Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
O ran ceisiadau swyddogion yr heddlu a gyflwynir i Heddlu De Cymru, sicrhewch eich bod yn gwneud y canlynol:
Gofynnir i chi ddarparu'r canlynol fel rhan o'ch cais ar gyfer rôl Swyddog yr Heddlu. Felly mae'n bwysig bod y canlynol yn barod gennych:
Byddwch yn ymwybodol, os bydd unrhyw broblemau yn dod i'r amlwg mewn perthynas â'r dogfennau uchod ar ôl i chi gyflwyno eich cais, bydd ein tîm Recriwtio yn cysylltu â chi i gael esboniad am wybodaeth neu i ofyn am ddogfennau wedi'u diweddaru. Bydd hyn yn arwain at oedi wrth brosesu eich cais.
Er y gallwch gyflwyno ceisiadau i heddluoedd eraill ar gyfer rôl Swyddog yr Heddlu a rolau plismona eraill ar yr un pryd, polisi Heddlu De Cymru yw gofyn i chi benderfynu pa heddlu rydych am iddo ystyried eich cais os byddwch yn llwyddiannus yn y ganolfan asesu genedlaethol. Rydym yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad yn hyn o beth.
Os byddwch wedi cyflwyno cais am rôl Swyddog yr Heddlu gyda Heddlu arall, mae'n rhaid i chi nodi hyn wrth gyflwyno cais i Heddlu De Cymru, ni waeth pa gam o'r broses recriwtio rydych wedi ei gyrraedd gyda'r cais hwnnw.
Os byddwch yn gwneud cais newydd ar gyfer rôl Swyddog yr Heddlu i Heddlu arall, neu os cewch eich gwahodd i ganolfan asesu, tra bod eich cais i Heddlu De Cymru wrthi'n cael ei brosesu o hyd, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'n tîm Recriwtio.
Os byddwch wedi mynychu canolfan asesu genedlaethol yn ystod y 24 mis cyn cyflwyno eich cais ac wedi llwyddo ym mhob cymhwysedd, gallwch ofyn i drosglwyddo’r sgôr hon i ymgyrch recriwtio Heddlu De Cymru. Bydd angen i ni gael copi electronig o'ch adroddiad adborth gan y Coleg Plismona fel tystiolaeth er mwyn gwneud hyn. Noder mai dim ond yn ystod ymgyrch recriwtio fyw y gallwn ystyried ceisiadau i drosglwyddo sgôr. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau i drosglwyddo y tu allan i'r cyfnod hwn.
Os bydd angen unrhyw wybodaeth arnoch am drosglwyddo sgorau, neu os byddwch wedi mynychu canolfan asesu ond nad oes gennych brawf eich bod wedi llwyddo, cysylltwch â ni i gael cyngor pellach cyn i chi wneud eich cais.
Ni fydd modd i chi sefyll mwy na dau brawf canolfan asesu genedlaethol ar gyfer rolau Swyddog yr Heddlu yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis. Os na fyddwch yn llwyddo yn y ganolfan asesu, mae cyfnod aros gorfodol o dri mis cyn y bydd modd i chi ailsefyll prawf y ganolfan asesu ar-lein. Ar hyn o bryd, caiff y ganolfan asesu ar-lein ei chynnal yn allanol gan y Coleg Plismona fel canolfan asesu rithwir. Dylid cyfeirio unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y broses asesu at y Coleg gan nad oes gennym fynediad at y llwyfan hwn.
Os bydd eich cais i Heddlu De Cymru yn llwyddiannus, dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gellir gofyn iddynt weithio mewn unrhyw uned Plismona Lleol yn ardal Heddlu De Cymru.
Bydd ein tîm Sefydlu yn ystyried amrywiaeth o wybodaeth wrth benderfynu ar eich lleoliad, ond gofynion y sefydliad fydd y prif ffactor a gaiff ei ystyried wrth wneud penderfyniad.
Caiff ymgeiswyr gyfnod rhybudd o bedair wythnos o leiaf cyn eu dyddiad penodi, a dylent fod yn barod i roi'r un cyfnod rhybudd i'w cyflogwr presennol. Os bydd angen i chi roi cyfnod rhybudd estynedig i'ch cyflogwr, dylech roi gwybod i'r tîm recriwtio cyn gynted ag y byddwch wedi cwblhau prawf y ganolfan asesu'n llwyddiannus.
Bydd angen i chi ddarparu o leiaf dau eirda ar gyfer cyfnod o pump blynedd er mwyn ategu eich cais pan fyddwch yn ei gyflwyno. Dylai'r rhain gynnwys eich cyflogwr diweddaraf yn ogystal ag unrhyw gyflogwyr blaenorol. Os nad ydych eisoes wedi bod mewn cyflogaeth, gallwch ddefnyddio geirda academaidd neu eirda cymeriad – er na ddylai aelod o'ch teulu nac un o Swyddogion presennol yr Heddlu ddarparu geirda cymeriad.
Fel sefydliad rydym yn annog staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn fewnol, er mwyn creu mwy o gyfleoedd i weld, clywed a defnyddio'r Gymraeg wrth weithredu ein busnes. Er y gallwch wneud cais i ymuno â'r heddlu heb unrhyw allu yn y Gymraeg, disgwylir i bob Swyddog yr Heddlu newydd gyrraedd Cymraeg lefel 2 erbyn diwedd ei gyfnod prawf. Caiff ymgeiswyr gymorth i wneud hyn pan fyddant wedi dechrau yn eu swydd, ond mae croeso iddynt ddechrau dysgu Cymraeg cyn gwneud cais.
Disodlwyd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd, mae gan y Gymraeg statws cyfreithiol cyfartal i'r Saesneg yng Nghymru, ac ni ddylid ei thrin yn llai ffafriol. Nid oes angen i gyrff cyhoeddus lunio cynlluniau'r iaith Gymraeg a'u rhoi ar waith mwyach, ond mae'n rhaid iddynt bellach gydymffurfio â chyfres o safonau Cymraeg cenedlaethol.
Bydd angen i bawb sy'n ymuno â Heddlu De Cymru gwblhau proses fetio diogelwch. Byddai'n ddefnyddiol i chi ddechrau casglu'r canlynol gan y byddant yn ofynnol fel rhan o'r broses hon:
Casglwch fanylion eich teulu/ffrindiau/cysylltiadau, h.y.:
Casglwch fanylion unrhyw gysylltiad blaenorol â'r heddlu, e.e.: