Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diben y llyfryn hwn yw rhoi gwybodaeth i unrhyw un sy'n ystyried rhoi gwybod am drais neu drosedd rywiol, yn ogystal â'r rheini sydd eisoes wedi dechrau eu taith ar ôl rhoi gwybod am drosedd o'r fath.
Mae'r daith wedi'i rhannu'n gamau o'r penderfyniad cychwynnol i roi gwybod am drosedd hyd at weithdrefnau'r llys. Ceir gwybodaeth am beth i'w ddisgwyl yn ystod pob cam o'r broses, ynghyd â chyngor ar y cymorth sydd ar gael ar hyd y ffordd.
Mae'r penderfyniad i roi gwybod am fater mor bersonol sy'n peri cymaint o ofid yn un anodd, a gall fod llawer o rwystrau i'w goresgyn. Mae'r llyfryn hwn yn esbonio'r camau gwahanol mewn ffordd syml er mwyn eich grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus o ran sut yr hoffech fwrw ati. Mae hefyd yn nodi'r cymorth a'r sicrwydd y mae gennych yr hawl i'w cael ar hyd y ffordd.
Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn lleihau rhai o'r rhwystrau ac yn rhoi tawelwch meddwl i chi yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.