Stamp amser presennol: 17/07/25 07:00:27
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Dioddefwr pornograffi dial wedi'i thrawmateiddio yn pledio â phobl i feddwl yn ofalus cyn rhannu lluniau o natur bersonol

Cynnwys y prif erthygl

Abertawe/Castell-nedd Port Talbot Caerdydd/Bro Morgannwg RhCT/Merthyr/Pen-y-bont ar Ogwr Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 16:18 14/11/24

“Roeddwn i'n teimlo'n sâl wrth wybod y gallai unrhyw un fy ngweld. Roeddwn i'n caru'r unigolyn ac yn ymddiried ynddo a chefais fy mradychu ganddo. Gwnaeth i mi deimlo fel fy mod wedi gwneud rhywbeth afiach ac y byddai pawb yn fy meirniadu, yn hytrach na beirniadu'r unigolyn a wnaeth hyn i mi.”

 

Dyma eiriau Elizabeth, dioddefwr ifanc yr hyn a elwir yn bornograffi dial.

Er bod ei phrofiad wedi'i thrawmateiddio, mae Elizabeth yn awyddus i siarad am yr hyn y mae wedi'i ddioddef – ac yn parhau i'w ddioddef – yn y gobaith o godi ymwybyddiaeth o'r gyfraith mewn perthynas â cham-drin drwy luniau o natur bersonol ac effeithiau hirdymor y drosedd greulon.

“Roeddwn i wedi bod mewn perthynas â rhywun roeddwn i'n ei garu ac yn ymddiried ynddo ers tua phedair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwnaethon ni anfon lluniau o natur bersonol at ein gilydd, fel mae llawer o bobl yn ei wneud.

“Yn hynny o beth, doedden ni ddim yn gwneud dim o'i le; roedden ni'n oedolion cydsyniol a dim ond ni'n dau oedd fod i weld y lluniau hynny.”

Ond pan wahanodd y ddau, gwnaeth ei chynbartner fygythiadau i chwalu ei bywyd ac anfon y lluniau at ei chydweithwyr.

“Gwyddai mai dim ond ers rhai misoedd roeddwn i wedi dechrau yn fy swydd a fy mod i'n frwdfrydig iawn amdani a'i bod yn golygu llawer i mi. Ond roedd am godi cywilydd arnaf.

“Dywedais wrth fy nheulu a'm cydweithwyr, a rhoi gwybod i'r heddlu am y bygythiadau, ond ceisiais ei roi yng nghefn fy meddwl a symud ymlaen. Roeddwn i'n gobeithio mai dim ond bygythiadau gwag oedden nhw.”

Ond yn fuan wedyn, sylweddolodd Elizabeth nad oedd hynny'n wir.

“Cefais neges gan rywun yn dweud ei fod wedi gweld lluniau ohonof ar-lein. Roedd dau lun ar ddau safle gwahanol, ond roedd yn amlwg mai fi oedd ynddynt. Roeddwn i'n teimlo embaras llwyr.

“Gwnes i riportio'r lluniau i'r safleoedd, ond sylweddolais yn fuan wedyn eu bod yn cael eu tynnu oddi arnynt a'u lanlwytho eto rai diwrnodau'n ddiweddarach.

“Rhoddais wybod i'r heddlu a chafodd fy mhartner ei arestio. Ond hyd yn oed wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo, roedd yn parhau.

“Gwaethygodd y sefyllfa pan ofynnodd fy ffrind gorau a oeddwn ar Only Fans neu unrhyw beth felly am fod ei phartner wedi cael dolen a oedd yn cynnwys fy enw. Pan edrychais, roedd chwe llun a dau fideo ohonof, ac roedd fy manylion personol yno hefyd.

“Roeddwn i am i'r ddaear fy llyncu. Ar ben hyn, dechreuais ofni am fy niogelwch am fod y safleoedd yn nodi lle roeddwn yn byw, ac roedd pobl nad oeddwn i'n eu hadnabod yn anfon cais ffrind i mi ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Effeithiodd hyn arnaf yn fawr ac roeddwn i ffwrdd o'r gwaith am dri mis oherwydd y straen. Roedd yn rhaid i mi gael sesiynau cwnsela er mwyn fy helpu i ddelio â phopeth, a gwnaeth hynny wahaniaeth mawr. Yn ffodus, roedd fy nghydweithwyr yn gefnogol iawn, ond roedd y sefyllfa yn hunllef o hyd.”

