Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:29 22/10/2021
Mae mwy na 460 o bobl wedi cael help i gyrraedd man diogel diolch i Fws Diogelwch Caerdydd.
Mae dau fws diogelwch wedi bod yn rhedeg bob nos drwy gydol cyfnod y Glas i ddod o hyd i unigolion agored i niwed ar eu pen eu hunain a'u helpu i fynd adref yn ddiogel.
Bydd y bysiau yn parhau i redeg ar y nosweithiau prysuraf.
Dywedodd y swyddog cyswllt myfyrwyr, PC Michael Neate: “Mae'r bysiau wedi helpu 20 o bobl bob nos ar gyfartaledd. Roedd rhai yn feddw iawn ac yn wynebu risg amlwg i'w diogelwch personol.
“Mae'r fenter hon unwaith eto wedi ein galluogi i nodi'r rheini sydd mewn amgylchiadau bregus ac sydd â'r angen mwyaf, a'u helpu i gyrraedd diogelwch eu cartrefi neu'r Ganolfan Triniaeth Alcohol.”
Bob blwyddyn, mae myfyrwyr-wirfoddolwyr Heddlu De Cymru yn cydweithio â swyddogion yr heddlu ar deithiau crwydr yn rheolaidd, gan ymweld â neuaddau preswyl a llety preifat i groesawu miloedd o fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i Gaerdydd.
Eleni, ymwelwyd â bron i 8,000 o fyfyrwyr i'w hysbysu am y troseddau lleol sy'n digwydd ar hyn o bryd a'r ffordd orau o gadw eu hunain yn ddiogel.
Cânt eu hatgoffa hefyd y dylent ymddwyn yn dda a bod yn gymdogion ystyriol.
Ychwanegodd PC Neate: “Rydym o'r farn mai siarad wyneb yn wyneb â phobl yw'r ffordd orau o rannu negeseuon a gobeithio y bydd y wybodaeth a ddarparwn wrth i ni fynd o ddrws i ddrws yn helpu i leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae gan Gaerdydd draddodiad balch o weithio mewn partneriaeth sy'n cyfrannu at gadw'r ddinas yn ddiogel, ac ni fyddai'n bosibl i ni gyrraedd cynifer o fyfyrwyr heb y myfyrwyr-wirfoddolwyr sy'n gwneud gwaith gwych.
“Ym mis Medi yn unig, gweithiodd ein gwirfoddolwyr fwy na 1,000 o oriau ar ein hymgyrch Myfyrwyr Diogel, gan roi o'u hamser personol i'r Bysiau Diogelwch, digwyddiadau croeso yn y neuaddau preswyl a theithiau crwydr i atal troseddau.”
Ceir rhagor o wybodaeth am Ymgyrch Myfyrwyr Diogel Heddlu De Cymru ar ein gwefan.
Ni fyddai'r ymgyrch yn bosibl heb gefnogaeth Prifysgolion y ddinas a phartneriaid yr economi liw nos.