Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddlu De Cymru yw'r heddlu prysuraf yng Nghymru. Mae'n darparu gwasanaeth plismona i 1.3 miliwn o bobl – 42% o boblogaeth Cymru, gan reoli tua 43% o gyfanswm nifer y troseddau yng Nghymru.
Oherwydd natur eu gwaith, mae swyddogion yr heddlu yn gorfod delio'n achlysurol ag amgylchiadau lle mae'n briodol defnyddio pwerau stopio a chwilio. Gall defnyddio'r pwerau hyn yn gyfreithlon atal digwyddiadau mwy difrifol neu atal niwed i'r cyhoedd a'r unigolyn dan sylw. Mae'n bwysig nodi bod y mwyafrif helaeth o achosion o rym a ddefnyddir yn Ne Cymru yn cynnwys cyfathrebu tactegol geiriol a rhoi gefynnau ar ddwylo pobl sy'n cael eu harestio.
Mae ein swyddogion yn wynebu sefyllfaoedd anodd bob dydd.
Diolch byth, dim ond mewn nifer bach o'r sefyllfaoedd hyn y bydd yn rhaid i swyddogion yr heddlu ddefnyddio grym, boed hynny i ddiogelu'r cyhoedd, cadw trefn neu gadw eu hunain rhag niwed.
Cânt eu hyfforddi'n helaeth i ddefnyddio'r grym hwn yn gymesur, yn gyfreithlon a dim ond pan fydd yn gwbl angenrheidiol.
Mae'r mathau o rym y gall yr heddlu eu defnyddio yn cynnwys:
Gefynnau
Chwistrellwyr llidiog
Gynnau Taser*
Batonau
Arfau tanio*
Defnyddio ci
*Gall y defnydd o ynnau taser ac arfau tanio gynnwys adegau pan fyddant wedi'u hanelu at rywun, ond heb eu tanio.
Gall swyddog yr heddlu neu swyddog cymorth cymunedol yr heddlu mewn iwnifform eich stopio chi ond dim ond swyddogion yr heddlu all gynnal chwiliad corfforol. Nid oes rhaid i swyddogion yr heddlu fod mewn iwnifform ond mae'n rhaid iddynt ddangos ei gerdyn gwarant i chi. Gallant gynnal chwiliad corfforol neu chwiliad o unrhyw beth rydych yn ei gario a cherbyd.
Efallai y dewch ar draws achosion gwahanol o stopio. Er mwyn cael mwy o wybodaeth am yr hyn a fydd yn digwydd, cliciwch yma.
I gael cysylltiadau mwy defnyddiol, gweler y canlynol:
Pam rydym yn defnyddio stopio a chwilio
Eich hawliau a'ch cyfrifoldebau
Sut rydym yn defnyddio stopio a chwilio
Ar gyfer data stopio a chwilio Heddlu De Cymru, cliciwch yma.
Ar gyfer data stopio a chwilio eich ardal leol, cliciwch yma.
Mae proses graffu fewnol gadarn a chynhwysfawr ar y Defnydd o Rym a Stopio a Chwilio ar waith yn Heddlu De Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys grwpiau cydlyniant cymunedol, er mwyn sicrhau ein bod mor agored a thryloyw â phosibl am ein dulliau plismona.
Croesewir proses graffu allanol drwy'r defnydd o Grŵp Cynghori Annibynnol yr Heddlu ac aelodau o Grŵp Atebolrwydd a Dilysrwydd Plismona (PALG) Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Mae'r grwpiau hyn yn adolygu ffilmiau o gamerâu fideo wedi'u gwisgo ar y corff o achosion o Stopio a Chwilio ac achosion lle defnyddiwyd grym unwaith bob chwarter o leiaf. Caiff adborth o'r sesiynau hyn ei gasglu a gweithredir arno i wella ein safonau a sicrhau bod ein gwaith plismona yn deg a moesegol.
Mae Grŵp Cynghori Annibynnol yr Heddlu yn cynnwys 28 o drigolion o bob rhan o Dde Cymru. Mae gan yr aelodau hyn rôl allweddol o ran gwella ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn yr heddlu. Mae Gwpiau Cynghori Annibynnol yn annibynnol ar yr heddlu ond yn gweithredu fel ‘cyfeillion beirniadol’ er mwyn helpu i herio ffyrdd confensiynol o feddwl yn yr Heddlu a chynnig safbwynt annibynnol ar faterion cyfredol a ffyrdd o feddwl yn y dyfodol.
Mae Grwpiau Cynghori Annibynnol yn gweithio fel partneriaid gwirioneddol gyda'r Heddlu er mwyn gwella'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, gan ganolbwyntio'n benodol ar amrywiaeth a'r nodweddion gwarchodedig. Caiff pob un o'r naw nodwedd warchodedig eu cynrychioli drwy ein Grŵp Cynghori Annibynnol presennol, a hynny ar lefel bersonol a phroffesiynol.
Mae aelodau'r Grŵp Cynghori Annibynnol yn rhoi o'u hamser i sicrhau bod yr Heddlu'n darparu gwasanaeth o safon. Cânt eu cefnogi gan aelodau o Dîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yr heddlu. Oherwydd natur gyfrinachol y gwaith maent yn rhan ohono, caiff holl aelodau'r Grŵp Cynghori Annibynnol eu fetio at ddibenion diogelwch.
Mae Grŵp Atebolrwydd a Dilysrwydd Plismona yn galluogi sefydliadau allanol ac ymgynghorwyr annibynnol i fod yn gyfeillion beirniadol i Heddlu De Cymru, gan helpu'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ei rôl graffu, a sicrhau bod Heddlu De Cymru yn atebol ac yn dryloyw.
Adolygwyd ddiwethaf: Mai 2022