Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daw gwirfoddolwyr y Gwnstabliaeth Wirfoddol o bob cefndir. Efallai y byddwch gartref, yn magu teulu, neu wedi'ch cyflogi mewn amrywiaeth eang o swyddi.
Byddai'r ymgeisydd perffaith yn:
Mae'r canllawiau ar gyfer ymuno â'r Gwnstabliaeth Wirfoddol fwy neu lai yn union yr un peth â'r rhai ar gyfer swyddog yr heddlu rheolaidd.
Rydym yn annog pobl o bob cefndir i ymuno â'r sefydliad. Fodd bynnag, nid yw rhai galwedigaethau yn gydnaws â dod yn gwnstabl gwirfoddol, er enghraifft os ydych yn aelod o'r lluoedd arfog, yn borthor neu'n gweithio i sefydliad diogelwch.
Am ragor o wybodaeth ewch i: Joining as a special constable | College of Policing
I wneud cais am rôl Cwnstabl Arbennig, bydd angen eich bod yn 18 oed neu'n hŷn (ar y diwrnod pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais).
Efallai y byddwch dal yn gymwys i ymuno â gwasanaeth yr heddlu os oes gennych fân euogfarnau/rhybuddiadau, ond mae rhai troseddau ac amodau a fydd yn golygu eich bod yn anghymwys. Mae'n RHAID i chi nodi pob euogfarn am droseddau blaenorol, rhybuddiadau ffurfiol (gan gynnwys rhybuddiadau a gafwyd fel person ifanc) ac unrhyw achos o rwymo i gadw'r heddwch a osodwyd gan y llysoedd. Dylech hefyd gynnwys pob euogfarn draffig. Oherwydd natur plismona, mae'n hanfodol ein bod yn fetio ymgeiswyr llwyddiannus yn drylwyr cyn y gallant ymuno â'r rhaglen.
Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, dinesydd y Gymanwlad neu'n wladolyn tramor heb gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y Deyrnas Unedig. Hefyd, rhaid eich bod wedi bod yn byw yn y DU am gyfnod di-dor am dair blynedd yn union cyn gwneud cais. Mae hyn er mwyn bodloni'r gofyniad i fetio pob ymgeisydd mewn modd teg ac nid oes gan wasanaeth Heddlu'r DU ar hyn o bryd unrhyw ffordd o hwyluso profion fetio dramor i'r un graddau sy'n angenrheidiol ar gyfer y rheini sydd wedi bod yn byw yn y DU. Ni allwn benodi ymgeiswyr nad ydynt wedi cael eu fetio.
Bydd statws ariannol pob ymgeisydd yn cael ei archwilio. Cynhelir yr archwiliadau hyn oherwydd bydd gan Gwnstabliaid Gwirfoddol fynediad i wybodaeth freintiedig a all eu gwneud yn agored i lygredd. Gwrthodir unrhyw ymgeiswyr y mae ganddynt ddyfarniadau Llys Sirol cyfredol yn eu herbyn, neu sydd wedi'u cofrestru'n fethdalwyr â dyledion heb eu talu. Os bydd gennych ddyledion methdalu sydd wedi'u gollwng, yna bydd angen i chi ddarparu Tystysgrif Boddhad gyda'ch cais. Ni chaiff ymgeiswyr sy'n destun Trefniant Gwirfoddol Unigol (IVA) cyfredol eu hystyried.
Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr fod yn iach yn feddyliol ac yn gorfforol er mwyn delio â phwysau a gofynion gwaith y rôl. Cyn iddynt gael eu penodi, gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus sy'n cael cynnig swydd amodol lenwi holiadur meddygol a chael archwiliad meddygol, a fydd hefyd yn cynnwys prawf golwg a mesur màs y corff (BMI). Yn ôl cylchlythyr 59/2004 presennol y Swyddfa Gartref mae hyn rhwng 18 a 30. Efallai y caiff cais ymgeiswyr nad ydynt yn cyrraedd y safon hon ei ohirio a / neu na chânt eu penodi.
