Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni’n gwybod bod gwahanol bobl yn dewis gwahanol eiriau i ddisgrifio eu hunain, y sawl sydd wedi’u niweidio, a beth sydd wedi digwydd iddyn nhw.
Rydyn ni wedi meddwl yn ofalus am y geiriau rydyn ni’n eu defnyddio, ac rydyn ni wedi penderfynu defnyddio termau gwahanol fel dioddefwr neu oroeswr, unigolyn sydd o dan amheuaeth, cyhuddedig neu droseddwr, gan ddibynnu ar yr union sefyllfa.
Er ein bod ni’n defnyddio'r geiriau hyn, does dim rhaid i chithau wneud hynny. Mae gennych chi hawl i’ch diffinio chi’ch hun a'r hyn sydd wedi digwydd i chi yn y ffordd rydych chi’n ei dymuno ac sy’n teimlo'n iawn i chi.