Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn gobeithio eich bod wedi gallu dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein gwefan i'ch helpu i ddilyn gyrfa mewn plismona. Fodd bynnag, os hoffech drafod unrhyw beth wyneb yn wyneb â ni, bydd ein tîm Gweithredu Cadarnhaol yn bresennol yn y digwyddiadau canlynol ledled de Cymru. Dewch i ddweud helo ac i ofyn i ni beth yw'r camau nesaf y dylech eu cymryd er mwyn dilyn gyrfa gyda Heddlu De Cymru.
Nodwch, os nad oes digwyddiadau wedi'u rhestru isod, yn anffodus nid ydym wedi trefnu i fynychu unrhyw ddigwyddiadau sy'n agored i'r cyhoedd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau gallwch gysylltu â'r tîm perthnasol gan ddefnyddio'r manylion isod.
10:00am - 2:00pm, Gwe 10 Chwefror 2023
Canolfan y Celfyddydau Memo, Y Barri
Yn ogystal â'r digwyddiadau hyn, mae ein timau hefyd yn mynychu nifer o ddigwyddiadau a gynhelir gan ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled de Cymru. Holwch eich darparwr addysg am y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn fuan. Os hoffech i'n tîm gynnal cyflwyniad yn eich sefydliad addysg, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r wybodaeth isod.
Diben ein digwyddiadau ymgyfarwyddo yw meithrin eich dealltwriaeth o'r prosesau a'r disgwyliadau sy'n gysylltiedig â'r broses recriwtio a hyfforddi ar gyfer ein rolau mewn lifrai craidd.
Yn ystod y sesiynau hyn, rydym yn gwahodd aelodau allweddol o'n hadran Adnoddau Dynol i drafod y broses ymgeisio a chymhwysedd yn ogystal â Swyddogion yr Heddlu a Staff yr Heddlu er mwyn rhoi syniad i chi o'u gwaith o ddydd i ddydd. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i aelodau o'r heddlu a dysgu mwy am gyfleoedd recriwtio, llwybrau mynediad a gofynion hyfforddi.
Nid oes unrhyw ddigwyddiadau wedi'u trefnu ar hyn o bryd.
Mae nifer o'n timau yn gweithio gartref o hyd felly dylech anfon eich ymholiad drwy e-bost i ddechrau:
Recriwtio Swyddogion yr Heddlu (gan gynnwys drwy'r Rhaglen Garlam i Rôl Ditectif a'r rhaglen Cyn Ymuno)
E-bost: [email protected]
Recriwtio Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Chwnstabliaid Gwirfoddol
E-bost: [email protected]
Recriwtio Staff yr Heddlu
E-bost: [email protected]
Cymorth Gweithredu Cadarnhaol
E-bost: [email protected]
Dylid anfon unrhyw ymholiadau cyffredinol drwy e-bost i: [email protected] neu os hoffech siarad ag aelod o'r tîm recriwtio, ffoniwch: 01656 869225.