Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Y diffiniad cyfreithiol o gamdriniaeth ddomestig yw: unrhyw ddigwyddiad o ymddygiad, sy'n rheoli, yn cymell neu’n bygwth, trais neu gamdriniaeth rhwng rhai sy’n 16 oed neu drosodd neu sy’n bartneriaid agos neu'n aelodau o'r teulu neu wedi bod felly, waeth beth fo'u rhyw neu eu rhywioldeb.
Gall hyn gynnwys y mathau canlynol o gamdriniaeth, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhain:
Mae camdriniaeth ddomestig hefyd yn cynnwys cam-drin ar sail anrhydedd a phriodasau dan orfod.
Mae gan wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron ddadansoddiad o'r mathau o gamdriniaeth ddomestig.
Mae un digwyddiad yn unig yn cyfrif fel camdriniaeth.
Gall camdriniaeth ddomestig effeithio ar unrhyw un waeth beth fo'u hethnigrwydd, eu hoed, eu rhyw, eu rhywioldeb neu eu cefndir cymdeithasol.
Os ydych chi’n dioddef camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol neu ariannol, neu'n cael eich bygwth, eich brawychu neu’ch stelcio gan bartner presennol neu flaenorol neu aelod agos o'r teulu, mae'n debygol eich bod yn dioddef camdriniaeth ddomestig.
Nid chi sydd ar fai am beth sy'n digwydd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
Gallwch riportio hyn i ni neu, os nad ydych chi’n barod i siarad â'r heddlu, gallwch gysylltu â sefydliadau cymorth a fydd yn eich helpu.
Mae gennyn ni restr o sefydliadau cymorth cenedlaethol a lleol a all helpu.