Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydych chi am wneud gwahaniaeth yn eich swydd? Yna gallai bod yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu fod yn ddewis da i chi.
PCSO yw’r cyswllt hanfodol hwnnw rhwng y gymuned a gwasanaeth yr heddlu er mwyn helpu i wneud yn siŵr bod gan bawb y cymorth sydd ei angen arnynt. Gall bod yn PCSO fod yn heriol ond mae hefyd yn rôl sy’n cynnwys amrywiaeth, ystyr a chyffro.
Byddwch yn cefnogi plismona rheng flaen drwy gyflawni tasgau megis rhwystro goryrru y tu allan i’n hysgolion, rhoi gwybod am fandaliaeth, neu leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, bydd eich gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth gadw De Cymru yn ddiogel.
Fel PCSO, byddwch yn gweithio yng nghanol ein cymunedau gan ddarparu presenoldeb mewn lifrai sy'n weladwy, yn hygyrch ac yn hawdd mynd atoch. Mae'n hanfodol eich bod yn gallu dangos y rhinweddau canlynol:
Rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf i ddod yn PCSO. Nid oes terfyn oedran uchaf.
Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i ymuno â'r heddlu o hyd os bydd gennych fân rybuddion/euogfarnau, ond bydd rhai troseddau ac amodau yn eich gwneud yn anghymwys. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sydd wedi cael rhybudd ffurfiol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, neu sydd wedi cyflawni trosedd dreisgar neu drosedd trefn gyhoeddus. Wrth wneud ein penderfyniadau, cawn ein llywio gan Feini Prawf Cymhwysedd 03/2012 yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Gwella Plismona ar gyfer rôl cwnstabl yr heddlu 2019.
Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, dinesydd y Gymanwlad neu'n wladolyn tramor heb gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y Deyrnas Unedig. Hefyd, rhaid eich bod wedi bod yn byw yn y DU am gyfnod di-dor am dair blynedd yn union cyn gwneud cais. Mae hyn er mwyn bodloni'r gofyniad i fetio pob ymgeisydd mewn modd teg ac nid oes gan wasanaeth Heddlu'r DU ar hyn o bryd unrhyw ffordd o hwyluso profion fetio dramor i'r un graddau sy'n angenrheidiol ar gyfer y rheini sydd wedi bod yn byw yn y DU. Ni allwn benodi ymgeiswyr nad ydynt wedi cael eu fetio.
Caiff statws ariannol pob ymgeisydd ei gadarnhau. Cynhelir y gwiriadau hyn am fod gan Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu fynediad i wybodaeth freintiedig, a all eu gwneud yn agored i lygredigaeth. Gwrthodir unrhyw ymgeiswyr y mae ganddynt ddyfarniadau Llys Sirol cyfredol yn eu herbyn, neu sydd wedi'u cofrestru'n fethdalwyr â dyledion heb eu talu. Os bydd gennych ddyledion methdalu sydd wedi'u gollwng, yna bydd angen i chi ddarparu Tystysgrif Boddhad gyda'ch cais. Ni chaiff ymgeiswyr sy'n destun Trefniant Gwirfoddol Unigol (IVA) cyfredol eu hystyried.
Mae gan Heddlu De Cymru bolisi o wahardd unrhyw un o'n swyddogion rhag bod yn aelodau o Blaid Genedlaethol Prydain, neu sefydliad tebyg y gall ei nodau, ei amcanion neu ei ddatganiadau fod yn groes i'r dyletswyddau i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Os ydych yn aelod o Blaid Genedlaethol Prydain neu wedi bod yn rhan ohoni yn flaenorol, mae'n bosibl y caiff eich cais ei wrthod.
Er mwyn ymuno â'r heddlu yn y rôl hon, mae angen cymhwyster lefel 2 neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg (Gradd A-C). Noder y bydd angen i chi
lanlwytho tystiolaeth o'ch tystysgrif Mathemateg a Saesneg lefel 2 pan fyddwch yn cyflwyno eich cais. Os nad ydych yn meddu ar dystysgrif ddilys, rhaid i chi gael un cyn dechrau'r broses gwneud cais. Os nad oes gennych gymhwyster lefel 2, neu os nad oes gennych gopi o'ch tystysgrif, bydd angen i chi sefyll prawf ar-lein a fydd yn profi eich gallu academaidd i weithio ar lefel 2. Os byddwch yn cwblhau'r prawf ar-lein yn llwyddiannus, gallwch fwrw ati gyda'r broses gwneud cais.
