Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae amrywiaeth a phrofiadau gwahanol y Gwnstabliaeth Wirfoddol yn helpu gwasanaeth yr heddlu i gynrychioli'r cymunedau a wasanaethir.
Pan nad yw'n gweithio fel Cynorthwyydd Meddyg ar gyfer Bwrdd Iechyd Cwm Taf, mae Rhys yn gwirfoddoli fel Cwnstabl Gwirfoddol.
"Mae bod yn Gwnstabl Gwirfoddol wedi rhoi sgiliau trosglwyddadwy rhagorol i mi ar gyfer y proffesiwn rwy'n gweithio ynddo nawr. Roeddwn bob amser wedi bod eisiau bod yn Swyddog yr Heddlu, felly meddyliais y byddai dod yn Gwnstabl Gwirfoddol yn gyfle gwych i ddysgu mwy am y swydd.
"Rwy'n teimlo'n fwy hyderus o lawer yn fy mywyd o ddydd i ddydd ers ymuno fel Cwnstabl Gwirfoddol, a byddwn yn annog unrhyw un sydd am roi yn ôl i'w cymuned a gwneud newid cadarnhaol i ymgeisio.”
“Rwy'n gweithio o ddydd i ddydd fel rheolwr systemau ariannol i'r GIG ar gyfer awdurdod lleol Cwm Taf.
“Mae'n debyg mai bod yn Gwnstabl Gwirfoddol yw un o'r pethau mwyaf diddorol ac un o'r pethau gorau rwyf erioed wedi'i wneud. Penderfynais ddod yn Gwnstabl Gwirfoddol oherwydd roeddwn bob amser wedi bod eisiau bod yn Swyddog yr Heddlu, ers pan oeddwn yn ifanc. Rwy'n dod o deulu o Swyddogion yr Heddlu ond yn anffodus, datblygodd fy ngyrfa ac fel llawer o Gwnstabliaid Gwirfoddol eraill yn y sefydliad, allwn i ddim newid i fod yn swyddog llawn amser, felly bod yn Gwnstabl Gwirfoddol oedd y peth gorau nesaf, ac mae'n un o'r pethau gorau rwyf erioed wedi'i wneud.
“Rydym wedi ymrwymo i weithio 16 awr y mis, ond nid oes angen i ni weithio'r oriau hyn gyda'i gilydd na thros ddwy shifft. Gallwch rannu'r oriau a gweithio o amgylch eich bywyd cartref os oes gennych deulu, plant, neu ymrwymiadau gwaith. Mae'r lefel hon o hyblygrwydd yn help mawr ac yn fy ngalluogi i fod yn Gwnstabl Gwirfoddol.
“Mae'n debyg mai dyma un o'r pethau mwyaf diddorol y byddwch chi byth yn ei wneud ac un o'r pethau mwyaf gwerth chweil hefyd. Mae wedi gwneud gwyrthiau i fy hyder.”
Ochr yn ochr â'i swydd bob dydd fel Prif Ddadansoddwr Cymorth a Busnes ar gyfer Gofal Iechyd Digidol Cymru, mae Adam yn gweithio fel Cwnstabl Gwirfoddol.
“Mae bob amser cyfle i fynd ar ddyletswydd, a gan fy mod yn gweithio gartref, rwy'n mwynhau mynd allan a chwrdd â phobl newydd. Rwyf wrth fy modd bod rhywbeth gwahanol bob amser, wyddoch chi ddim pwy fyddwch chi'n cwrdd ag ef na beth fyddwch chi'n ei wneud.
“Rwy'n mwynhau siarad â phobl a cheisio rhoi cymaint o gymorth ag y galla i, sy'n deimlad gwerth chweil i mi fel Cwnstabl Gwirfoddol. Os ydych chi eisiau helpu pobl a gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned, ystyriwch fod yn Gwnstabl Gwirfoddol yn sicr.”
Myfyriwr gradd meistr mewn troseddeg yw Rhingyll Gwirfoddol Drennan sydd, ar hyn o bryd, yn gweithio yn y byd academaidd.
“Cefais fy mhenodi'n Rhingyll Gwirfoddol yn 2019 pan roeddwn yn cwblhau fy ngradd israddedig gan fy mod am gael profiad o blismona ar y rheng flaen, ac ers hynny rwyf wedi penderfynu dod yn rhingyll gwirfoddol hirdymor yn hytrach na newid i fod yn swyddog llawn amser â thâl.
“Mae bod yn Rhingyll Gwirfoddol yn fy ngalluogi i ddeall plismona a'r system cyfiawnder troseddol yn ymarferol a defnyddio fy ngwybodaeth bresennol wrth blismona o ddydd i ddydd.
“Rwy'n treulio'r rhan fwyaf o fy amser gweithredu yn gweithio ar dîm plismona yn y gymdogaeth, sy'n cynnwys mynd ar batrôl ar droed yn aml, ymgysylltu â'r gymuned a phlismona digwyddiadau lleol. Rwyf hefyd wedi cael y cyfle i blismona yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham a mynychu digwyddiadau ledled ardal yr heddlu.
“Fel Rhingyll Gwirfoddol, rwy'n ymfalchïo yn y cyfle i gael arwain tîm o Gwnstabliaid Gwirfoddol ac yn cael profiad rheoli gwerthfawr, boed hynny wrth reoli pobl neu adnoddau.”