Ni chaiff ymgeiswyr sy'n Gwnstabliaid Gwirfoddol â BMI dros hynny eu hystyried yn ffit oni fydd canran o fraster y corff yn llai na 30% i ddynion neu 36% i fenywod. Bydd methu â chyrraedd y safonau meddygol a golwg yn golygu na allwch gael eich penodi. Darllenwch y cwestiynau cyffredin i weld y gofynion o ran golwg.
Os oes gennych anabledd, byddwn yn gwneud addasiadau lle y bo'n rhesymol i ni wneud hynny.
Nid oes unrhyw ofynion o ran taldra.
Mae'n rhaid i chi fod yn ffit yn gorfforol er mwyn ymgymryd â dyletswyddau Cwnstabl Gwirfoddol yn llwyddiannus. Mae'n rhaid i bob ymgeisydd basio prawf ffitrwydd cyn cael ei benodi. Ar gyfer y prawf dygnwch, gofynnir i chi redeg yn ôl ac ymlaen ar drac 15 metr gan gadw amser â chyfres o synau bipian, bydd y synau bipian yn mynd yn gyflymach hyd at lefel 5.4 wrth i'r prawf fynd yn ei flaen.
Mae gan Heddlu De Cymru bolisi o wahardd unrhyw un o'n swyddogion rhag bod yn aelodau o Blaid Genedlaethol Prydain, neu sefydliad tebyg y gall ei nodau, ei amcanion neu ei ddatganiadau fod yn groes i'r dyletswyddau i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Os ydych yn aelod o Blaid Genedlaethol Prydain neu wedi bod yn rhan ohoni yn flaenorol, mae'n bosibl y caiff eich cais ei wrthod.
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer rôl Cwnstabl Gwirfoddol.
Bydd ymgeiswyr â thatŵau gweladwy yn gymwys i gael eu penodi o bosibl.
Caiff pob achos ei ystyried yn unigol, gan ystyried nifer, natur, maint, amlygrwydd, ymddangosiad a lleoliad y tatŵau. Ni ddylai'r tatŵau fod yn dramgwyddus i gydweithwyr nac aelodau o'r cyhoedd nac ychwaith danseilio urddas eich rôl yn yr Heddlu. Caiff tatŵau ar y gwddf, yr wyneb neu'r dwylo eu hystyried yn annerbyniol o hyd, ond mae'n bosibl y rhoddir ystyriaeth o dan rai amgylchiadau, o ystyried maint, natur, ac amlygrwydd y tatŵ. Os bydd ymgeiswyr yn dewis cael unrhyw datŵau ychwanegol yn ystod y broses recriwtio, ar ôl cwblhau'r gwiriadau cymhwysedd, yna mae ganddynt gyfrifoldeb i roi gwybod i'r Adran Adnoddau Dynol a rhoi ffotograffau addas y bydd angen eu harchwilio.
Mae gonestrwydd yn hollbwysig bob amser yn ystod y broses recriwtio. Mae'n hanfodol eich bod yn datgan yr holl wybodaeth berthnasol i ni yn ystod y cam ymgeisio a chamau fetio'r broses. Byddwn yn gofyn cwestiynau i chi ond dylech hefyd ddweud unrhyw beth arall y credwch allai effeithio ar eich addasrwydd i'r rôl. Rhaid i chi hefyd hysbysu'r tîm recriwtio sy'n goruchwylio eich rôl am unrhyw newid mewn amgylchiadau yn ystod eich proses ymgeisio. Cliciwch yma i gael eu gwybodaeth gyswllt.
Mae’n bwysig gwybod nad yw llawer o amgylchiadau personol o reidrwydd yn eich atal rhag bod yn gymwys i ymuno. Fodd bynnag, os na fyddwch yn datgelu gwybodaeth berthnasol, mae’n rhaid i ni ystyried hyn fel hepgoriad bwriadol a'ch bod wedi ceisio cuddio’r wybodaeth honno oddi wrthym. Os gwnewch hyn caiff ei drin fel diffyg gonestrwydd ac uniondeb a fydd yn effeithio arnoch mewn ceisiadau yn y dyfodol. Os hoffech drafod eich amgylchiadau cyn gwneud cais, anfonwch e-bost at [email protected].