Bydd ymgeiswyr â thatŵau gweladwy yn gymwys i gael eu penodi o bosibl.
Caiff pob achos ei ystyried yn unigol, gan ystyried nifer, natur, maint, amlygrwydd, ymddangosiad a lleoliad y tatŵau. Ni ddylai'r tatŵau fod yn dramgwyddus i gydweithwyr nac aelodau o'r cyhoedd nac ychwaith danseilio urddas eich rôl yn yr Heddlu. Caiff tatŵau ar y gwddf, yr wyneb neu'r dwylo eu hystyried yn annerbyniol o hyd, ond mae'n bosibl y rhoddir ystyriaeth o dan rai amgylchiadau, o ystyried maint, natur, ac amlygrwydd y tatŵ. Os bydd ymgeiswyr yn dewis cael unrhyw datŵau ychwanegol yn ystod y broses recriwtio, ar ôl cwblhau'r gwiriadau cymhwysedd, yna mae ganddynt gyfrifoldeb i roi gwybod i'r Adran Adnoddau Dynol a rhoi ffotograffau addas y bydd angen eu harchwilio.
Mae ymuno â'n Heddlu fel PCSO yn ffordd heriol a gwerth chweil o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl De Cymru. Fel PCSO, byddwch yn gweithio gydag aelodau o'r cyhoedd yn barhaus, yn meithrin cydberthnasau â chyflogwyr, arweinwyr busnes a chymunedau, a chewch bwerau cyfyngedig sy'n addas ar gyfer eich rôl.
Fel PCSO, ni fyddwch yn ymchwilio i droseddau difrifol, yn cynnal cyfweliadau nac yn cyflawni tasgau mwy cymhleth a risg uchel y mae Swyddogion yr Heddlu yn eu cyflawni. Fodd bynnag, byddwch yn chwarae rôl hanfodol wrth leihau troseddau ledled De Cymru.
Gall PCSOs fod yn rhan o'r canlynol:
Mae 20 o bwerau safonol ar gyfer PCSOs.
Mae'r pwerau hyn yn caniatáu i PCSO wneud y canlynol:
Oes modd i mi weithio rhan amser fel PCSO?
Gallwch, os ydych yn llwyddiannus gallwch wneud cais i weithio rhan amser. Caiff eich cyflog, a hawliau eraill megis gwyliau eu haddasu ar sail pro rata.
Fel PCSO a fyddaf yn cario'r un offer a swyddog yr heddlu?
Nid yw PCSOs yn cario pastwn, chwistrell CS na gefynnau llaw fel swyddogion yr heddlu. Y rheswm am hyn yw eu bod yn cyflawni rôl gwbl wahanol ac ni fydd disgwyl iddynt ymdrin â sefyllfaoedd heriol lle gallant fod eu hangen. Fodd bynnag, caiff pob PCSO radio, fel y gallant ddefnyddio systemau cyfathrebu'r heddlu a gofyn am gymorth yr heddlu.
A yw PCSOs yn cymryd lle swyddogion yr heddlu?
Mae gan PCSOs rôl wahanol iawn i swyddogion yr heddlu. Ni fwriedir iddynt gymryd lle swyddogion yr heddlu, ond eu helpu i fynd i'r afael â materion ansawdd bywyd ac anghenion y gymuned. Maent yn ychwanegiad hollbwysig i'r teulu plismona, a byddant yn mynd i'r afael â thasgau lle nad oes angen y profiad na'r pŵer arestio sydd gan swyddog yr heddlu.
Pam bod gan PCSOs iwfans sifft a phenwythnos?
Caiff PCSOs eu cyflogi o dan delerau ac amodau gwahanol i swyddogion yr heddlu, felly gallant fod yn gymwys i gael taliadau ychwanegol os ydynt yn gweithio patrwm sifft penodol ar sail rota. Yn y bôn, mae'r hawl yn golygu y gall PCSOs gael eu rhoi ar y rota pan fydd eu hangen.
