Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Boed hynny'n bartïo â ffrindiau, pryd o fwyd gyda dêt, neu fynd i ddigwyddiad chwaraeon neu gerddoriaeth, rydym am i bawb sy'n ymweld â'r brifddinas deimlo'n ddiogel.
Dyna pam rydym yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid – o Gyngor Caerdydd i For Cardiff a'r amrywiaeth eang o safleoedd trwyddedig – i sicrhau bod canol dinas Caerdydd yn le croesawgar i bawb.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio'n galed ochr yn ochr â phartneriaid i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'r fenter Ask for Angela.
Mae'r cynllun cenedlaethol wedi bod yn rhedeg ers 2016, gyda'r bwriad o sicrhau bod cymorth ar gael yn hawdd i unrhyw un sydd mewn perygl neu sefyllfa anghyfforddus.
Mae'r cynllun yn syml – dylai unrhyw un y mae angen iddo ddianc o sefyllfa lle mae'n teimlo'n agored i niwed allu gofyn i aelod o'r staff mewn lleoliad am gael siarad ag 'Angela', a gall yr unigolyn hwnnw bwyso a mesur y cais am help a chynnig cefnogaeth a chymorth priodol a chynnil.
Er bod y cynllun yn gweithredu ledled y DU, mae ymwybyddiaeth ohono a'r lefelau cyfranogi yn amrywio, felly mae ein timau wedi bod yn gweithio'n ddiflino i geisio sicrhau bod Caerdydd yn darparu gwasanaeth priodol a chyson.
Maent wedi gweithio'n agos gyda lleoliadau i dynnu sylw at y cynllun a phwysleisio ei bwysigrwydd, yn ogystal â sicrhau bod hyfforddiant perthnasol yn cael ei ddarparu i'r staff.
Dangosodd ymarfer profi diweddar dros gyfnod yr ŵyl fod yr holl leoliadau yr ymwelodd swyddogion mewn dillad plaen â nhw heblaw un wedi ymateb yn briodol i'r cais yn gofyn am help drwy ddefnyddio'r cod.
Dywedodd yr Arolygydd Rya Cowan-Davies, o Adran Diogelwch Cymunedol Caerdydd:
"Mae'n bwysig iawn i ni a'n partneriaid fod pawb – ni waeth beth fo'u hoedran na'u rhywedd – yn teimlo'n ddiogel pan fyddant yn dod i Gaerdydd.
"Mae Ask for Angela yn un fenter rydym am i bawb fod yn ymwybodol ohoni ac i deimlo'n hyderus y gallant ei defnyddio os bydd angen.
"Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Ask for Angela mewn bariau, clybiau a bwytai yng nghanol y ddinas, rydym hefyd wedi bod yn sicrhau bod staff y lleoliadau yn gwybod pa wasanaethau sy'n gwybod am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt, o'n Bysiau Diogelwch, i Fugeiliaid y Stryd, canolfannau triniaeth alcohol, ac yn y blaen.
"Byddwn yn cynnal ymgyrchoedd profi pellach yn yr wythnosau nesaf, ar ddyddiadau allweddol fel y Chwe Gwlad, ond hefyd yn ystod cyfnodau tawelach.
"Yn ogystal â gweithio i ddiogelu unrhyw un sydd ei angen, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ganolbwyntio ar droseddwyr gan gynnwys troseddau rhywiol."
Mentrau diogelwch y ddinasoedd
Bysiau Diogelwch Caerdydd yn helpu cannoedd o unigolion agored i niwed