Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Gwnstabl Gwirfoddol ac ymuno â'n tîm? Gallwch chwarae rhan briodol drwy ein helpu i ddarparu blaenoriaethau plismona ar gyfer De Cymru.
Mae Cwnstabliaid Gwirfoddol yn Swyddogion Heddlu gwirfoddol, sydd â phwerau heddlu llawn, gwisg heddlu ac offer ac maent yn gweithio ochr yn ochr â Swyddogion Heddlu llawn amser a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i gadw De Cymru yn ddiogel. Mae bod yn Gwnstabl Gwirfoddol yn brofiad gwerthfawr a llawn mwynhad lle mae gwirfoddolwyr yn teimlo bod eu hangen, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu datblygu.
Mae pob un o'n Cwnstabliaid Gwirfoddol yn dod â sgiliau unigryw a phrofiadau bywyd i'w tîm yn ogystal ag i'r heddlu, gan roi safbwyntiau newydd i'n swyddogion ar y sefyllfaoedd maent yn eu hwynebu bob dydd.
Mae pob shifft yn wahanol i Gwnstabl Gwirfoddol a bydd yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o ddyletswyddau, gan gynnwys:
Os byddwch yn cael eich recriwtio'n llwyddiannus, byddwch yn cael hyfforddiant ffurfiol. Bydd manylion y cwrs yn cael eu cwblhau cyn eich dyddiad dechrau a bydd yn cynnwys rhai sesiynau hyfforddiant gyda'r nos ac ar benwythnosau yn achlysurol. Bydd eich penodiad ar gyfnod prawf am ddwy flynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd angen i chi gwblhau pob elfen o'ch hyfforddiant a'ch ardystio i batrolio'n annibynnol.
Yn y sesiynau hyfforddiant byddwch yn cael dealltwriaeth dda o sawl agwedd ar blismona. Byddwch yn dysgu am:
Heddlu De Cymru yw’r heddlu mwyaf yng Nghymru ac er ei fod yn cwmpasu ardal ddaearyddol fach ag arwynebedd o tua 812 o filltiroedd sgwâr, sy’n cyfateb i ddim ond 10% o arwynebedd daearyddol Cymru, mae Heddlu De Cymru yn darparu gwasanaeth plismona i 1.3 miliwn o bobl (42% o boblogaeth y wlad).
Mae De Cymru yn rhanbarth amrywiol gydag ardaloedd gwledig, arfordirol a threfol gan gynnwys y ddwy ddinas fwyaf yng Nghymru, sef Abertawe a’r brifddinas, Caerdydd. Mae’r heddlu hefyd yn gwasanaethu 63 o’r 100 o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Fel heddlu, rydym yn buddsoddi'n sylweddol yn y dechnoleg ddiweddaraf ac yn llesiant staff a swyddogion. Mae Heddlu De Cymru wedi bod wrth wraidd llawer o ddigwyddiadau mawr – gyda Chynghrair y Pencampwyr, NATO a'r Gemau Olympaidd ymhlith eraill wedi eu cynnal yma yn Ne Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Ymunwch â ni er mwyn ein helpu i fod y gorau am ddeall anghenion ein cymunedau ac ymateb iddynt.
Unwaith y byddwch yn llwyddiannus yn eich cais byddwch yn cwblhau rhaglen hyfforddiant cychwynnol rhan amser yn cynnwys addysgu ystafell ddosbarth, hyfforddiant ymarferol a dysgu o bell. Ar ôl hyn byddwch yn dechrau ar eich rôl fel cwnstabl gwirfoddol, yn gweithio ochr yn ochr â swyddog yr heddlu profiadol neu gwnstabl gwirfoddol nes eich bod yn barod i weithio’n annibynnol. Bydd disgwyl i chi ymrwymo i o leiaf 16 awr y mis am weddill eich gwasanaeth.
Yn ystod eich gwasanaeth byddwch yn delio ag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau. Bydd adegau pan fyddwch yn profi gwrthdaro; byddwch yn arestio pobl dan amheuaeth a mynychu digwyddiadau sy’n aml yn ofidus, ond ni fydd popeth yn oleuadau glas a helfeydd mewn car.
Byddwch yno i bobl pan fydd eich angen arnynt fwyaf, bydd adegau pan na fyddwch yn gorffen eich sifft ar amser a phan fyddwch yn teimlo mai dim ond cwblhau gwaith papur rydych yn ei wneud. Ond os oes gennych yr ysfa i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned byddwch yn cael budd o weithio ochr yn ochr â swyddogion llawn amser i wneud De Cymru yn fwy diogel.
Fel Cwnstabl Gwirfoddol, efallai y byddwch yn cael budd o gynllun Plismona a Gefnogir gan Gyflogwyr.
Mae Plismona a Gefnogir gan Gyflogwyr yn gynllun cenedlaethol a gefnogir gan y Swyddfa Gartref lle mae sefydliadau yn rhyddhau eu gweithwyr ar wyliau â thâl i wirfoddoli fel Cwnstabl Gwirfoddol neu fel Gwirfoddolwr Cefnogi'r Heddlu.
Mae'r bartneriaeth hon o fudd i gyflogwyr, eu staff, gwasanaeth yr heddlu a'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.
Ar hyn o bryd, mae dros 400 o gyflogwyr wedi cofrestru â'r cynllun.
Ni chaiff Cwnstabliaid Gwirfoddol eu talu am eu bod yn gweithio ar sail wirfoddol. Fodd bynnag, gallwch wneud cais am unrhyw dreuliau yn ystod eich dyletswyddau er enghraifft treuliau teithio.
Pan fyddwch yn dod yn Gwnstabl Gwirfoddol, byddwch yn cael budd o'r canlynol:
Mae gan y Gwnstabliaeth Wirfoddol yn Heddlu De Cymru ei strwythur rhengoedd ei hun.
Caiff ei harwain gan Brif Swyddog y Gwnstabliaeth Wirfoddol, a gaiff ei gefnogi gan yr Uwch-arolygydd Gwirfoddol, Arolygwyr Gwirfoddol a Rhingylliaid Gwirfoddol.
Ar ôl i Gwnstabliaid Gwirfoddol gyflawni statws patrolio annibynnol, gallant ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol drwy ddatblygu drwy'r rhengoedd.
Neu, gallant geisio arbenigo mewn maes plismona, fel yn ein Huned Plismona'r Ffyrdd.
Mae gennym ymrwymiad cryf i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sefydliad ac yn y gwasanaeth a ddarperir gennym. Ein nod yw hyrwyddo a chyflawni gweithlu cwbl gynhwysol i adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae Heddlu De Cymru yn croesawu'n benodol ymgeiswyr o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.
Mae Heddlu De Cymru yn falch o weithio o dan fenter gweithredu cadarnhaol i gefnogi'r rheini o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli. Os ydych yn dod o gefndir amrywiol a bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni, cysylltwch â'n Tîm Gweithlu Cynrychioliadol.
Anfonwch unrhyw ymholiadau pellach drwy e-bost i: [email protected]