Gallwch gwblhau'r ymarferion ar unrhyw declyn sydd â'r rhyngrwyd gyda chamera (gliniadur, llechen neu ffôn), ond er mwyn sicrhau cydnawsedd llawn gyda'r llwyfan ar-lein, dylai'r canlynol gael ei osod:
Byddai’n ddoeth cwblhau’r broses ymgeisio gyfan ar yr un ddyfais gan y bydd y cyfeiriadau IP yn gwrthdaro os ydych chi’n penderfynu newid dyfeisiau ar ôl i chi ddechrau a gallai hyn eich atal rhag parhau â’ch cais. Felly, fe’ch cynghorir i beidio â chwblhau eich cais yn y gwaith.
Fe’ch cynghorir i beidio â defnyddio dyfeisiau symudol, megis llechi neu ffonau symudol, gan nad ydynt yn gydnaws â’r profion ar-lein y mae’n rhaid eu cwblhau. Gallwn ond ailosod profion unwaith i bob ymgeisydd.
Cynghorir ymgeiswyr hefyd i gadw llygad ar eu blwch post “sothach” am negeseuon e-bost yn rhoi’r newyddion diweddaraf gan y system.
Y cam cyntaf fydd proses ymgeisio ar-lein sy’n cynnwys rhywfaint o gwestiynau sylfaenol. Os byddwch chi'n pasio'r cam hwn bydd gofyn i chi gwblhau sawl prawf ar-lein a ffurflen gais. Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau dau brawf (ni waeth beth fo’i gymwysterau), sef Prawf Barnu Sefyllfa a Holiadur Ymddygiad. Mae’n rhaid llwyddo yn y ddau ohonynt er mwyn parhau â’r broses ymgeisio.
Mae Holiadur Arddulliau Ymddygiad yr Heddlu yn mesur eich ymddygiad a'ch dewisiadau arferol yn y gwaith. Diben yr holiadur yw asesu a oes gennych yr ymddygiadau a'r agweddau cywir i fod yn effeithiol yn eich swydd. Mae'r holiadur yn eich gwahodd i adolygu nifer o ddatganiadau a nodi pa ddatganiadau rydych yn cytuno'n llwyr/anghytuno'n llwyr â nhw ar raddfa symudol.
Yn yr holiadur, cyflwynir y datganiadau hyn am eich ymddygiad arferol yn y gwaith mewn blociau o bedwar. Bydd angen i chi ddarllen pob datganiad yn ofalus ac yna benderfynu i ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r datganiad gan ddefnyddio'r raddfa isod.
Yn dibynnu ar eich ymatebion, mae'n bosibl hefyd y gofynnir i chi raddio datganiadau penodol o ran pa mor dda y maent yn disgrifio eich ymddygiad arferol yn y gwaith. Nid oes cyfyngiad amser, ond dylai gymryd tua 15-20 munud i gwblhau'r holiadur. Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol arnoch i gwblhau'r prawf.
Mae Prawf Barn Sefyllfaol yr Heddlu yn asesu eich sgiliau i lunio barn a gwneud penderfyniadau mewn perthynas â sefyllfaoedd sy'n ymwneud â'r swydd. Yn y prawf, cyflwynir cyfres o senarios i chi a fydd yn adlewyrchu sefyllfaoedd heriol y gallech eu hwynebu wrth weithio fel PCSO. Cyflwynir pedwar cam posibl ar gyfer pob senario i chi. Gofynnir i chi raddio pob un o'r pedwar cam o ran ei heffeithiolrwydd i fynd i'r afael â'r senario. Dangosir y raddfa y dylid ei
defnyddio i raddio'r camau isod.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol arnoch i gwblhau'r prawf. Dylai eich ymatebion fod yn gwbl seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynir ym mhob senario.
Os nad oes gennych gymhwyster Lefel 2 neu uwch, mae’n rhaid i chi hefyd lwyddo mewn prawf rhesymu a chyfrifo mathemateg llafar. Bydd hyn yn profi eich gallu academaidd hyd at Lefel 2.
Os byddwch yn cwblhau'r profion ar-lein yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i gael cyfweliad.
Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar y cymwyseddau a'r gwerthoedd sydd wedi'u cynnwys yn y proffil rôl a oedd yn gysylltiedig â'r hysbyseb, ac sydd hefyd yn bwysig i Heddlu De Cymru.
Defnyddiwch enghreifftiau o'ch bywyd gwaith, cymdeithasol, cartref neu addysgol i ateb y cwestiynau cyfweliad. Yn yr enghreifftiau hyn rydym yn chwilio am dystiolaeth benodol o ymddygiadau cymhwysedd sy'n gweddu i werthoedd ein sefydliad.
Byddwch yn benodol: rydym am wybod yr hyn y gwnaethoch CHI ei ddweud neu ei wneud ar adeg benodol i ymdrin â'r sefyllfa. Felly, mae'n bwysig bod yr enghreifftiau rydych yn eu rhoi yn sôn am eich profiadau chi ac mor fanwl â phosibl.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, byddwn yn dechrau cynnal gwiriadau cyn cael eich cyflogi.
Weithiau, bydd plismona yn rôl sy'n gofyn llawer yn gorfforol, felly bydd angen i chi fod mewn cyflwr corfforol da i basio'r prawf ffitrwydd. Bydd y prawf yn mesur a yw lefel eich ffitrwydd yn ddigon da.
Ar gyfer y prawf gwydnwch, gofynnir i chi redeg yn ôl ac ymlaen ar hyd trac 15 metr yn unol â chyfres o synau blipio. Wrth i'r prawf fynd yn ei flaen, bydd y blipiau yn cyflymu i lefel 5.4.
Bydd gofyn i chi fynychu prawf ffitrwydd cyn penodi hefyd, cyn y dyddiad penodi disgwyliedig, a bydd yn rhaid i chi basio hwn er mwyn i'ch cais symud yn ei flaen.
O ganlyniad i natur gwaith plismona, mae ffitrwydd ac iechyd da yn hollbwysig. Fodd bynnag, croesawir ceisiadau gan bobl sydd ag anableddau a gwneir pob ymdrech i wneud addasiadau rhesymol yn ôl y gofyn.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam cyfweld, byddwch yn cael archwiliad meddygol.
Ceir anhwylderau a chyflyrau meddygol penodol y gallent gael effaith niweidiol ar eich gallu i gyflawni'r rôl mewn ffordd effeithiol; ystyrir pob achos yn ofalus fel rhan o'r broses feddygol.
Wrth gael prawf llygaid, rhaid i recriwtiaid newydd gael golwg 6/12 yn eu llygaid dde neu chwith, neu o leiaf golwg 6/6 yn y ddwy lygad. Rhaid i'r rhai sy'n gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd gael golwg 6/36 yn y ddwy lygad pan na fyddant yn gwisgo'u sbectol neu eu lensys cyffwrdd.
Asesir ystod eich pwysau yn ystod eich asesiad meddygol. Mae'r ystod pwysau iach yn seiliedig ar fesur a elwir eich mynegai màs y corff (BMI). Gellir darganfod hwn os ydych yn gwybod eich pwysau a'ch taldra. Y cyfrifiad yw eich pwysau (mewn cilogramau) wedi'i rannu gyda'ch taldra (mewn metrau sgwâr). Gellir gweld canllawiau a siartiau hawdd i'w defnyddio ynghylch sut i gyfrifo'ch BMI ar wefan GIG.
Mae GIG yn cynghori bod BMI o 18.5 i 24.9 yn awgrymu pwysau iach normal. Mae hyn yn golygu nad yw eich corf mewn perygl o ddioddef clefyd sy'n gysylltiedig â'ch pwysau.
Y Swyddfa Gartref sy'n pennu'r safonau BMI. Mae cylchlythyr 59/2004 cyfredol y Swyddfa Gartref yn nodi bod hyn rhwng 18 a 30. Os nad yw ymgeiswyr yn cyrraedd y safon hon, efallai y bydd cais yn cael ei ohirio neu ni chânt eu penodi. Ni chaiff ymgeiswyr PCSO sydd â BMI dros 32 eu hystyried yn addas oni bai bod eu canran braster yn llai na 30% i ddynion neu'n 36% i fenywod. Bydd methu â chyrraedd y safonau meddygol a golwg yn golygu na allwch gael eich penodi.
