Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wrth i ni fwynhau rhai dyddiau brafiach dros yr haf gobeithio a gyda llawer ohonoch yn mynd i ffwrdd ar wyliau, hoffem atgoffa preswylwyr o awgrymiadau syml i atal troseddau a chyngor diogelwch i'ch helpu i gael #HafMwyDiogel.
Gall diwrnodau heulog gynnig cyfle euraidd i ladron manteisgar wrth iddynt chwilio am dargedau hawdd.
Felly tra byddwch chi'n mwynhau'r tywydd braf, cofiwch yr awgrymiadau syml hyn i gadw eich cartref a'ch eiddo yn ddiogel
• Peidiwch byth â gadael eich drws ffrynt heb ei gloi. Peidiwch â gadael ffenestri ar agor mewn ystafelloedd â neb ynddynt, yn enwedig rhai y gellir eu cyrraedd yn hawdd o ardaloedd cyhoeddus.
• Peidiwch â gadael eitemau gwerthfawr lle gellir eu gweld – mae lleidr yn hoffi gwybod y bydd mynd i mewn i gartref yn werth chweil.
• Pan fyddwch yn tacluso'r ardd yn barod ar gyfer yr haf, peidiwch â gadael eich cyfarpar allan pan fyddwch chi tu mewn neu os nad ydych gartref – dylech ei gadw'n ddiogel dan glo.
• Os byddwch yn mynd ar wyliau ac yn bwriadu postio ar y cyfryngau cymdeithasol, gwnewch yn siŵr nad yw eich postiadau yn gyhoeddus. Gallech fod yn hysbysebu'r ffaith bod eich cartref yn wag. Hefyd, gosodwch eich larwm lladron os oes gennych un ac ystyriwch osod goleuadau a/neu radio ar amserydd.
Rhagor o wybodaeth am ddiogelu eich cartref rhag troseddau
Mynd i'r dafarn leol neu am noson yn y ddinas? Gwnewch yn siŵr fod eich noson allan yn gofiadwy am y rhesymau cywir.
Os ydych chi'n ymweld â chanol dinas Caerdydd neu Abertawe, mae gan y ddau fentrau diogelwch ar waith ar ddiwrnodau penodol lle mae swyddogion, gwirfoddolwyr a phartneriaid wrth law i helpu unrhyw un sy'n cael eu hunain mewn sefyllfa fregus. Mae mwy o wybodaeth am y Bysiau Diogelwch yng Nghaerdydd a'r Man Cymorth yn Abertawe ar gael yma.
Nid trosedd lefel isel yw ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'n difetha cymunedau ac yn cael effaith ddifrifol ar ddioddefwyr.
Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio ar bawb – a gall pawb chwarae rôl i fynd i'r afael ag ef.
Dysgwch beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol a beth gallwch ei wneud amdano yma.
Os bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnoch chi, rhowch wybod i'r sefydliad cywir. Rhagor o wybodaeth yma.
Gallwch roi gwybod am amrywiaeth o broblemau – fel cerbyd sy'n achosi niwsans, rhywun sy'n creu aflonyddwch, neu gerbyd sydd wedi'i adael – yma.
Neu rhowch wybod yn ddienw drwy Crimestoppers.
Ymgyrch Adriatic yn ailgychwyn er mwyn brwydro yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol ar lan y môr
Rydym i gyd wrth ein bodd wrth lan y môr neu'n chwarae mewn pwll pan fo'r haul yn bresennol o'r diwedd, ond mae sicrhau ein diogelwch ni a diogelwch ein plant tra yn y dŵr, neu'n agos iddo, yn hanfodol.
Dyna pam rydym yn cefnogi partneriaid fel yr RNLI a'r Gymdeithas Achub Bywyd Frenhinol UK (RLSS UK) a'u hymgyrchoedd diogelwch dŵr blynyddol.
Cynhelir Wythnos Atal Boddi rhwng 15-22 Mehefin ac mae gan RLSS UK gyfoeth o adnoddau addysgol ar gael i deuluoedd ac ysgolion.
Mae gan yr RNLI hefyd adnoddau ar gael i gefnogi eu hymgyrch ymwybyddiaeth Float To Live, sy'n rhoi cyngor ymarferol ar beth i'w wneud os byddwch mewn trafferth yn y dŵr.
Rydym yn argymell yn gryf bod pawb yn cymryd yr amser i edrych ar y ddwy wefan.
Gall fynd yn annioddefol o boeth mewn car yn gyflym, hyd yn oed pan nad yw'r tywydd yn teimlo mor gynnes â hynny. Dyma pam na ddylech fyth adael eich plentyn, ci nac anifail anwes arall mewn cerbyd, hyd yn oed am ychydig funudau. Does dim ots a yw'r cerbyd wedi'i barcio yn y cysgod neu gyda'r ffenestri ar agor.
Cyngor cadarn ar ddiogelu cŵn yn ystod tywydd poeth gan yr RSPCA.
Mae rhagor o wybodaeth am ddeddfwriaeth cŵn peryglus a pherchnogaeth gyfrifol am anifeiliaid anwes ar gael yma.
Gyda phwy i gysylltuOes gennych chi broblem ond nad ydych yn siŵr at bwy i droi? Er ein bod ni yma i helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel, weithiau mae asiantaeth bartner fel eich cyngor lleol neu'r GIG mewn sefyllfa well i'ch helpu. Bydd ceisio sicrhau eich bod yn cysylltu â'r gwasanaeth cywir nid yn unig yn arbed amser i chi, ond mae hefyd yn ein helpu i sicrhau bod ein tîm ystafell reoli ar gael i gynorthwyo'r rhai sydd fwyaf angen yr heddlu. Dylai'r graffig defnyddiol uchod, a'r dudalen hon o wybodaeth, eich helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus. Os mai ni sydd ei angen arnoch, wyddoch chi fod yna nifer o ffyrdd y gallwch gysylltu â ni? Ar gyfer materion nad ydynt yn rhai brys, gallwch siarad â ni trwy Sgwrs Fyw, amryw o ffurflenu ar-lein, a thrwy e-bost. Mwy o fanylion yma. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. Os mai diweddariad sydd angen arnoch, gallwch ofyn am un ynglŷn â nifer o faterion yma. |