Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydych chi'n chwilio am yrfa heb ei hail? Ydych! Yna, mae'n bosibl mai interniaeth gyda Heddlu De Cymru yw'r lle i ddechrau eich gyrfa mewn proffesiwn lle mae pob diwrnod yn wahanol.
Cyn cyflwyno eich cais, ewch i'n cymorth ymgeisio sy'n benodol ar gyfer ein rhaglen Interniaeth isod. Ceir rhagor o gymorth ar ein tudalen canllawiau ymgeisio ar gyfer Staff yr Heddlu.
Cyn cyflwyno eich cais, sicrhewch fod eich CV yn gyfredol gyda’ch statws addysg diweddaraf ynghyd ag unrhyw rolau a chyfrifoldebau lle y bo'n berthnasol.
Tynnwch sylw at brofiadau o'ch addysg (a rolau lle y bo'n berthnasol) a nodwch eich cyflawniadau a'ch llwyddiannau megis prosiectau, modiwlau, cyflwyniadau ac ati ar ffurf pwyntiau bwled.
Dyma rai awgrymiadau defnyddiol:
Ynghyd â'ch CV, bydd gennych hyd at 2000 o eiriau i arddangos eich sgiliau a'ch profiadau a'ch addasrwydd ar gyfer y rôl yn erbyn proffil y rôl. Gall fod yn ddefnyddiol ystyried yr adran hon fel eich datganiad personol; dyma eich lle chi i ddweud wrthym pam mai chi yw'r person cywir ar gyfer y rôl.
Sicrhewch eich bod yn cyfeirio at y sgiliau a'r wybodaeth rydych wedi'u meithrin drwy eich astudiaethau a chofiwch y gall eich profiadau ddod o'ch addysg, gwaith â thâl, gwirfoddoli neu o'ch bywyd personol lle y bo'n berthnasol.
Awgrymiadau defnyddiol
Wrth ymuno â #TîmHDC byddwch yn gweithio gyda heddlu blaenllaw lle gallwch gyfrannu syniadau newydd a gweithio i wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas.
Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus, drwy gydol eich interniaeth, y cewch eich cefnogi gan dîm arbenigol a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.
Bydd dod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.
Mae ein hinterniaethau yn rhai â thâl ac yn para am flwyddyn gan ddechrau ym mis Medi bob blwyddyn. Maent yn addas i'r rhai sy'n astudio ar gyfer gradd ac yn chwilio am flwyddyn mewn lleoliad mewn diwydiant neu'r rhai sydd wedi graddio'n ddiweddar ac sy'n awyddus i feithrin eu dealltwriaeth ac ennill profiad ym maes plismona.
Mae sawl mantais i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau y bwriedir iddynt wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol/Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu sy'n hael iawn, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Noder, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Rhaglen Interniaethau Heddlu De Cymru, rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol:
*Gall y swydd hon fod yn gymwys i ymgeiswyr sydd wrthi'n astudio yn y DU ar fisa Haen 4 (myfyrwyr sy'n oedolion), os caiff lefel y fetio safonol adeg recriwtio ei bodloni'n llwyddiannus. Caiff hyn ei ystyried fesul achos ar ôl gwneud cais
Anfonwch unrhyw gwestiynau yn uniongyrchol at [email protected]
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd a fydd ar gael gyda Heddlu De Cymru yn y dyfodol, rhowch eich manylion ar ein banc talent a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd gennym swyddi gwag sy'n gweddu eich sgiliau a'ch dewisiadau. COFRESTRWCH EICH DIDDORDEB