Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Bws Diogelwch Caerdydd wedi derbyn cydnabyddiaeth yn genedlaethol am fynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched.
Mae'r fenter yn enillydd rhanbarthol yng nghategori Lleoedd Diogel digwyddiad cydnabyddiaeth Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a'r Coleg Plismona ar gyfer swyddogion yr heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.
Derbyniwyd a beirniadwyd mwy na 140 o geisiadau ar y cyd gan heddluoedd a chynrychiolwyr o elusennau megis SafeLives ac Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh.
Ers Medi 2021, mae Bws Diogelwch Caerdydd wedi diogelu mwy na 2,850 o bobl agored i niwed ar strydoedd Caerdydd.
Mae dau fws yn rhedeg bob nos drwy gydol cyfnod y Glas i ddod o hyd i unigolion agored i niwed, ar eu pen eu hunain, a'u helpu i fynd adref yn ddiogel.
Mae'r bysiau'n parhau i redeg ar y nosweithiau prysuraf.
Dywedodd swyddog cyswllt myfyrwyr, Heddlu De Cymru, PC Michael Neate:
“Mae'r bysiau yn helpu 20 o bobl bob nos ar gyfartaledd. Mae rhai yn feddw iawn ac yn wynebu risg amlwg i'w diogelwch personol.
“Mae'r fenter hon yn ein galluogi i adnabod y rheini sydd mewn amgylchiadau bregus ac sydd â'r angen mwyaf, a'u helpu i gyrraedd diogelwch eu cartrefi neu'r Ganolfan Triniaeth Alcohol.”
Caiff y Bws Diogelwch i Fyfyrwyr ei redeg gan swyddogion a gwirfoddolwyr er mwyn helpu i gadw myfyrwyr a'r gymuned ehangach yn ddiogel.
Mae'n gwneud hyn drwy:
Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Bella Rees, Pennaeth Gweithrediadau, Uned Reoli Sylfaenol Caerdydd a'r Fro, Heddlu De Cymru:
“Mae gan Gaerdydd hanes ardderchog o weithio mewn partneriaeth sydd wedi helpu i sicrhau bod ei heconomi liw nos yn ddiogel yn ogystal â bod yn fywiog a chroesawgar.
"Mae Bws Diogelwch Myfyrwyr yn un enghraifft o'r gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.
"Mae'r gydnabyddiaeth genedlaethol hon gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a'r Coleg Plismona yn newyddion anhygoel i bawb sy'n rhan ohono ac yn gydnabyddiaeth haeddiannol iawn o'r gwasanaeth amhrisiadwy y mae ein swyddogion a'n gwirfoddolwyr ymrwymedig yn ei ddarparu."
Roedd yn rhaid i bob ymgais a ddaeth yn fuddugol yn Nigwyddiad Cydnabod Plismona Trais yn Erbyn Menywod a Mercher arddangos sut y llwyddant i ennill ymddiriedaeth a hyder, a sut mae eu dull gweithredu yn canolbwyntio ar y dioddefwr. Roedd yn rhaid iddynt hefyd ddangos effaith hyn, gan gynnwys sut roeddent yn mynd ar drywydd y cyflawnwyr.
Cafodd effeithiolrwydd llawer o'r ymgeiswyr argraff fawr ar y beirniad, a chanmolwyd y swyddogion, staff a'r gwirfoddolwyr yn benodol a wrandawodd ar y dioddefwyr a'r goroeswyr, a llunio eu hymateb yn briodol o ganlyniad iddo.
Ymhlith yr ymgeiswyr eraill a enillodd oedd yr ymgyrch i fynd i'r afael ag ymddygiad labystiaid a rhywiaethol o fewn yr heddlu (Heddlu Avon a Gwlad yr Haf), lleihau troseddau treisgar yn erbyn gweithwyr rhyw (Heddlu Cleveland), sesiynau addysgiadol i ysgolion (Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr) a goroeswr trais corfforol a helpodd Heddlu Swydd Lincoln drwy adrodd ei phrofiad o fynd drwy'r system cyfiawnder troseddol i gefnogi dioddefwyr eraill.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Maggie Blyth, cydlynydd trais yn erbyn menywod a merched Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu:
“Diolch i bawb sy'n gweithio ym maes plismona ac sy'n canolbwyntio ar wneud cymdeithas yn fwy diogel i fenywod a merched.
“Mae cael paneli beirniadu rhanbarthol a chenedlaethol sy'n cynnwys arbenigwyr o faes plismona a thu hwnt wedi ein helpu'n fawr i ganolbwyntio ar enillwyr sydd wedi dangos dealltwriaeth o'r hyn y mae dioddefwyr am ei gael ac yn ei ddisgwyl, ond hefyd o weithgaredd sy'n gynaliadwy. Dim ond drwy fodelu'r gwaith ardderchog hwn y gallwn obeithio cyflawni cysondeb ar gyfer menywod a merched yn ein heddluoedd.
“Dangosodd y cynigion hefyd sut rydym yn mynd ar drywydd troseddwyr ac yn dangos iddynt nad oes lle iddynt guddio. Rydym i gyd am i blismona gyflawni mwy ac er bod llawer mwy i'w wneud, rwy'n falch iawn o ansawdd y gwaith sy'n mynd rhagddo.”