dyledion heb eu talu. Os bydd gennych ddyledion methdalu sydd wedi'u gollwng, yna bydd angen i chi ddarparu Tystysgrif Boddhad gyda'ch cais. Ni chaiff ymgeiswyr sy'n destun Trefniant Gwirfoddol Unigol (IVA) cyfredol eu hystyried.
Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr fod yn iach yn feddyliol ac yn gorfforol er mwyn delio â phwysau a gofynion gwaith y rôl. Cyn iddynt gael eu penodi, gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus sy'n cael cynnig swydd amodol lenwi holiadur meddygol a chael archwiliad meddygol, a fydd hefyd yn cynnwys prawf golwg a mesur màs y corff (BMI). Yn ôl cylchlythyr 59/2004 presennol y Swyddfa Gartref mae hyn rhwng 18 a 30. Efallai y caiff cais ymgeiswyr nad ydynt yn cyrraedd y safon hon ei ohirio a / neu na chânt eu penodi.
Ni ystyrir bod ymgeiswyr i fod yn Swyddogion yr Heddlu, y mae eu BMI dros 32, yn ffit, oni bai bod canran y braster yn eu corff yn llai na 30% ar gyfer dynion neu 36% ar gyfer menywod.
Os oes gennych anabledd, byddwn yn gwneud addasiadau lle y bo'n rhesymol i ni wneud hynny.
Mae'n rhaid i chi fod yn ffit yn gorfforol er mwyn ymgymryd â dyletswyddau heddwas yn llwyddiannus. Mae'n rhaid i bob ymgeisydd basio prawf ffitrwydd cyn cael ei benodi. Ar gyfer y prawf dygnwch, gofynnir i chi redeg yn ôl ac ymlaen ar drac 15 metr gan gadw amser â chyfres o synau bipian, bydd y synau bipian yn mynd yn gyflymach hyd at lefel 5.4 wrth i'r prawf fynd yn ei flaen.
Bydd gofyn i chi fynychu prawf ffitrwydd cyn penodi hefyd, tua 6 wythnos cyn y dyddiad penodi disgwyliedig, a bydd yn rhaid i chi basio hwn er mwyn i'ch cais symud yn ei flaen.
Mae gan Heddlu De Cymru bolisi o wahardd unrhyw un o'n swyddogion rhag bod yn aelodau o Blaid Genedlaethol Prydain, neu sefydliad tebyg y gall ei nodau, ei amcanion neu ei ddatganiadau fod yn groes i'r dyletswyddau i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Os ydych yn aelod o Blaid Genedlaethol Prydain neu wedi bod yn rhan ohoni yn flaenorol, mae'n bosibl y caiff eich cais ei wrthod.
Bydd ymgeiswyr â thatŵau gweladwy yn gymwys i gael eu penodi o bosibl.
Caiff pob achos ei ystyried yn unigol, gan ystyried nifer, natur, maint, amlygrwydd, ymddangosiad a lleoliad y tatŵau. Ni ddylai'r tatŵau fod yn dramgwyddus i gydweithwyr nac aelodau o'r cyhoedd nac ychwaith danseilio urddas eich rôl yn yr Heddlu. Caiff tatŵau ar y gwddf, yr wyneb neu'r dwylo eu hystyried yn annerbyniol o hyd, ond mae'n bosibl y rhoddir ystyriaeth o dan rai amgylchiadau, o ystyried maint, natur, ac amlygrwydd y tatŵ. Os bydd ymgeiswyr yn dewis cael unrhyw datŵau ychwanegol yn ystod y broses recriwtio, ar ôl cwblhau'r gwiriadau cymhwysedd, yna mae ganddynt gyfrifoldeb i roi gwybod i'r Adran Adnoddau Dynol a rhoi ffotograffau addas y bydd angen eu harchwilio.
Drwy'r brentisiaeth dair blynedd hon i ddod yn swyddog yr heddlu, byddwch yn:
Yr un yw'r broses gwneud cais ar gyfer y llwybr PCDA a'r Rhaglen Mynediad i Raddedigion (DHEP). Bydd pob ymgeisydd sydd am ymuno â ni fel Swyddog yr Heddlu yn gwneud cais drwy'r swydd wag PCDA/DHEP ar y cyd. Byddwn yn adolygu pob cais, gan ystyried lefel eich cymwysterau a byddwn yn eich rhoi yn y rhaglen fwyaf addas – ni fydd yn rhaid i chi wneud hyn eich hun.
Anfonwch unrhyw ymholiadau pellach drwy e-bost i: [email protected]