Er bod Elizabeth yn parhau i roi gwybod am ddigwyddiadau newydd i'r gwefannau perthnasol a'r heddlu, mae'n dweud ei bod bellach wedi gorfod derbyn nad oes unrhyw ffordd o gael y lluniau na'r fideos a gyhoeddwyd yn ôl, ac mae'n annog eraill i feddwl ddwywaith cyn rhannu cynnwys o natur bersonol.

“Rwy'n gwybod na fydd y mater hwn yn dod i ben. Mae fy lluniau allan yno bellach ac mae'n debygol y byddant yno bob amser. Wnes i ddim o'i le, anfonais y lluniau at rywun roeddwn i'n ei garu; doedd dim bwriad gen i i bobl ddieithr eu gweld na'u rhoi ar y we i bawb eu gweld. Doeddwn i ddim yn haeddu cael fy nhrin fel darn o gig.

“Mae'n deimlad ofnadwy gwybod y gallaf sefyll wrth rywun mewn siop, rhywun nad ydw i'n ei adnabod, ond sydd wedi fy ngweld i'n noeth. Mae'n gwneud i chi deimlo'n fregus iawn. Ac rwy'n gwybod y bydd pobl yn fy meirniadu, ond mewn gwirionedd dylen nhw feirniadu'r unigolyn a oedd yn credu ei bod yn iawn rhannu'r lluniau. Chwalodd fy ymddiriedaeth yn y ffordd waethaf gan fy nad-ddynoli yn llwyr.

“Wrth geisio sicrhau bod fy lluniau yn cael eu dileu oddi ar y safleoedd, gwelais ferched lleol eraill nad oeddent yn ymwybodol eu bod wedi cael eu bradychu fel hyn o bosibl. Felly roedd rhaid i mi gysylltu â nhw – dyna oedd y peth cywir i'w wneud. Ac ar ôl sylweddoli pa mor gyffredin yw hyn, rwy'n teimlo bod yn rhaid i mi siarad drosom. Er mwyn sicrhau bod gennym ni lais unwaith eto.

“Dyma fy ffordd i o gymryd rheolaeth o'r sefyllfa eto, gan ail-gipio'r pŵer gan yr unigolyn a wnaeth hyn i mi.”

Cafodd datgelu neu fygwth datgelu lluniau preifat o natur rywiol gyda'r bwriad o achosi gofid ei wneud yn drosedd o dan Adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd (2015).

Ym mis Ionawr eleni, cafodd diwygiadau eu gwneud i Ddeddf Troseddau Rhywiol (2003), gan ddisodli'r ddeddfwriaeth flaenorol. Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn cydnabod amrywiaeth ehangach o droseddau cam-drin personol, a dylai fod yn haws i erlynwyr sicrhau euogfarn ac i ddioddefwyr sicrhau cyfiawnder.

“Rwyf am i unrhyw un sy'n meddwl bod rhannu lluniau personol fel hyn yn iawn, yn hwyl ddiniwed, sylweddoli pa mor ddinistriol y gall fod. Ac unwaith y maen nhw allan yno, mae bron yn amhosibl eu cael yn ôl.

“Os gall siarad am y mater hwn atal un ferch arall rhag dioddef yr hyn rwyf i wedi'i ddioddef, yna bydd yn werth ei wneud.”

 

Gwybodaeth a cymorth

Gwybodaeth a chyngor am gam-drin delweddau personol - a elwir hefyd yn porn dial - gan gynnwys dolenni i wasanaethau cymorth a all hefyd helpu i gael y lluniau i lawr.

 

Cysylltiedig

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y gyfraith sy'n ymwneud â phobl ifanc dan 18 oed a 'secstio', blacmel rhywiol, a dolenni i asiantaethau cymorth yma.

 

Gweli Fi

Mae menywod a merched yn dioddef achosion o drais a cham-drin i raddau anghymesur, a gallant ddioddef dan ddwylo partner, cyn-bartner neu aelod o'r teulu a dieithryn weithiau.
Mae Heddlu De Cymru wedi gweithio gyda menywod a merched sy'n byw yn Ne Cymru ac wedi rhannu eu profiadau bywyd drwy ymgyrch Gweld Fi. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth ac annog pawb i wrthwynebu pob math o gam-drin, a dwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif er mwyn i ni allu sicrhau bod gennym gymdeithas lle mae menywod a merched yn ddiogel.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.