Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth yw blacmel rhywiol |
2. Beth gallwch chi ei wneud: riportio'r peth i ni |
3. Riportio i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol os digwyddodd y peth ar-lein |
4. Help a chymorth |
Math o flacmel ar-lein yw blacmel rhywiol. Dyma pryd mae troseddwyr yn bygwth rhannu lluniau, fideos neu wybodaeth rywiol amdanoch chi oni bai eich bod yn talu arian neu'n gwneud rhywbeth arall nad ydych chi eisiau ei wneud.
Gall unrhyw un ddioddef blacmel rhywiol. Er hynny, pobl ifanc rhwng 15 a 17 oed, ac oedolion o dan 30 oed, sydd yn aml yn wynebu'r risg fwyaf.
Mae troseddwyr yn aml yn targedu pobl trwy apiau detio, cyfryngau cymdeithasol, gwe-gamerâu, neu wefannau pornograffi. Efallai y byddan nhw’n defnyddio hunaniaeth ffug i ddod yn ffrind ichi ar-lein. Os bydd rhywun rydych chi newydd gyfarfod â nhw ar-lein yn sgwrsio gyda chi mewn ffordd rywiol, neu’n gofyn am ddelweddau rhywiol, gallai fod yn ymgais at flacmel rhywiol.
Dylech fod yn wyliadwrus os bydd rhywun rydych chi wedi cyfarfod â nhw ar-lein:
Gall ymgais ar flacmel rhywiol ddigwydd yn gyflym iawn, neu ddigwydd dros amser hir. Peidiwch byth â rhannu delweddau na gwybodaeth rywiol amdanoch chi'ch hun os nad ydych chi'n gyffyrddus.
Mae’n dal yn bosibl dioddef blacmel rhywiol os ydych chi heb rannu delweddau neu wybodaeth rywiol. Gall troseddwyr fod wedi hacio un o'ch cyfrifon, neu wedi creu delweddau neu fideos wedi'u golygu neu ffug, fel ffugiadau dwfn, ohonoch chi sy'n ymddangos yn real.
Hyd yn oed os nad oes yna flacmel, mae rhannu neu fygwth rhannu lluniau neu fideos personol ohonoch heb eich caniatâd yn anghyfreithlon. Yr enw ar hyn yw 'pornograffi dial' neu gamdriniaeth drwy ddelweddau personol.
Dylech chi roi'r gorau i ymwneud â'r unigolyn os ydych chi'n teimlo'n anghyffyrddus, neu os bydd rhywun yn cysylltu â chi ar-lein nad ydych chi'n ei nabod.
Gallwch hefyd adolygu’ch gosodiadau preifatrwydd. Mae troseddwyr yn llai tebygol o'ch targedu os na allan nhw weld pwy yw eich ffrindiau a'ch teulu.
Os byddwch chi'n dioddef blacmel rhywiol, neu os ydych chi'n poeni eich bod chi'n cael eich targedu, nid eich bai chi yw hynny byth. Nid chi sydd ar fai a dydych chi ddim wedi gwneud dim o'i le.
Rydyn ni’n deall y gall fod yn anodd riportio'r math yma o drosedd inni, ond mae help ar gael ac rydyn ni yma i wrando arnoch a'ch cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn.