Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ein swyddogion yn wynebu sefyllfaoedd anodd bob dydd.
Diolch i’r drefn mai dim ond canran fechan o’r sefyllfaoedd hyn fydd yn golygu bod yn rhaid i swyddog ddefnyddio grym, boed hynny er mwyn amddiffyn y cyhoedd, cynnal trefn neu i gadw ei hun rhag niwed.
Mae swyddogion wedi’u hyfforddi’n eang i ddefnyddio’r grym hwn yn gymesur, yn gyfreithlon a dim ond pan fod hynny’n hollol angenrheidiol.
Pan fo grym wedi’i ddefnyddio yn erbyn unigolyn, mae’n ofynnol bod ein swyddogion yn cofnodi hyn.
Mae hyn yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael ein dal i gyfrif, bod unrhyw batrymau’n cael eu nodi ac y gellir deall unrhyw broblemau o ran hyfforddiant, offer neu faterion diogelwch. Mae hyn i gyd yn gwneud yn siŵr bod ein defnydd o rym yn addas at y diben.
Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys unrhyw fath o ataliaeth, defnydd o efynnau, Taser neu chwistrell lidus.
Bydd swyddogion dim ond yn cofnodi cyfathrebu tactegol (swyddog yn siarad â’r unigolyn dan sylw) pan defnyddir yn ogystal â defnydd arall o rym. Mae’r ffigur hwn yn dangos y bydd ein swyddogion yn ceisio tawelu’r sefyllfa er mwyn cael yr unigolyn i gydymffurfio cyn symud ymlaen i ddefnydd arall o rym.
Os mai dim ond cyfathrebu tactegol a ddefnyddir, ni chaiff ei gofnodi fel defnydd grym.
Rydym yn monitro’n agos nifer y cwynion yr ydym yn eu derbyn o ganlyniad i swyddogion yn defnyddio grym.