Byddwch yn cwblhau ffurflenni mewn perthynas â gwybodaeth fetio diogelwch, a chaiff gwiriadau a chliriadau eu cwblhau gan ein Hadran Fetio. Rhaid i'n Huned Fetio gynnal gwiriadau cefndirol gan ddefnyddio gwybodaeth a ddarparwyd gennych yn eich cais yn eich erbyn chi a'ch teulu gan ddefnyddio systemau'r Heddlu. Bydd y rhain yn cynnwys euogfarnau/rhybuddion a fetio ariannol.
Mae angen geirdaon i gwmpasu o leiaf 3 blynedd o hanes cyflogaeth barhaus. Os nad ydych wedi bod mewn cyflogaeth ers 3 blynedd byddwn yn ceisio cael geirdaon o fyd addysg a gan bobl sy’n eich adnabod yn bersonol.
Gofynnir i chi gael prawf cyffuriau a darparu gwybodaeth am unrhyw feddyginiaeth yr ydych yn ei chymryd hefyd. Cyflwynwyd deddfwriaeth sy'n mynnu bod ymgeiswyr yn dilyn proses fetio biometrig.
Os byddwch yn methu'r prawf cyffuriau, ni chynigir swydd i chi gyda Heddlu De Cymru. Tynnir yn ôl y cynnig a roddwyd i ymgeiswyr mewnol sy'n methu prawf cyffuriau a gellir defnyddio'r canlyniadau o'r prawf cyffuriau yn unol â Pholisi Disgyblu Staff Heddlu De Cymru a Chod Ymddygiad Staff yr Heddlu.
Ar y dydd, byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen caniatâd er mwyn casglu eich olion bysedd a sampl o'ch DNA at ddibenion archwiliad tybiannol a bod eich olion bysedd a'ch proffil DNA yn cael eu cadw yng Nghronfa Ddata Diddymu yr Heddlu (PEDb).
Diben sicrhau olion bysedd a samplau DNA yw er mwyn gallu cynnal archwiliad tybiannol yn erbyn y cronfeydd lleol a chenedlaethol cyn i chi gael eich penodi i'r heddlu. Diben hyn yw sicrhau nad ydych wedi bod yn destun sylw niweidiol yr heddlu yn flaenorol, nad ydych wedi ein hysbysu ohono, a hefyd, nad oes unrhyw gyswllt rhyngoch chi ac unrhyw safleoedd trosedd heb eu datrys.
Os ydw i'n ymuno â Heddlu De Cymru fed PCSO, allaf drosglwyddo i fod yn swyddog yr heddlu?
Na, byddai'n rhaid i chi fynd drwy broses recriwtio swyddogol fel pob ymgeisydd arall i fod yn gymwys fel swyddog yr heddlu. Ewch i'n gwefan ar recriwtio Swyddogion yr Heddlu am ragor o wybodaeth.
Os ydw i'n gwneud cais i fod yn PCSO oes modd i mi wneud cais i fod yn Swyddog yr Heddlu os caiff y swyddi gwag hyn eu hysbysebu?
Gallwch wneud cais, gan nad yw'r PCSO ar hyn o bryd yn rhan o'r broses asesu genedlaethol SEARCH. Fodd bynnag, cyn ein bod yn cynnig swydd gofynnwn i chi ddewis pa broses yr hoffech aros ynddi.
Oes modd i mi dodd yn PCSO os ydw i'n gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd?
Os byddwch yn cyrraedd y cam archwiliad meddygol o'r broses recriwtio yn llwyddiannus, bydd rhaid i chi gael prawf llygad.
Mae'n rhaid i recriwtiaid newydd gael golwg 6/12 yn eu llygad dde neu chwith, neu o leiaf golwg 6/6 yn y ddau lygad.
Mae'n rhaid i'r rheini sy'n gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd gael o leiaf golwg 6/36 yn y ddau lygad heb wisgo eu sbectol neu lensys cyffwrdd.
A oes cyfyngiad taldra ar gyfer PCSOs?
Na, nid oes unrhyw ofynion o ran taldra.
Anfonwch unrhyw ymholiadau pellach drwy e-bost i: [email protected]