Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfleuster triniaeth arbenigol yw Man Cymorth Abertawe, sy'n rhoi gofal i bobl sy'n agored i niwed ac angen triniaeth Cymorth Cyntaf. Wedi'i leoli ym maes parcio Y Strand yng nghanol dinas Abertawe, mae'n cynnwys staff nyrsio, parafeddygon, Ambiwlans Sant Ioan, yr heddlu a myfyrwyr-wirfoddolwyr / gwirfoddolwyr cefnogi ar gyfer Heddlu De Cymru.
Mae'r Man Cymorth ar agor bob dydd Mercher a dydd Sadwrn o 10pm tan 4am, yn ogystal â diwrnodau allweddol eraill drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys Farsiti, Diwrnod Beaujolais, gwyliau banc a digwyddiadau chwaraeon allweddol.
Yn ogystal â thriniaeth feddygol, gall ymwelwyr a ddaw i'r Man Cymorth gael mynediad at wefrwyr ffonau symudol a dŵr, sy'n ei wneud yn le diogel i unrhyw un mewn sefyllfa sy'n agored i niwed os byddech yn mynd i Abertawe un noson.
Mae Bysiau Diogelwch Caerdydd yn patrolio canol y ddinas bob nos Fercher yn ystod y tymor academaidd, a bob nos Wener a nos Sadwrn drwy'r flwyddyn. Mae'n cefnogi pawb yn yr economi liw nos a all fod yn agored i niwed, ac nid yw'n gyfyngedig i fyfyrwyr yn unig. Mae'r bysiau o gwmpas hefyd ar ddyddiau amrywiol pan fydd 'digwyddiad' megis Farsiti, Pride, a digwyddiadau chwaraeon a cherddoriaeth.
Mae'r bysiau, sydd wedi'u staffio gan swyddogion a gwirfoddolwyr, yn cario hanfodion megis citiau Cymorth Cyntaf, gwefryddion ffôn a dŵr. Mae'r fenter wedi helpu i sicrhau bod cannoedd o bobl sydd mewn sefyllfa lle maent yn agored i niwed neu lle mae eu diogelwch personol yn wynebu risg, yn cyrraedd eu cartref neu leoliad diogel arall, megis y Ganolfan Triniaeth Alcohol.
Ers mis Medi 2022, mae dros 700 o bobl wedi cael eu helpu gan dimau'r Bws Diogelwch, gyda gwirfoddolwyr Heddlu De Cymru yn rhoi 2,400 o oriau o'u hamser i helpu i gadw pobl sy'n mynd i'r dafarn, myfyrwyr ac ymwelwyr eraill i ganol y ddinas yn ddiogel.
Oherwydd eu lleoliad yng nghanol y ddinas, cafodd y bysiau eu hystyried yn fysiau diogelwch i fyfyrwyr yn y gorffennol, ond rydym yn annog unrhyw un sydd mewn sefyllfa lle maent yn agored i niwed, waeth beth yw eu hoedran neu eu rhyw, i ofyn i'r tîm am help.
Y tu allan i ddiwrnodau penodol y patrôl, bydd y tîm yn hysbysebu argaeledd y bysiau ar gyfryngau cymdeithasol (edrychwch Heddlu De Cymru Caerdydd a'r Fro ar Facebook), felly mae'n syniad da i chi gael golwg ar y rhain cyn mynd allan am y noson.
Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda staff bariau, staff drysau, Bugeiliaid y Stryd a swyddogion tacsi, ymhlith eraill, a all gyfeirio'r cyhoedd at dîm y Bws Diogelwch. Gall y partneriaid hyn hefyd gysylltu â'r Bysiau Diogelwch ar ran yr unigolyn os tybir bod angen gwneud hynny.
Ym mis Hydref 2021, lansiodd Heddlu De Cymru a Rhwydwaith LGBT+ Heddlu De Cymru bartneriaeth sydd â'r nod o annog aelodau o'r gymuned LGBT+ i roi gwybod am droseddau casineb. Cynhelir digwyddiadau rheolaidd yn y lleoliadau LHDT+ yng nghanol dinas Caerdydd er mwyn i aelodau'r gymuned a phobl sy'n gweithio yn y lleoliadau roi adborth i Heddlu De Cymru ar unrhyw densiynau neu bryderon, cael tawelwch meddwl a chefnogaeth.
Rydym hefyd yn gweithio gyda safleoedd trwyddedig ym mhob rhan o ganol y ddinas er mwyn helpu i uwchsgilio eu staff ar faterion yn ymwneud â'r gymuned LGBT+ a throseddau casineb fel y bydd y sefyllfa o ran canfod troseddau a rhoi gwybod amdanynt yn gwella ymhellach.
Tacsis a cherbydau hurio preifat
Os ydych chi'n mynd allan, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynllunio ymlaen llaw i sicrhau eich bod chi'n cyrraedd adref yn ddiogel.
Ni ddylai gyrru fyth fod yn opsiwn os ydych chi wedi bod yn yfed felly mae trafnidiaeth gyhoeddus, tacsis a cherbydau hurio preifat yn ddewisiadau da.
Ond mae yna bob amser rhagofalon y gallwch eu cymryd i sicrhau eich bod yn defnyddio gweithredwyr trwyddedig yn unig.
Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am drwyddedu ac mae gwastad yn werth edrych ar eu gwefannau am fanylion am eu hamodau trwyddedu, sut i adnabod cerbyd trwyddedig, lleoliadau safle tacsi swyddogol ac awgrymiadau ar gyfer teithio yn ddiogel.
Er y gall rhai manylion fod yn wahanol yn dibynnu ar ardal, mae dilyn y camau hyn yn ddoeth waeth ble rydych chi'n teithio:
Bydd pob awdurdod lleol yn gweithredu gweithdrefn gwyno, ond dylai unrhyw faterion troseddol gael eu hadrodd i'r heddlu hefyd.
Cysylltiedig: