Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib i sôn am yr hyn rydyn ni’n ei wneud.
Byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau ychwanegol angenrheidiol ac yn amlinellu beth fydd yn digwydd nesaf.
Bydd yr union gamau a gymerir yn dibynnu ar lefel y risg ac ar yr heddlu lleol. Ond, er enghraifft, ar ddechrau ymchwiliad, efallai y byddwn yn:
Os nad ydym yn credu bod hwn yn achos o berson coll, byddwn yn:
Os bydd ymchwiliad yn croesi’r ffiniau rhwng heddluoedd (er enghraifft os aiff rhywun ar goll mewn un ardal ond o bosibl yn cael ei weld mewn ardal arall) bydd yr heddluoedd yn cydweithio.
Heddlu’r man y mae'r person ar goll ohono sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol fel arfer, ond gall hyn newid os yw'r rhan fwyaf o'r ymchwiliad yn digwydd mewn ardal wahanol.
Ar ôl i chi riportio bod person ar goll, bydd ein tîm yn penderfynu a yw’r achos yn:
Rydym yn ystyried llawer o ffactorau gan gynnwys oed ac iechyd wrth benderfynu ar risg. Bydd lefel y risg yn ein helpu i benderfynu beth i’w wneud nesaf. Mae croeso i chi ofyn am lefel y risg a dylech gael gwybod hynny.
Nid yw lefel y risg yn sefydlog a gellir ei hailasesu yn ystod yr ymchwiliad os oes gwybodaeth newydd yn dod i’r fei neu os yw’r amgylchiadau’n newid.
Os ydych chi’n cofio am unrhyw beth arall ar ôl riportio person ar goll, gallwch ffonio 101.
Tra byddwch chi’n aros i glywed yn ôl gennym, dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu i chwilio am berson ar goll.
Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd ar goll yn cael eu canfod neu’n dychwelyd o fewn yr ychydig ddyddiau cyntaf.
Os bydd person ar goll am fwy nag ychydig ddyddiau, bydd ymchwiliad yr heddlu yn newid.
Darganfod beth sy’n digwydd pan fydd rhywun wedi bod ar goll am fwy nag ychydig ddyddiau.
Gall yr elusen Missing People eich cefnogi a’ch helpu i ymdopi pan fydd rhywun wedi mynd ar goll.
Mae LBT Global (Ymddiriedolaeth Lucie Blackman gynt) yn helpu pobl pan fydd person wedi mynd ar goll mewn gwlad dramor.
Os ydych chi'n poeni am les rhywun, dyma ragor o wybodaeth am sut gallwn ni neu sefydliadau eraill helpu.