Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd ar goll yn cael eu canfod neu’n dychwelyd o fewn yr ychydig ddyddiau cyntaf.
Os bydd person ar goll am fwy nag ychydig ddyddiau, efallai bydd ymchwiliad yr heddlu yn newid rhywfaint.
Weithiau byddwn yn neilltuo Swyddog Cyswllt Teulu mewn achos o berson ar goll.
Bydd y Swyddog Cyswllt Teulu:
Os nad ydyn ni wedi gwneud hynny’n barod, efallai y byddwn yn casglu olion bysedd neu eitemau y gallwn ni gael sampl DNA ohonynt fel brwsh dannedd neu frwsh gwallt.
Gall hyn fod o gymorth os byddwn yn dod o hyd i berson anhysbys a allai fod y person yr ydych yn chwilio amdano.
I helpu i gynnal a chadw DNA y person coll, peidiwch â tharfu’n ormodol ar ei ystafell a’i bethau. Peidiwch â golchi na glanhau unrhyw beth, na chyffwrdd ei frwsh gwallt na’i frwsh dannedd nes ein bod wedi chwilio a chasglu tystiolaeth.
Os na allwn gael sampl DNA ar gyfer y person coll, efallai y byddwn yn gofyn am gael casglu sampl DNA gennych chi ac aelodau eraill o’r teulu.
Cedwir gwybodaeth DNA mewn achosion o unigolion coll ar gronfa ddata a reolir gan Uned Pobl Goll y DU. Dim ond er mwyn helpu i adnabod y person coll y caiff y wybodaeth hon ei defnyddio ac nid at unrhyw ddibenion eraill. Ar ôl dod o hyd i’r person coll, bydd y wybodaeth yn cael ei dileu.
Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am fanylion deintydd neu feddyg y person coll, er mwyn i ni allu gofyn am gofnodion deintyddol a chofnodion meddygol eraill. Efallai y byddwn yn gofyn am eich caniatâd chi os mai chi yw eu perthynas agosaf.
Ar ôl tri diwrnod (72 awr) rhaid i’r heddlu sy’n gweithio ar achos person coll ddweud wrth yr Uned Pobl Goll y DU. Mae’r Uned Pobl Goll y DU yn rhan o’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).
Yr Uned Pobl Goll y DU:
Gall yr heddlu lleol gael cymorth gan yr Uned Pobl Goll y DU cyn y tri diwrnod arferol, er enghraifft os ydynt yn amau trosedd difrifol.
Gall heddlu lleol hefyd gael cymorth arbenigol gan Uned Ymchwilio i Droseddau Difrifol (MCIS) yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.
Mae’n naturiol i boeni’n ofnadwy pan nad yw’r person yn dychwelyd yn sydyn. Gall yr elusen Missing People eich cefnogi a’ch helpu i ymdopi.
Mae Ymddiriedolaeth Lucie Blackman yn helpu pobl pan fydd person wedi mynd ar goll mewn gwlad dramor.
Ar wefan yr Uned Pobl Goll y DU ceir cronfa ddata o bobl anhysbys yn ogystal â rhagor o gyngor a chymorth i deuluoedd. Er gwybodaeth, mae delweddau ar eu gwefan a all beri gofid.