Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi’n poeni bod rhywun mewn perygl, gallwch riportio bod person ar goll ar unwaith.
Os yw’r person sydd ar goll mewn perygl uniongyrchol, yn blentyn ifanc neu’n agored i niwed, ffoniwch 999 nawr.
Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch eich gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMSbrys.
Os nad ydych chi’n meddwl eu bod mewn perygl uniongyrchol, gallwch ffonio 101.
Os ydych chi’n poeni am ddiogelwch rhywun, rhowch wybod i ni ar unwaith. Nid ydych chi’n gwastraffu amser yr heddlu wrth roi gwybod bod person ar goll. Rydyn ni yma i’ch amddiffyn chi a’ch anwyliaid.
Os nad ydych chi’n pryderu bod rhywun mewn perygl uniongyrchol, cyn i chi riportio bod person ar goll dylech wneud y canlynol:
Os yn bosib, gwnewch nodyn o bopeth.
Peidiwch â tharfu’n ormodol ar ystafell y person sydd ar goll na’i bethau rhag ofn y bydd angen i ni gymryd sampl DNA.
Ni fydd person sydd ar goll yn mynd i drwbl nac yn cael ei arestio am fynd ar goll. Rydyn ni’n poeni fwy am les y person sydd ar goll.
Nid ydych chi’n gwastraffu amser yr heddlu wrth roi gwybod bod person ar goll. Fyddwch chi ddim mewn trwbl am riportio bod person ar goll.